Home>Cymraeg>Astudio gyda ni

Astudio trwy'r Gymraeg

 

​Mae Met Caerdydd yn cynnig cyfleoedd gwych i’r myfyrwyr sy’n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwch wneud rhan sylweddol o'ch gradd trwy gyfrwng y Gymraeg mewn sawl ysgol academaidd.  Mae’r Brifysgol yn cydw​eithio’n agos iawn gyda’r Coleg Cymraeg Cenedl​aethol i ddatblygu addysg flaengar mewn meysydd newydd.

Ysgol Addysg Caerdydd

Mae mwy na 2,000 o fyfyrwyr gan Ysgol Addysg Caerdydd ac maent yn cael eu cefnogi gan fwy na 100 o staff academaidd a gweinyddol. Mae’r Ysgol wedi’i rhannu yn dair Adran, Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol i Athrawon (HACA), y Dyniaethau, a Datblygiad Proffesiynol. Gyda’i gilydd, mae’r tair Adran hon yn cynnig ystod eang o raglenni i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.

Mae’n bosib astudio drwy’r Gymraeg ar y cyrsiau isod:

BA (Anrh) Astudiaethau Addysgol (pob llwybr)

TAR Addysg Cynradd a SAC

TAR Addysg Uwchradd a SAC

Nodwch ei fod yn debygol iawn y bydd Safonau ar gyfer Statws Athro Cymwysedig yn newid ym mis Mehefin 2017 i'w weithredu ar gyfer rhaglenni sydd yn dechrau ym mis Medi 2017.  Cyfarwyddeb Llywodraeth Cymru ydy hon. 

Ysgol Chwaraeon Caerdydd

Drwy gydol y 60 mlynedd of fodolaeth Ysgol Chwaraeon Caerdydd, mae’r Ysgol wedi creu enw da yn rhyngwladol ar gyfer safon ei addysg, gwaith proffesiynol, ei hymchwil a hefyd ei digwyddiadau allgyrsiol.

Mae Ysgol Chwaraeon Caerdydd yn cynnig rhai o’r graddau israddedig ac ôl-raddedig mwyaf cyfoes a poblogaidd yn y DU. Mae’r Ysgol hefyd yn cynnig nifer o gyrsiau galwedigaethol, gan gynnwys tylino chwaraeon a chymwysterau hyfforddi.

Mae’n bosib gwneud elfennau o bob un o gyrsiau israddedig yr Ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n bosib cynnig am Ysgoloriaeth o £500 y flwyddyn drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am astudio 40 credit y flwyddyn (1/3 o’r rhaglen) drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cyrsiau canlynol:

BSc (Anrh) Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon

BSc (Anrh) Hyfforddi Chwaraeon

BSc (Anrh) Cyflyru, Adfer a Thylino Chwaraeon

BSc (Anrh) Datblygu Chwaraeon

BSc (Anrh) Gwyddor ac Ymarfer Chwaraeon

BSc (Anrh) Rheoli Chwaraeon

BSc (Anrh) Chwaraeon ac Addysg Gorfforol

BSc (Anrh) Astudiaethau Chwaraeon

Mae’n bosib cynnig am Ysgoloriaeth o £1000 y flwyddyn drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am astudio 80 credit y flwyddyn (2/3 o’r rhaglen) drwy gyfrwng y Gymraeg ar y rhaglen BSc Chwaraeon ac Addysg Gorfforol. Am fwy o wybodaeth ewch i: http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/academaidd/ysgoloriaethauisraddedig/ 

 

Ysgol Reoli Caerdydd

Mae’r Ysgol Reoli wedi ei lleoli mewn adeilad newydd modern braf yn Llandaf ac yn cynnig nifer fawr o gyrsiau ym maes busnes, marchnata, rheoli pobl, rheoli digwyddiadau, twristiaeth a lletygarwch.

Mae mwy o ddarlithwyr a myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yma nag mewn unrhyw ysgol fusnes arall yng Nghymru gyda dros 20 yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob blwyddyn. Ac mae’r Ysgol hefyd yn gartref i Ganolfan ABC, Canolfan Astudio Busnes y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’n bosib gwneud elfennau o bob un o gyrsiau sylfaen ac israddedig yr Ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. Ac mae’n bosib cynnig am Ysgoloriaeth o £500 y flwyddyn drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am astudio 40 credit y flwyddyn (1/3 o’r rhaglen) drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cyrsiau canlynol:

BA (Anrh) Astudiaethau Busnes a Rheoli

BA (Anrh) Astudiaethau Busnes a Rheoli gyda Chyllid

BA (Anrh) Astudiaethau Busnes a Rheoli gyda'r Gyfraith

BA (Anrh) Astudiaethau Busnes a Rheoli gyda Marchnata

BA (Anrh) Astudiaethau Busnes a Rheoli gyda Rheoli Adnoddau Dynol

BA (Anrh) Astudiaethau Busnes a Rheoli gyda Rheoli Systemau Gwybodaeth

BA (Anrh) Astudiaethau Busnes a Rheoli gyda Rheoli Busnes Rhyngwladol

BA (Anrh) Rheoli Marchnata

BA Rheoli Digwyddiadau

BA (Anrh) Rheoli Twristiaeth Ryngwladol

BA (Anrh) Rheoli Marchnata Twristiaeth Rhyngwladol

BA (Anrh) Rheoli Twristiaeth Rhyngwladol a Digwyddiadau

BA (Anrh) Rheoli Lletygarwch Rhyngwladol

BA (Anrh) Rheoli Marchnata Lletygarwch Rhyngwladol

BA (Anrh) Rheoli Lletygarwch Rhyngwlaodol a Digwyddiadau

BA (Anrh) Rheoli Lletygarwch a Twristiaeth Ryngwladol

Mae mwy o fanylion am y ddarpariaeth Gymraeg ar gael ar wefan Canolfan ABC, gan gynnwys manylion am y darlithwyr, myfyrwyr a pha fodiwlau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.