Cardiff School of Education & Social Policy>Courses>Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog) - BA (Anrh)

Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog) - BA (Anrh)

View this page in English

Rydym yn cynnig rhaglen radd BA (Anrh) arloesol mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol sy'n cynnig ystod amrywiol o fodiwlau ymarfer a theori perthnasol. 

Mae dau lwybr astudio ar gael: 

Yn y rhaglenni hyn, byddwch yn ennill statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar cymwys (EYPS), gan ennyn profiad ymarferol yn y gwaith wedi'i gyfuno â gwybodaeth ddamcaniaethol a pholisi yn ogystal â'r sgiliau trosglwyddadwy sy'n ofynnol ar gyfer ymarfer Blynyddoedd Cynnar effeithiol, gan gynnwys rheoli lleoliadau Blynyddoedd Cynnar. Datblygwyd y rhaglen mewn ymateb uniongyrchol i newidiadau yn y ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru a'r DU i ddarparu arbenigwyr plentyndod cynnar cymwys sy'n gweithio gyda phlant ifanc a'u teuluoedd. 

Agwedd sylfaenol ar y radd yw'r 700 awr o brofiad ymarferol wedi'i asesu y byddwch chi'n ei gwblhau er mwyn ennill EYPS. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau bloc yn ystod pob blwyddyn o'ch astudiaeth mewn ystod o leoliadau perthnasol fel ystafelloedd dosbarth yn yr adran babanod, meithrinfeydd preifat, canolfannau plant integredig a chyfleusterau gofal dydd. Fel rhan o'ch gradd byddwch hefyd yn treulio amser yn ein darpariaeth Ysgol Goedwig ar y campws, lle byddwch yn gallu ennill profiad uniongyrchol o'r dull deinamig hwn o addysg gynnar. Cewch hefyd gyfle i dreulio amser yn ein hystafell MiniMets a ddatblygwyd i'ch galluogi i brofi arfer rhagorol trwy sesiynau ymarferol.

Trwy ennill gradd sydd ar flaen y gad o ran newidiadau yn y sector, bydd eich cymhwyster yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan ddarpar gyflogwyr yn y maes hwn. Mae'r radd hon hefyd yn darparu sylfeini cadarn ar gyfer ystod o yrfaoedd cysylltiedig fel gwaith cymorth i deuluoedd, iechyd a gofal cymdeithasol a gwaith cymunedol. 

* Mae'r radd ddwyieithog yn canolbwyntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth academaidd ac ymarferol o addysg gynradd mewn cyd-destun dwyieithog. Tra bydd peth o'r rhaglen yn cael ei darparu trwy gyfrwng y Saesneg, mae'r rhan fwyaf o'r cwrs  dwyieithog ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cefnogaeth tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg a chyfleoedd am leoliadau cyfrwng Cymraeg. Gellir cyflwyno asesiadau yn Saesneg neu yn Gymraeg a gellir teilwra'r cynnwys Cymraeg i weddu i'ch gallu iaith. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ateb y galw cynyddol am raddedigion sydd â galluoedd a chymwysterau dwyieithog. 

Er mwyn graddio gyda'r wobr ddwyieithog, rhaid i fyfyrwyr gymryd o leiaf 80 credyd ym mhob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn hefyd yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd werth hyd at £3000 dros y tair blynedd.

Cyrsiau cysylltiedig:
BA (Anrh) Astudiaethau Addysg Gynradd
BA (Anrh) Addysg Gynradd (gyda Statws Athro Cymwysedig)

Mae'r gwybodaeth gwrs ar y dudalen hon yn ymwneud â mynediad yn  Medi 2022.

Cynnwys y Cwrs

Blwyddyn Un:

Mae'r hall fodiwlau sydd wedi'u marcio * hefyd ar gael i'w hastudio trwy gyfrwng  Cymraeg.

Ymarfer Proffesiynol (1): Datblygu Ymarfer Effeithiol (60 credyd) *
Yn ystod y modiwl hwn, cewch eich cyflwyno i ofynion y cymhwyster Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Cewch gyfleoedd helaeth yn ymarferol i ddatblygu sgiliau mewn perthynas â chreu amgylcheddau maethlon a chynhwysol sy'n darparu gofal ac addysg o ansawdd uchel. Fe'ch anogir hefyd i fyfyrio ar eich datblygiad eich hun yn eich ymarfer.

Y Plentyn sy'n Datblygu 1 (20 credyd) *
Yn ystod y modiwl hwn byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar dwf a datblygiad mewn plant. Bydd agweddau penodol ar ddatblygiad yn ystod plentyndod yn cael eu hystyried gan gynnwys meysydd fel gwybyddiaeth, cof, iaith a datblygiad emosiynol a chymdeithasol.

Y Plentyn sy'n Datblygu 2 (20 credyd) *
Yn dilyn ymlaen o Y Plentyn sy'n Datblygu 1, bydd y modiwl hwn yn caniatáu i chi archwilio ystod o safbwyntiau damcaniaethol sy'n gysylltiedig â phlant, datblygiad plant a phlentyndod a sut mae'r rhain yn effeithio ar bolisi ac arfer cyfredol. Cewch hefyd cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth mewn perthynas â nodi polisi ac arfer sy'n ymwneud ag amddiffyn a diogelu plant.

Dysgu Cynnar (20 credyd) *
Bydd sesiynau rhyngweithiol yn darparu cyfleoedd i archwilio gwerth a phwysigrwydd chwarae ym mywydau plant, mewn theori ac ymarfer. Byddwch yn astudio sut a pham mae plant yn chwarae, rôl oedolion ac amgylcheddau wrth ddarparu chwarae i blant 0 i 8 oed ac yn ystyried y buddion a'r heriau posibl yn y busnes hwyliog ond difrifol o ddarparu ar gyfer chwarae plant. Byddwch yn archwilio prosesau a safbwyntiau damcaniaethol caffael iaith a datblygiad mathemategol cynnar trwy werthuso ffactorau allweddol sy'n effeithio ar y ddau faes hyn.


Blwyddyn Dau:

Datblygiad Proffesiynol 2: Gweithio gydag eraill (60 credyd) *
Yn ystod y modiwl hwn, byddwch yn datblygu ymhellach y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, gan ganolbwyntio ar weithio gyda theuluoedd. Cewch cyfleoedd helaeth yn ymarferol i ddatblygu eich dealltwriaeth o ystod o fframweithiau a ddefnyddir mewn lleoliadau, gan ddatblygu sgiliau wrth greu amgylcheddau cefnogol ar gyfer darparu cyfleoedd chwarae, gofal, addysgol a dysgu. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn prosesau asesu a chynllunio. Bydd cyfleoedd hefyd i archwilio nodweddion entrepreneuriaeth mewn cyd-destun blynyddoedd cynnar a thrwy hynny ganiatáu i chi ddatblygu galluoedd entrepreneuriaeth.

Addysgeg ac Ymarfer yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd)
Mae'r modiwl Addysgeg ac Ymarfer yn y Blynyddoedd Cynnar yn caniatáu i chi ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r safbwyntiau athronyddol a damcaniaethol sy'n sail i addysgeg ac ymarfer. Cewch gyfle i werthuso ffactorau sy'n effeithio ar brofiadau plant o addysgeg ac ymarfer gan gynnwys rôl yr oedolyn, yr amgylchedd ac ethos ynghyd ag archwilio ac adolygu gweithrediad addysgeg yn ymarferol.

Dod yn Ymchwilydd (20 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn datblygu eich gallu i ymgysylltu'n feirniadol â ffynonellau academaidd a adolygir gan gymheiriaid. Byddwch yn archwilio materion critigol mewn perthynas ag ymgymryd ag ymchwil gan gynnwys materion moesegol a sicrhau caniatâd neu gydsyniad gwybodus. Bydd ystod o ddulliau methodolegol ac offer ymchwil arloesol yn cael eu gwerthuso i ddarparu profiad wrth weithredu a dadansoddi data.

Arweinyddiaeth a Rheolaeth (20 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn caniatáu i chi archwilio ystod o sgiliau rheoli allweddol sy'n gysylltiedig â rheoli newid a rheoli prosiectau. Byddwch yn archwilio amrywiol ddulliau a fydd yn caniatáu i chi ddatrys gwrthdaro yn y gweithle tra hefyd yn gwerthuso dulliau i ysgogi ac ymgysylltu â thimau a rheoli perthnasoedd yn hyderus. Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i dystiolaethu eich galluoedd arwain a bydd yn arwain at gymhwyster arweinyddiaeth a rheolaeth gydnabyddedig ILM.

Blwyddyn Tri

Datblygiad Proffesiynol 3: Arweinyddiaeth a Rheolaeth (60 credyd)
Yn ystod y modiwl hwn, bydd cyfleoedd ymarferol helaeth yn eich galluogi i gyflawni'r gofynion sy'n gysylltiedig â chymhwyster Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth a rheolaeth, gan ddarparu cyfleoedd i chi ddatblygu sgiliau wrth arwain a chefnogi gofal ac addysg o ansawdd uchel. Byddwch yn archwilio ystod o bolisïau ac yn ystyried eu heffaith ar ymarfer. Byddwch hefyd yn ystyried egwyddorion gwerthuso gwasanaethau blynyddoedd cynnar yn effeithiol. Bydd y modiwl hwn yn eich arfogi â sgiliau i gefnogi'ch dysgu eich hun a dysgu eraill trwy gymunedau ymarfer. 

Ymarfer Cynhwysol yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd)
Trwy gydol y modiwl hwn byddwch yn archwilio'n feirniadol egwyddorion ac arferion allweddol cynhwysiant yn y Blynyddoedd Cynnar, gan gynnwys rôl yr Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Byddwch yn gwahaniaethu rhwng ac yn dadansoddi'r materion allweddol sy'n gysylltiedig â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Byddwch yn archwilio ac yn gwerthuso cynllunio a threfnu ymyriadau a strategaethau ar gyfer cefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a chynhwysiant.

Prosiect Ymchwil Annibynnol (40 credyd) *
Bydd y modiwl hwn yn caniatáu i chi ddatblygu'ch gallu i ymchwilio'n annibynnol mewn maes sydd o ddiddordeb penodol i chi. Yn benodol, byddwch yn gallu dewis, rhesymoli a gweithredu prosiect ysgrifenedig estynedig ac yna cyflwyno'r prosiect yn gydlynol ac yn llawn mewn arddull academaidd. Byddwch yn derbyn arweiniad a chefnogaeth gan eich goruchwyliwr trwy gydol y prosiect.

Dysgu ac Addysgu

​Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu sydd wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer ystod o anghenion dysgu. Mae hyn yn cynnwys gweithdai, seminarau, darlithoedd, amgylcheddau dysgu rhithwir, teithiau maes ac ymweliadau. Mae pob myfyriwr yn cael profiadau awyr agored o ddysgu trwy dreulio amser mewn ardaloedd coetir gan archwilio'r amgylchedd naturiol a'i botensial. Mae lleoliadau yn y gwaith wedi'u hymgorffori trwy gydol y cwrs. Mae gan bob modiwl 10 credyd oddeutu 100 awr o astudio ynghlwm wrtho. Bydd 24 o'r rhain yn cael eu cyflwyno mewn sesiynau a addysgir fel darlithoedd, seminarau a gweithdai sydd fel arfer wedi'u trefnu i fod dwy awr yr wythnos. Neilltuir oddeutu 26 awr ar gyfer tasgau astudio a pharatoi dan gyfarwyddyd a osodir yn wythnosol fel rhan o'r sesiynau a addysgir ac mae'r 50 awr sy'n weddill yn astudiaeth hunangyfeiriedig lle mae myfyrwyr yn ymgymryd â'r darllen sy'n ofynnol ar gyfer y modiwl ac yn cwblhau eu hasesiad gofynnol. 

Neilltuir tiwtor personol i bob myfyriwr pan fyddant yn cychwyn ar y cwrs ac mae'r tiwtor hwn yn eu cefnogi am eu gradd gyfan. Mae cyfarfodydd gyda'r tiwtor personol wedi'u hamserlennu y mae myfyrwyr yn eu mynychu, ond mae tiwtoriaid hefyd yn gweithredu polisi drws agored sy'n caniatáu i fyfyrwyr gael mynediad atynt y tu allan i'r cyfarfodydd a drefnwyd. Mae gan y brifysgol ddarpariaeth cymorth myfyrwyr sydd wedi'i hen sefydlu ar gyfer myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae hefyd yn gallu delio ag unrhyw faterion sy'n codi yn ystod astudiaethau myfyriwr. 

Cefnogir y modiwlau trwy ddefnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, Moodle, sydd ar y we ac felly mae'n hygyrch yn unrhyw le trwy'r rhyngrwyd. Mae'r holl ddeunydd sy'n seiliedig ar gyrsiau yn cael ei gadw yma, gan gynnwys cyflwyniadau darlithoedd a seminarau, gwybodaeth asesu a darllen neu adnoddau ychwanegol. Mae tiwtoriaid hefyd yn defnyddio Moodle i e-bostio myfyrwyr gyda gwybodaeth a diweddariadau. 

Daw'r staff ar y rhaglen hon o ystod o gefndiroedd gan gynnwys gwaith chwarae, gwaith cymorth ac addysgu. Maent wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu cefnogol o ansawdd uchel.

Asesu

Mae asesiadau wedi'u cynllunio i wneud y mwyaf o ddysgu a darparu cyfleoedd realistig i arddangos gwybodaeth. Traethodau, creu adnoddau, dadleuon blog, gweithdai, cyflwyniadau, arsylwi a phortffolios ar-lein yw rhai o'r dulliau a ddefnyddir i asesu eich gwybodaeth, sgiliau a'ch dealltwriaeth o gynnwys modiwl. Rhoddir y dyddiadau cyflwyno i fyfyrwyr ar gyfer asesiadau ar ddechrau pob modiwl, yn ogystal â grid trosolwg asesu ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan i'w helpu i gynllunio a rheoli eu hamser yn effeithiol. Mae myfyrwyr yn derbyn adborth unigol ar eu gwaith sy'n nodi cryfderau a meysydd i'w gwella. Tra byddant ar leoliad, bydd myfyrwyr yn derbyn adborth llafar gan eu mentoriaid yn ddyddiol yn ogystal ag adborth ysgrifenedig yn dilyn ymweliad gan eu Tiwtor Prifysgol.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Cynhyrchir sgiliau cyflogadwyedd trwy brofiad mewn lleoliadau yn y gwaith; o fewn yr amgylchedd addysgu a dysgu a thrwy ystod o brosiectau ymgysylltu â'r gymuned. Yn ogystal â'r rhaglen, cewch gyfleoedd i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch profiad ymhellach.  Er enghraifft, rydym yn darparu cyfleoedd ychwanegol i ennill achrediad mewn cymwysterau Ysgol Goedwig a NSPCC o fewn dau fodiwl cwrs. 

Mae ein graddedigion yn cyrchu ystod o swyddi a chyfleoedd cyflogaeth gan gynnwys astudio ymhellach mewn addysg trwy'r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg neu'r Rhaglen Athrawon Graddedig. Mae ein graddedigion wedi dilyn gyrfaoedd mewn ystod o feysydd gan gynnwys rheoli meithrinfa, lles addysgol ac fel swyddogion addysg leol ar gyfer awdurdodau addysg leol.  Mae graddedigion hefyd wedi dilyn gyrfaoedd mewn gwaith cymorth i deuluoedd a gofal cymdeithasol. 

Dilyniant i Hyfforddiant Athrawon TAR:
Rydym yn falch o sicrhau cyfweliad ar gyfer y Cwrs Cynradd TAR ym Met Caerdydd ar gyfer holl raddedigion y rhaglen hon (ar yr amod bod y cwrs ar agor gydag UCAS). Mae angen dosbarthiad gradd Anrhydedd o 2:2 neu'n uwch ar hyn o bryd, a rhaid cwrdd â'r gofynion mynediad statudol ar gyfer hyfforddiant yng Nghymru (gan gynnwys graddau B neu gyfwerth mewn TGAU ar gyfer Saesneg a Mathemateg, gradd C ar gyfer Gwyddoniaeth).

Mae cyfleoedd ar gyfer astudio ôl-raddedig pellach ym Met Caerdydd hefyd ar gael trwy'r rhaglen M.A. Addysg a gynigiwn.

Gofynion Mynediad a Sut mae Gwneud Cais

Dylai fod gan ymgeiswyr 104 pwynt o 2 Lefel A o leiaf (neu gyfwerth). Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:

  • 104 pwynt o 2 Lefel A o leiaf i gynnwys gradd Safon Uwch C. Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn cael ei hystyried yn drydydd pwnc
  • Diploma Estynedig Cenedlaethol / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt RQF BTEC Lefel 3 gyda gradd gyffredinol o MMM
  • Diploma CACHE gyda gradd C drwyddi draw (lleiafswm o 96 pwynt)
  • 104 pwynt o Irish Leavers Certificate mewn Highers i gynnwys graddau 2 x H2 (yr isafswm gradd a ystyrir yw H4)
  • 104 pwynt o Scottish Advanced Highers i gynnwys gradd D. Ystyrir Scottish Highers hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu mewn cyfuniad.
  • 102 pwynt o'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch

Os ydych chi'n astudio cyfuniadau o'r uchod, neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS am y gofynion mynediad. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o'r UE trwy glicio yma.

Os ydych chi'n ymgeisydd hŷn a bod gennych gymwysterau neu brofiad amgen yr hoffech i ni eu hystyried, cysylltwch ag aelod o staff. 

Mae mynediad i'r rhaglen hon hefyd yn destun gwiriad DBS boddhaol. Mae mwy o fanylion am weithdrefnau cofnodion troseddol ar gael yn www.cardiffmet.ac.uk/dbs.

Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefn Ddethol:
Gwneir cynigion yn seiliedig ar gais trwy UCAS gyda sylw penodol yn cael ei roi i'r datganiad personol.

Sut i wneud cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn (amser llawn) ar-lein i UCAS  www.ucas.com . I gael rhagor o wybodaeth am geisiadau amser llawn a rhan amser, ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais yma www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.

Dylid gwneud ceisiadau rhan-amser yn uniongyrchol i'r Brifysgol drwy www.cardiffmet.ac.uk/selfservice

Dysgu Blaenorol Cydnabyddedig (RPL) a Throsglwyddo Credyd i flwyddyn 2 a 3

Os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo credyd o sefydliad arall i astudio ym Met Caerdydd ar gyfer cwrs sy'n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a / neu 3, gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am hyn ac ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL. Cysylltwch â Derbyniadau oes oes gennych unrhyw ymholiadau  ar RPL. 

Myfyrwyr hŷn

Ymgeisydd hŷn yw unrhyw un dros 21 oed na aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn a gellir dod o hyd i gyngor a gwybodaeth bellach yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch: ​askadmissions@cardiffmet.ac.uk

Os oes gennych ymholiadau penodol am gwrs, cysylltwch â Cheryl Anthony
E-bost: canthony@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2041 6583 

Os oes gennych ymholiadau cyfrwng Cymraeg, cysylltwch â:
Angharad Williams (ahwilliams@cardiffmet.ac.uk)

Gwybodaeth Cwrs Allweddol

Côd UCAS:
Early Years Professional Practice (with Early Years Practitioner Status): XYP1 

Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog): XBP1​​​​ ​​​

Lleoliad Astudio:
Campws Cyncoed 

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y cwrs:
Tair blynedd llawn-amser.

Ar gael yn rhan-amser hefyd a gall gymryd hyd at uchafswm o ddeng mlynedd.

Ffioedd Rhan Amser:

Codir taliadau fesul modiwl sengl oni nodir yn benodol: israddedig = 10 credyd. Yn gyffredinol, bydd myfyrwyr yn astudio 60 credyd y flwyddyn; i gael gwir gost, eglurwch hyn trwy gysylltu ag arweinydd y rhaglen yn uniongyrchol.

Astudio Trwy'r Gymraeg
Blog
Yr hyn dwi wedi ei ddysgu mor belled ar fy nghwrs Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol

Mae Cari yn dweud wrthym am ei phrofiadau o astudio'r cwrs Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Darllen mwy.

Blog
Fy nhaith yn astudio'r cwrs Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol.

Mae Anna yn dweud wrthym am ei phrofiadau mor belled ar y cwrs a pham ei bod hi wedi penderfynnu i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Darllen mwy

Chwaraeon Perfformiad

Mae Met Caerdydd yn darparu ac yn rheoli amgylchedd Cynllun Gyrfa Ddeuol achrededig TASS sy’n caniatáu i fyfyrwyr gyflawni eu potensial academaidd ochr yn ochr â hyfforddi, chwarae a pherfformio yn eu dewis chwaraeon.


Gyda phrofiad personol o gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol ac ymgymryd ag ymchwil sy’n arwain y byd, mae ein staff academaidd a Chwaraeon Perfformiad yn creu amgylchedd cwbl unigryw o ragoriaeth chwaraeon. Mae’r model integredig yn golygu y gallwch fod yn sicr bod ein rhaglenni’n cael eu llywio gan y gwasanaethau hyfforddi a chymorth diweddaraf i gyd wedi’u cynllunio i’ch datblygu fel athletwwr. Ynghyd â’n partneriaethau allweddol gydag amrywiaeth o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol, mae ein rhaglenni’n gweithio ochr yn ochr â llwybrau talent cydnabyddedig. Darllen mwy.

Gellir dod o hyd i delerau ac amodau llawn mewn perthynas â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd trwy ymweld â www.metcaerdydd.ac.uk/terms