Home>Cymraeg>Y Brifysgol

Y Brifysgol

Hanes y Brifysgol

​Sefydlwyd Prifysgol Metropolitan (UWIC gynt) ym 1996 pan ddaeth yn un o golegau Prifysgol Cymru. Fodd bynnag, mae gwreiddiau Prifysgol Metropolitan Caerdydd yng nghanol yr 1800au, ac mae'n falch iawn o'i hanes. Isod, ceir rhai o'r digwyddiadau pwysig dros y 150 mlynedd ddiwethaf a ffurfiodd y Brifysgol presennol.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Swyddfa'r Is-Ganghellor

Mae'r canlynol yn Aelodau o Fwrdd yr Is-Ganghellor, ac maent yn cynghori'r Is-Ganghellor, fel Prif Weithredwr, ar y gwaith o reoli Prifysgol Metropolitan Caerdydd, gan gynnwys cynnig polisïau i Fwrdd y Llywodraethwyr a sicrhau y caiff penderfyniadau eu cyfleu'n effeithiol.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Bwrdd y Llywodraethwyr

Mae gan Fwrdd y Llywodraethwyr ddyletswydd i lywodraethu Prifysgol Metropolitan Caerdydd er mwyn cyflawni a datblygu ei amcanion sylfaenol sef addysgu, dysgu ac ymchwilio, a gweithgareddau cysylltiedig. Swyddogaeth y Bwrdd yw ystyried a chymeradwyo cynllun strategol Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sy'n nodi nodau ac amcanion academaidd y Brifysgol, a goruchwylio'r strategaethau ariannol, ffisegol a staffio sydd eu hangen i'w gyflawni.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gweledigaeth a Chenhadaeth

Gweledigaeth

Nod y Brifysgol yw bod yn un o'r 10 prifysgol ôl-92 orau yn y DU gydag enw da am y canlynol:

  • Darpariaeth o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y myfyrwyr a chwricwla sy'n berthnasol yn rhyngwladol sy'n hyrwyddo cyflogadwyedd a llwyddiant personol myfyrwyr
  • Rhagoriaeth o ran trosglwyddo / datblygu gwybodaeth
  • Wedi'i hategu gan ethos cryf o ran gwaith ymchwil ac entrepreneuriaeth
  • Creadigrwydd ei staff, ei myfyrwyr a'i graddedigion
  • Rhagoriaeth ei hysgolion academaidd, gyda phob un yn chwarae rhan flaenllaw yn ei maes.

    Cenhadaeth
  • Cynnig cyfleoedd dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr ac sy'n hygyrch, yn hyblyg, yn gynhwysol, yn rhai cydol oes ac o'r safon uchaf
  • Cynnig diwylliant lle y gall ymchwil gymwysedig a menter ffynnu
  • Datblygu canolfannau rhagoriaeth sefydledig a newydd ym maes addysg broffesiynol, ymchwil gymwysedig a throsglwyddo gwybodaeth
  • Cynnig gwasanaethau sy'n diwallu anghenion Cymru a chymunedau ehangach drwy weithio mewn partneriaeth â chyrff yn y ddinas, cyrff cenedlaethol a chyrff rhyngwladol.