Home>Cymraeg>Hyfforddiant Athrawon

Hyfforddiant Athrawon UCAS

Er mwyn paratoi ar gyfer y rhaglen TAR, mae eich gwybodaeth ar gyfer ymuno ar gael drwy'r dolenni isod.

​ ​

TAR Addysg Gynradd



Gwybodaeth Ymuno


Bydd y wybodaeth isod ar gael o fis Awst ymlaen a dylech ei darllen pan fyddwch wedi derbyn cynnig Diamod Cadarn yn unig.


Gwybodaeth Sefydlu a Chofrestru

 
Eich Rhestr Wirio cyn i chi gyrraedd:

  • Rwyf wedi cwblhau'r broses am wiriad manylach gan y DBS ar-lein
  • Rwyf yn gwybod pryd a ble i fynychu ar ddydd Llun 9 Medi
  • Rwyf wedi cofrestru ar-lein yn llwyddiannus: www.cardiffmet.ac.uk/enrolment (fydd yn gymwys wedi i'r cais DBS gael ei wirio gan yr Uned Derbyniadau)
  • Rwyf wedi darllen a deall y Termau ac Amodau o fy nghais:www.cardiffmet.ac.uk/terms​​​

TAR Addysg Uwchradd

Er mwyn paratoi ar gyfer y rhaglen TAR Uwchradd, mae eich gwybodaeth ar gyfer ymuno ar gael drwy'r dolenni isod.

Gwybodaeth Ymuno Gwybodaeth Benodol am y Cwrs


Ffurflen Gwybodaeth Lleoliad - i'w gwblhau erbyn Mehefin 28

Bydd y wybodaeth isod ar gael o fis Awst ymlaen a dylech ei darllen pan fyddwch wedi derbyn cynnig Diamod Cadarn yn unig.

Gwybodaeth Sefydlu a Chofrestru Gwybodaeth Penodol am y Cwrs


Eich Rhestr Wirio cyn i chi gyrraedd:

  • ​Rwyf wedi cwblhau'r cais am wiriad manylach gan y DBS ar-lein

  • Rwyf yn gwybod pryd a ble i fynychu ar dydd Llun 9 Medi.

  • Rwyf yn ymwybodol bod gofyn i mi ymgymryd ag archwiliadau diagnostig llythrennedd a rhifedd yn ystod y pythefnos sefydlu er mwyn adnabod unrhyw anghenion cymorth ychwanegol
  • Rwyf wedi cofrestru'n llwyddiannus ar-lein: www.cardiffmet.ac.uk/enrolment (sy'n gymwys wedi i'r cais DBS gael ei wirio gan yr Uned Derbyniadau)

  • Rwyf wedi darllen a deall y Termau ac Amodau o fy nghynnig: www.cardiffmet.ac.uk/terms​​​

Cofrestru

Mae cofrestru'n broses angenrheidiol sy'n cadarnhau eich statws fel myfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae cofrestru hefyd yn caniatáu i chi gael mynediad i'ch gwybodaeth talu ffioedd, eich systemau gwybodaeth am raglenni ac yn eich galluogi i gael eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr.

Er mwyn hunan gofrestru ar-lein, rhaid eich bod wedi cael cynnig Diamod Cadarn a rhaid i chi gael eich gwiriad manylach gan y DBS wedi'i glirio a'i gadarnhau gan yr Uned Derbyniadau. Byddwch yn derbyn e-bost ym mis Gorffennaf gyda rhagor o wybodaeth ynglŷn â chofrestru.

Cyllid

Am wybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais trwy Gyllid Myfyrwyr os oes angen cyllid arnoch ar gyfer eich ffioedd dysgu, cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael ar gyfer Hyfforddiant Athrawon yng Nghymru, cliciwch yma​.​

Mae Llywodraeth Cymru yn talu'r cymhelliannau i Brifysgol Metropolitan Caerdydd sydd yn talu'r swm perthnasol i fyfyrwyr cymwys yn fisol. Nid oes rhaid i chi wneud cais ar gyfer y cymhelliant. Os ydych yn gymwys ac wedi cofrestru a dechrau eich hyfforddiant yn llwyddiannus, caiff y rhandaliadau eu talu'n uniongyrchol i chi. Byddwch yn derbyn eich rhandal cyntaf yn mis Rhagfyr ac yna'n fis Mawrth, gyda rhandal dwbl terfynol ym mis Mehefin.​

Return to the English version of this site.

​ ​