Uwchradd - TAR

VIEW THIS PAGE IN ENGLISH

Os ydych wedi graddio mewn pwnc arbenigol sy'n mynd â'ch bryd ac yn awyddus i ysbrydoli pobl ifanc, dyma'r cwrs i chi! Cwrs blwyddyn sy'n arwain at statws athro cymwysedig yw'r radd TAR Addysg Uwchradd.  Nod y cwrs yw paratoi athrawon dan hyfforddiant i fod yn ymarferwyr medrus, hyderus ac arloesol sy'n gallu myfyrio'n feirniadol ac sy'n ymrwymedig i ddysgu proffesiynol gydol oes ac i addysg pobl ifanc.   

Mae'r cwrs yn darparu hyfforddiant proffesiynol i raddedigion sy'n dymuno addysgu'r meysydd pwnc canlynol:

  • Celf a Dylunio*

  • Bioleg gyda Gwyddoniaeth*

  • Cemeg gyda Gwyddoniaeth*

  • Dylunio a Thechnoleg (Dylunio Cynnyrch, Bwyd a Maeth, Ffasiwn a Thecstilau a Dylunio Peirianneg)*

  • Drama

  • Saesneg  

  • Daearyddiaeth

  • Hanes (ar gau ar gyfer ceisiadau mynediad Medi 2021)

  • Technoleg Cyfathrebu Gwybodaeth a Chyfrifiadureg*

  • Mathemateg*

  • Ieithoedd Tramor Modern (Gan arbenigo naill ai mewn Ffrangeg, Ffrangeg a Sbaeneg, neu Ffrangeg ac Almaeneg. Mae lleoliadau cyfyngedig yn Ffrainc/Yr Eidal a hefyd lleoliadau cyfyngedig yn Sbaen ar gael)*

  • Cerddoriaeth

  • Addysg Gorfforol

  • Ffiseg gyda Gwyddoniaeth*

  • Addysg Grefyddol

  • Cymraeg*

*Pynciau sy'n berthnasol i Ostyngiad Alumni 25%

Dyma rai o nodweddion nodedig y cwrs:

  • 60 credyd ar lefel Meistr y gellir eu defnyddio ar gyfer MA mewn Addysg 

  • Profiadau prifysgol ac ysgol sy'n hyfforddi myfyrwyr i addysgu'r Cwricwlwm i Gymru ar draws ystod oedran lawn yr ysgol uwchradd 

  • Ymarfer clinigol wedi'i oleuo gan ymchwil lle y bydd cyfleoedd strwythuredig yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i ddefnyddio theori i holi ymarfer a'r gwrthwyneb

  • Diwylliant dysgu cefnogol a chydweithredol 

  • Diwrnodau hyfforddi o dan arweiniad ysgolion a fydd wedi'u hadnabod yn ddarparwyr blaengar addysg a datblygiad proffesiynol 

  • Diwrnod 'dychwelyd i'r brifysgol' a/neu i ysgolion arweiniol y bartneriaeth bob wythnos i atgyfnerthu a chydlynu'r dysgu 

  • Cyfleoedd ar gyfer dysgu traws-gyfnod gyda'n rhaglen TAR Uwchradd 

  • Cyfleoedd cyfoethogi person-ganolog i gael adeiladu ar gryfderau a datblygu sgiliau arwain a dysgu proffesiynol, cydweithredol ac arloesol 

  • Ymrwymiad i ddatblygu sgiliau Cymraeg pob athro dan hyfforddiant yn seiliedig ar eu profiad a'u hanghenion unigol 

I gael gwybod mwy am y llwybrau unigol ewch i wefan Hyfforddiant Athrawon UCAS, neu cysylltwch ag arweinydd y llwybr unigol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a restrir o dan 'Cysylltu â ni'.

Noder: Mae cyrsiau AGA yng Nghymru wedi cwblhau proses achredu Cyngor y Gweithlu Addysg yn ddiweddar). Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu cyrsiau AGA TAR Cynradd a TAR Uwchradd fel rhan o Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon

​Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon

Mae hyfforddi i addysgu ym Met Caerdydd yn gyfle cyffrous i ddysgu o fewn Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, sef yr unig ddarparwr hyfforddiant TAR yn Ne-ddwyrain Cymru i gael ei achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg. 

Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn cynnwys Met Caerdydd a'i hysgolion cysylltiedig, gan gydweithio â Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd, Consortiwm Canolbarth y De (CSC), Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS) a Chyngor Dinas Caerdydd. Mae Partneriaeth Caerdydd yn cydweithio i sicrhau y bydd ein hathrawon dan hyfforddiant nid yn unig yn cyrraedd y safonau proffesiynol ar gyfer SAC ond yn ceisio gwneud mwy na hynny drwy addysg broffesiynol o safon uchel sy'n ymarferol drylwyr ac yn ddeallusol heriol.

Bydd graddedigion yn datblygu'r gwerthoedd a'r nodweddion a fydd yn eu galluogi i fod yn gyflogadwy iawn ac yn barod i fodloni gofynion yr ystafell ddosbarth. 

Dysgwch fwy am Bartneriaeth Caerdydd.

Cynnwys y Cwrs

Bydd cyfanswm o 120 diwrnod yn cael eu treulio mewn ysgol yn ystod blwyddyn y TAR Uwchradd. Bydd 15 o'r diwrnodau'n cael eu treulio mewn cynghreiriau/ysgolion arweiniol y bartneriaeth (LPS/A) lle bydd athrawon dan hyfforddiant yn gallu canolbwyntio ar agweddau allweddol ar addysgeg dan law darparwyr  blaenllaw addysg a datblygiad proffesiynol yn y sector cynradd.  Bydd profiadau dysgu seiliedig ar waith a phrofiadau dysgu yn y Brifysgol yn cael eu hintegreiddio'n agos a bydd strwythur y rhaglen (un diwrnod yr wythnos yn y brifysgol/LPS/A a phedwar diwrnod yr wythnos ar ymarfer clinigol) yn hwyluso hyn. 

Mae'r rhaglen TAR Uwchradd yn cynnwys tri modiwl: 

Ymarfer Clinigol ac Atebolrwydd Proffesiynol 1 (30 credyd ar lefel 6)  

Mae'r modiwl hwn yn seiliedig yn yr ysgol yn bennaf ac mae'n digwydd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn academaidd.  Bydd disgwyl i athrawon dan hyfforddiant addysgu mewn tîm ac addysgu'n annibynnol am tua 45% o'r amser.  Mae gweddill yr amser yn darparu cyfleoedd ar gyfer arsylwi, ymchwil ac ymholi, cynllunio, paratoi ac asesu.  Mae'r modiwl hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. 

Ymarfer Clinigol ac Atebolrwydd Proffesiynol 2 (30 credyd ar lefel 6)  

Mae'r modiwl hwn yn seiliedig yn yr ysgol yn bennaf ac mae'n digwydd yn ystod ail hanner y flwyddyn academaidd.  Bydd disgwyl i athrawon dan hyfforddiant addysgu'n annibynnol yn bennaf am tua 65% o'r amser.  Mae gweddill yr amser yn darparu cyfleoedd ar gyfer arsylwi, ymchwil ac ymholi, cynllunio, paratoi ac asesu.  I'r rhan fwyaf o athrawon dan hyfforddiant, bydd cyfle i ymgymryd â 15 diwrnod ar ddiwedd y modiwl lle byddant yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi i adeiladu ar eu cryfderau/meysydd i'w datblygu sy'n gysylltiedig ag arloesi ac arweinyddiaeth fel arfer.  Bydd y ffocws yn cael ei drafod gyda'u Mentoriaid a'u Tiwtoriaid Prifysgol, yn cael ei deilwra i ateb eu hanghenion, a bydd yn eu cefnogi i gyflawni y tu hwnt i'r Safonau SAC yn ogystal â chyfrannu at eu Proffil Dechrau Gyrfa. Mae'r modiwl hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. 

Safbwyntiau mewn Dysgu ac Addysgu (60 credyd ar lefel 7)  

Mae'r modiwl blwyddyn o hyd hwn yn cynnwys 8 prif agwedd: 

  • Astudiaethau Craidd
  • Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgeg
  • Meysydd Dysgu a Phrofiad
  • Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd
  • Astudiaethau Pwnc
  • Datblygu'r Gymraeg
  • Llesiant, gan gynnwys Datblygiad Personol a Chynllunio  
  • Ymarfer Clinigol a Chymorth Ymchwil  

Bydd y modiwl mawr hwn yn defnyddio amrywiaeth o ddamcaniaethau, ymchwil ac adnoddau deallusol eraill yn ogystal â phrofiad uniongyrchol athrawon dan hyfforddiant mewn ysgolion i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth am ddysgu ac addysgu.  Mae hyn yn cynnwys agweddau fel datblygiad dynol; y cwricwlwm a'r system addysg; anghenion dysgu ychwanegol; defnyddio data ac asesu; a rheoli a threfnu ystafell ddosbarth.  Yn ogystal â datblygu gwybodaeth am gwricwlwm ac addysgeg eu pwnc dewisol o fewn y modiwl hwn, bydd athrawon dan hyfforddiant yn archwilio cyfleoedd i weithio'n greadigol ac ar y cyd ar draws ffiniau pwnc.  Mae o leiaf hanner y modiwl hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. 

Datblygu'r Gymraeg
Bydd pob athro dan hyfforddiant yn cael 25 awr o addysgu uniongyrchol mewn perthynas â datblygu'r Gymraeg.   

Bydd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn cael sesiynau Gloywi Iaith a fydd yn ymdrin ag elfennau gramadegol y Gymraeg a chaiff athrawon dan hyfforddiant eu hyfforddi yn y dulliau sy'n gysylltiedig â datblygu sgiliau llythrennedd personol disgyblion a'u dealltwriaeth o gefndir ieithyddol-gymdeithasol y dysgwyr.     

Bydd dysgwyr Cymraeg a siaradwyr Cymraeg datblygol yn cael eu haddysgu mewn grwpiau wedi'u ffrydio yn ôl profiad a chymhwyster blaenorol a byddant yn cael cyflwyniad cadarn i'r Gymraeg yn seiliedig ar lefel eu gallu.  Bydd pob un ohonynt yn datblygu lefel sylfaenol o Lafaredd o leiaf.  

Ymrwymiad amser gofynnol
Rhaglen amser llawn yw hon ac mae'r elfen ysgol yn golygu bod gofyn i athrawon dan hyfforddiant fod yn yr ysgol ar gyfer diwrnod gwaith arferol yr ysgol yn ogystal ag amser ychwanegol cyn ac ar ôl ysgol ar gyfer paratoi a chyfarfodydd.   Mae angen ymrwymiad proffesiynol tebyg gan athrawon dan hyfforddiant wrth ymgymryd ag elfen prifysgol y cwrs.  

Dysgu ac Addysgu

Mae'r cyfleoedd addysgu a dysgu yn y brifysgol ac yn yr ysgol wedi'u cynllunio i ategu ei gilydd er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gwneud y cynnydd gorau posib. Mae'r dulliau a ddefnyddir yn pwysleisio ac yn hwyluso sgiliau datblygu hollbwysig athrawon dan hyfforddiant, ac yn canolbwyntio ar integreiddio ymchwil ac ymholi, ymarfer a theori. Yn y Brifysgol ac mewn lleoliadau ysgol fel ei gilydd, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael profiad o ddulliau dysgu dan arweiniad tiwtor a dysgu hunangyfeiriedig fel arfer, gan ddatblygu annibyniaeth a myfyrio cynyddol wrth iddynt weithio'u ffordd drwy'r cwrs.  Bydd cyfleoedd rheolaidd drwy gydol y cwrs i athrawon dan hyfforddiant adolygu eu cynnydd personol gyda'u tiwtoriaid a chymryd cyfrifoldeb am gynllunio a gweithredu eu dysgu eu hunain.  

Yn y brifysgol, gall y dulliau dysgu ac addysgu a ddefnyddir mewn modiwlau gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai a thiwtorialau, i gyd wedi'u hategu drwy ddefnyddio amgylchedd dysgu rhithwir Metropolitan Caerdydd. Mewn llawer o'r modiwlau, y strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir fydd y rhai sydd â'r dystiolaeth ymchwil gryfaf o effaith ar ddysgu athrawon dan hyfforddiant a chyrhaeddiad disgyblion e.e. microaddysgu, ymarfer clinigol ac adborth, metawybyddiaeth a hunanreoleiddio, addysgu uniongyrchol a dysgu gwrthdro. Lle y bo'n bosibl, bydd gweithdai'n cael eu darparu mewn amrywiaeth o feysydd traws-gyfnod, trawsgwricwlaidd a'r un meysydd pwnc sy'n rhoi digon o gyfleoedd i athrawon dan hyfforddiant ddysgu o brofiadau amrywiol ei gilydd. 

Yn ystod dysgu yn yr ysgol, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael eu harwain gan ddulliau addysgu mewn tîm yn ogystal â chymryd rhan mewn addysgu annibynnol, a bydd gofyn iddynt gymryd cyfrifoldeb cynyddol am addysgu dosbarth, neu ddosbarthiadau, yn annibynnol dros gyfnod parhaus a sylweddol.  Bydd Ymarfer Clinigol yn cynnwys amser dan gyfarwyddyd ar gyfer Ymchwil ac Ymholi; addysgu annibynnol ac mewn tîm; a chynllunio, paratoi ac asesu.  Yn ogystal, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael pymtheg diwrnod hyfforddi dan arweiniad Cynghreiriau/Ysgolion Arweiniol y Bartneriaeth.  Yn ystod y diwrnodau hyn, defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu gan gynnwys archwilio dogfennau'r ysgol, cylchoedd dysgu, deialog myfyriol wedi'i hysgogi gan fideo, teithiau cerdded dysgu, sgyrsiau dysgu gyda disgyblion neu athrawon a chraffu ar lyfrau. 

Asesu

Mae'r cwrs yn cynnwys dau aseiniad ysgrifenedig ar lefel 7 sy'n cael eu gwasgaru drwy gydol y flwyddyn. Mae'r ddau aseiniad prifysgol yn meithrin gallu athrawon dan hyfforddiant i fyfyrio'n feirniadol ar addysgeg ac ymarfer a'u gwerthuso tra'n gwella eu gallu i fodloni elfennau o'r Safonau SAC. Yn ogystal, mae'r aseiniadau wedi'u cynllunio i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ymchwil athrawon dan hyfforddiant, gan roi cyfle iddynt gysylltu theori ag ymarfer mewn ffordd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion, gwella ysgolion a'u hymarfer proffesiynol eu hunain. Bydd Mentoriaid yn yr ysgol a Thiwtoriaid Prifysgol yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant wrth iddynt gwblhau'r aseiniadau hyn. Bydd cydweithio ag athrawon dan hyfforddiant eraill yn elfen annatod o un o'r aseiniadau.

Bydd pob athro dan hyfforddiant yn cael ei asesu yn erbyn y Safonau SAC a rhaid iddo basio'r holl Safonau i ennill statws athro cymwysedig. Yn ystod yr ymarfer clinigol, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael adborth ffurfiannol llafar ac ysgrifenedig parhaus yn ogystal ag adroddiadau crynodol. Fel rhan o'r cwrs, bydd athrawon dan hyfforddiant yn casglu tystiolaeth wrth ddangos eu cyrhaeddiad a'u cyflawniad a bydd y dystiolaeth hon ar gael i Diwtoriaid Personol fel y gallant fonitro cynnydd yn rheolaidd.

Archwilir gwybodaeth am bwnc athrawon dan hyfforddiant ar ddechrau'r rhaglen, ac yna bydd myfyrwyr yn cynhyrchu cynllun gweithredu unigol i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau yn eu gwybodaeth am bwnc, gyda chymorth Tiwtoriaid Prifysgol. Caiff casgliad o fesurau eu mabwysiadu wedyn i sicrhau bod yr holl fylchau a nodwyd yn cael sylw, gan gynnwys gweithdai gwybodaeth am bwnc, ymchwil pwnc gyda mentoriaid yn yr ysgol, neu hunan-astudio dan gyfarwyddyd. 

Oherwydd y ffocws ar lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn y cwricwlwm yng Nghymru, bydd pob athro dan hyfforddiant yn cwblhau archwiliadau mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol ar ddechrau ac ar ddiwedd y rhaglenni. Yn bennaf, bydd hyn yn helpu i nodi cryfderau a meysydd i'w datblygu a mynd ati i astudio i lenwi'r bylchau mewn gwybodaeth a sgiliau. Bydd athrawon dan hyfforddiant a allai elwa ar gymorth pellach yn cael sesiynau cymorth ychwanegol.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Bydd cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn arwain at argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg am Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac yn darparu cyfleoedd i gael cyflogaeth ar y lefel gynradd. Gall graddedigion gael gwaith mewn ysgolion ledled Cymru, y DU a thramor.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ddarparu amrywiaeth eang o brofiadau a fydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i'n graddedigion i'w paratoi'n dda ar gyfer byd gwaith. Mae Ysgolion Arweiniol Partneriaeth Caerdydd wedi'u nodi fel darparwyr blaenllaw addysg a datblygiad proffesiynol yng Nghymru ac felly mae'r cyfle i ddysgu ganddynt hwy ac o fewn eu hamgylchedd yn golygu y dylai datblygiad gyrfa o fod yn athro dan hyfforddiant i fod yn Athro Newydd Gymhwyso fod yn ddi-dor. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Darganfod Addysgu.  

Beth alla i ddisgwyl ei ennill pan fydda i'n dechrau addysgu?
Gellir cael gwybodaeth ar wefan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion

Datblygiad proffesiynol:

Mae'r rhaglen yn cynnig mantais tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus hefyd drwy roi 60 credyd ar lefel Meistr.  Gellir trosglwyddo'r credydau hyn tuag at gymhwyster Meistr llawn a astudir yn llawn amser neu'n rhan amser.

Am ragor o wybodaeth gweler MA Addysg (gyda Llwybrau).

Gofynion mynediad

Mae mesurau eraill wedi'u rhoi ar waith i sicrhau y gall ymgeiswyr fodloni gofynion drwy gyfweliadau ar-lein, mewn perthynas â phrofiad, profion mynediad a phrofion cyfwerthedd, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Cysylltwch â'n tîm derbyn os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â gwneud cais.

Meini Prawf Hanfodol

Bydd rhaid i bob ymgeisydd wneud cais drwy UCAS UTT drwy lenwi ffurflen gais ar-lein. Yna caiff ceisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf mynediad ar gyfer y rhaglen berthnasol a gwahoddir ymgeiswyr i fynychu cyfweliad ar sail y wybodaeth hon. 

Dylai pob ymgeisydd :

  • fod â chefndir blaenorol mewn addysg sy'n darparu'r sylfaen angenrheidiol ar gyfer gweithio fel athro yn y cyfnod perthnasol ac yn y pwnc arbenigol; 
  • meddu ar y doniau, y gallu a'r gwydnwch i fodloni'r canlyniadau SAC gofynnol erbyn diwedd eu rhaglen AGA; 
  • meddu ar y rhinweddau personol a deallusol priodol i ddod yn ymarferwyr rhagorol; 
  • darllen yn effeithiol a gallu cyfathrebu'n glir ac yn gywir yn Gymraeg a/neu'n Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig;  
  • peidio bod â chefndir troseddol a allai ei atal rhag gweithio gyda phlant neu bobl ifanc agored i niwed, neu fel ymarferydd addysg; a heb fod wedi cael ei wahardd neu ei eithrio yn y gorffennol rhag addysgu neu weithio gyda dysgwyr (rhaid i athrawon dan hyfforddiant drefnu Datgeliad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS); 
  • arddangos yn ystod y cyfweliad fod ganddynt y sgiliau swyddogaethol personol priodol mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol sy'n gymwys mewn cyd-destun addysgu a dysgu proffesiynol; 
  • dangos ei addasrwydd i fod yn athro rhagorol;  
  • bodloni gofynion Safonau Iechyd Addysg (2004)* Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau ei iechyd a'i allu corfforol i ymgymryd â chyfrifoldebau athro.  


Gofynion TGAU:  

TGAU gradd B/gradd 5** neu uwch mewn Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Lenyddiaeth Gymraeg a Mathemateg (neu gymhwyster cyfwerth safonol). Ar gyfer Addysg Gorfforol yn unig, rhaid i ymgeiswyr gael TGAU Gwyddoniaeth hefyd (neu gymhwyster cyfwerth safonol) ar radd C/gradd 4** neu uwch. 

Pan gyflawnir cymhwyster sy'n cyfateb i radd B/gradd 5** naill ai mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cyflawni o leiaf gradd C/gradd 4** yn yr arholiad TGAU cyfwerth mewn Cymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith.

Bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd D neu uwch mewn TGAU (neu gyfwerth) mewn Saesneg Iaith a Mathemateg wrth ymgeisio yn cael eu hystyried ar gyfer cyfweliad (gradd 4 neu uwch ar gyfer ymgeiswyr sydd â'r cymwysterau TGAU sydd newydd eu diwygio yn Lloegr). 

 Bydd angen TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf) ar fyfyrwyr sy'n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. 

**ar gyfer ymgeiswyr sy'n meddu ar y cymwysterau TGAU sydd newydd eu diwygio yn Lloegr 

            
Ailsefyll TGAU:  
Bydd angen i ymgeiswyr fod wedi gwneud trefniadau i ailsefyll y cymwysterau TGAU er mwyn cael gradd B a nodi hyn ar eu cais Hyfforddiant Athrawon UCAS. Os byddant yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd ymgeiswyr yn cael cynnig lle yn amodol ar gael gradd B. 

Cymwysterau cyfwerth â TGAU:  

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig arholiad cywerthedd mewnol ar gyfer TGAU Saesneg Iaith a Mathemateg i fodloni gofynion gradd B.  Cynigir arholiad cywerthedd i'r rhai sydd â gradd D mewn Gwyddoniaeth hefyd.  Cynigir arholiad Cymraeg i'r rhai sydd wedi astudio Cymraeg fel ail iaith fel y gellir eu hystyried ar gyfer y llwybr cyfrwng Cymraeg hefyd.  

Rydym yn derbyn cymwysterau cyfwerth ar gyfer y gofynion TGAU hefyd, sy'n cynnwys arholiadau a safwyd gyda Equivalency Testing, Prifysgol De Cymru a'r National Extension College. O Brifysgol Aberystwyth rydym hefyd yn derbyn y modiwl cywerthedd Mathemateg (Cyflwyniad i Fathemateg 1 a 2) a’r modiwl cywerthedd Saesneg (Sgiliau Iaith Saesneg).

Gwiriwch ofynion Met Caerdydd ar gymwysterau cyfwerth â TGAU gradd B).  

Gofynion Gradd Gychwynnol:

Er y disgwylir y bydd cynnwys eich gradd yn cynnwys cyfran sylweddol o'r pwnc rydych am hyfforddi i'w addysgu, rydym yn rhoi ystyriaeth ffafriol i ymgeiswyr â gradd mewn pwnc sydd â chysylltiad agos.  Bydd eich cais a'ch cyfweliad (os cewch eich dewis) yn cael eu hasesu ar eich potensial i fodloni lefel SAC y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth sy'n ymwneud â'ch gwybodaeth, eich dealltwriaeth a'ch sgiliau mewn perthynas â'r pwnc, ac i ba raddau y gall y rhain fod yn llwyddiannus fel sail i'ch ymarfer fel athro pwnc penodol, hyd at a chan gynnwys addysgu Safon Uwch a chwricwla ôl-16 eraill.

Pwnc

Dosbarth gradd gofynnol adeg mynediad
(Pob un ag Anrhydedd)

​Addysg Gorfforol1​2:1

Celf a Dylunio
Drama
Dylunio a Thechnoleg
​Saesneg ​
Daearyddiaeth
Hanes
TGCh a Chyfrifiadura
Mathemateg2
Ieithoedd Tramor Modern
Cerddoriaeth
Gwyddoniaeth: Bioleg
Gwyddoniaeth: Cemeg
Gwyddoniaeth: Ffiseg
Addysg Grefyddol
Cymraeg

2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2

  

 

1Gofynnir i ymgeiswyr i'r cwrs TAR Addysg Gorfforol ddangos tystiolaeth o ryw fath o brofiad gwaith mewn adran Addysg Gorfforol mewn ysgol uwchradd ond deallwn na fydd hyn yn bosibl o reidrwydd oherwydd y sefyllfa bresennol.  Byddem yn gofyn i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o'r hyn y gallant drwy eu cais UCAS a'u datganiad personol.. 
2Bydd ymgeiswyr i'r cwrs MAR Mathemateg angen Safon Uwch mewn Mathemateg yn ogystal â gradd berthnasol hefyd.  
 3Nifer cyfyngedig o leoliadau Sbaeneg yn unig sydd ar gael a hefyd Ffrangeg/Eidaleg. 

Gellir ystyried ceisiadau ar gyfer rhai pynciau Uwchradd gan raddedigion sydd â gradd Anrhydedd islaw dosbarth 2:2, ond lle mae ganddynt gymwysterau uwch a/neu brofiad perthnasol, e.e. Gradd Meistr, PhD.  

Gwiriad Cofnodion Troseddol/DBS: 

Mae mynediad yn amodol ar wiriad cofnodion troseddol boddhaol hefyd. Ceir rhagor o fanylion am weithdrefnau cofnodion troseddol yn www.metcaerdydd.ac.uk/dbs.  

Ymgeiswyr Rhyngwladol 
Ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol, nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd angen isafswm sgôr IELTS cyffredinol o 7.5 heb is-sgôr is na 7.0 (neu gymhwyster cyfwerth) i sicrhau lle ar y rhaglen. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan. 

Sut i wneud cais

Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn drwy Hyfforddi Athrawon UCAS. 

Bydd angen i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am hyfforddiant athrawon ar gyfer mynediad 2022 wneud cais trwy'r system UCAS Israddedig. Cyfeiriwch at UCAS i gael mwy o wybodaeth.

Codau Ymgeisio UCAS:
Mae'r cwrs hwn yn cynnig y llwybrau astudio canlynol a dylid defnyddio'r cod ymgeisio TAR cysylltiedig ar eich ffurflen gais UCAS - Hyfforddiant Athrawon: 

​Rhaglen TAR Uwchradd​Cod Cyfrwng Saesneg​Cod Cyfrwng Cymraeg
​Celf a Dylunio​W1X1W1XX​
​Bioleg gyda Gwyddoniaeth ​C1X1C1XX​
​Cemeg gyda Gwyddoniaeth​F1X1F1XX​
​Dylunio a Thechnoleg​W9X1W92X​
​Drama ​W4X1W4XX​
​Saesneg ​Q3X1Q3XX​
​Daearyddiaeth​3CLN​3CLP
​Hanes​V1X1V1XX​
​TGCh a Chyfrifiadura​G5X1IX1X​
​Mathemateg​G1X1G11X​
​Ieithoedd Tramor ModernR9X1​R9XX​
​Cerddoriaeth​W3X1W3XX​
​Addysg Gorfforol​X9C6C6XX​
​Ffiseg gyda Gwyddoniaeth​F3X1F31X​
​Addysg Grefyddol​3CLQ​3CLR
CymraegN/A​Q5X1

Gwybodaeth ar gyfer y cyfweliad ​ 

Mae cyfweliadau'n cael eu cynnal ar-lein drwy MS Teams ar hyn o bryd. Byddwch yn derbyn hysbysiad o ddyddiad eich cyfweliad drwy UCAS ac mewn e-bost gan Met Caerdydd. Yna, byddwch yn derbyn gwahoddiad MS Teams, gydag amser penodol eich cyfweliad, gan dîm y rhaglen. Bydd y cyfweliadau'n para tua 30 munud.  

Gwybodaeth Ychwanegol ar gyfer Cyfweliad TAR Uwchradd Addysg Gorfforol

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr nodi yn eu datganiad personol a hysbysu Derbyniadau cyn gynted â phosibl, os ydynt yn dymuno i'w cyfweliad gael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.

Profion​ - Llythrenedd, Rhifedd a Cymhwysedd Digidol

Bydd y Profion Sgiliau a gynhelir fel arfer fel rhan o'ch diwrnod cyfweld yn cael eu cynnal ar ddechrau eich cwrs fel archwiliad o'r meysydd lle gallech fod angen cymorth ychwanegol. Nid yw'r profion hyn yn rhan o'ch meini prawf dethol bellach ond argymhellir fodd bynnag eich bod yn gwneud yr adolygu priodol o'r wybodaeth ar y dolenni a roddir isod:

Profion Llythrennedd:

Bydd dau brawf: 

1. Bydd y prawf cyntaf yn canolbwyntio ar sillafu, atalnodi, gramadeg a dealltwriaeth. Bydd y prawf hwn yn cael ei gwblhau'n electronig ar ddiwrnod y cyfweliad ond mae copi enghreifftiol y gellir ei argraffu o'r papur ar gael yma

Bydd y prawf hwn yn 30 munud o hyd.  

Paratoi:

2. Bydd yr ail brawf yn canolbwyntio ar sgiliau darllen ac ysgrifennu. Bydd yn canolbwyntio ar erthygl cyfnodolyn a anfonir atoch cyn eich cyfweliad. 

Bydd y prawf hwn yn 30 munud o hyd.

Paratoi:

  • Darllenwch erthygl y cyfnodolyn yn ofalus, sawl gwaith
  • Chwiliwch am ystyr geiriau anghyfarwydd
  • Ceisiwch ddeall ystyr yr erthygl
  • Ystyriwch pa neges(euon) y mae'r awdur yn bwriadu eu cyfleu
  • Meddyliwch a ydych yn cytuno â'r awdur

Yn ystod y cyfweliad, byddwch yn cael copi newydd o'r erthygl ac yn cael dau gwestiwn i'w hateb. Bydd disgwyl i chi ysgrifennu tua 300 o eiriau.  

Bydd y dasg yn asesu'ch gallu i:

  • ddod o hyd i wybodaeth a chyfeirio'n briodol at y deunydd darllen
  • dangos dealltwriaeth a dehongliad cadarn o'r deunydd darllen
  • cyfleu eich syniadau'n glir mewn arddull briodol
  • cyflwyno darn o ysgrifennu cydlynol sydd wedi'i strwythuro'n dda
  • defnyddio sillafu, atalnodi a gramadeg gyda lefel dda o gywirdeb



Prawf Rhifedd:  

Prawf Cymhwysedd Digidol

Bydd ymgeiswyr yn cwblhau tasg 30 munud sydd wedi'i chynllunio i ddangos tystiolaeth o'u sgiliau digidol personol ar lefel sylfaenol. Y rheswm am hyn yw bod angen i bob athro yng Nghymru allu atgyfnerthu a datblygu medrau digidol y disgyblion y maent yn eu haddysgu, yn ogystal â defnyddio technoleg ddigidol wrth gyflawni eu dyletswyddau proffesiynol eu hunain.

Bydd y prawf yn cynnwys defnyddio sgiliau sylfaenol yn Microsoft Office, gan gynnwys trin cynnwys sy'n gysylltiedig ag addysg yn Word, Excel a PowerPoint.

Byddai ymgeiswyr yn cael eu cynghori i sicrhau bod ganddynt y galluoedd sylfaenol sydd eu hangen, er enghraifft, i newid maint ffontiau, cymhwyso themâu i gyflwyniadau PowerPoint, a defnyddio fformiwlâu Excel syml fel SUM ac AVERAGE.


Gwybodaeth ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr cyfrwng Cymraeg

Bydd ymgeiswyr sy'n gwneud cais i hyfforddi ar gyfer y sector cyfrwng Cymraeg yn cael eu rhoi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac mae rhywfaint o ddarpariaeth y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ystod y broses gyfweld cewch eich asesu ar eich gallu yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Profion Llythrennedd 

Bydd pob ymgeisydd yn cwblhau'r prawf llythrennedd cyntaf yn Saesneg (gweler uchod am ragor o fanylion) a bydd ymgeiswyr cyfrwng Cymraeg yn cwblhau prawf sgiliau llythrennedd yn Gymraeg (15 munud) hefyd, sy'n gofyn i ymgeiswyr ddangos eu dealltwriaeth o ramadeg y Gymraeg. Er mwyn paratoi ar gyfer y prawf hwn, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar y papur enghreifftiol a ddarperir yma ac yn cyfeirio at y testun defnyddiol canlynol: Breese, N., Clement, B. (2011) Seren Iaith. Ceredigion: Atebol Cyfyngedig. ISBN 978-1-907004-85-8 (£5.99). Dyma'r adrannau fydd fwyaf defnyddiol: Chwilio'r gwallau 1 tt.6-105 a tt.166-197. 

Bydd pob ymgeisydd cyfrwng Cymraeg yn cwblhau'r ail brawf llythrennedd fel y nodir uchod (darperir fersiynau Cymraeg a Saesneg) a bydd gofyn iddynt ddangos eu Cymraeg a'u Saesneg ysgrifenedig yn y prawf hwn.  

Prawf Rhifedd 

Darperir fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r papur cwestiynau. Gall ymgeiswyr ddewis ateb yn y naill iaith neu'r llall.  

Cwestiynau Cyffredin

Cymwysterau

Does gen i ddim TGAU gradd B/gradd 5** neu uwch mewn Saesneg Iaith a Mathemateg – ydw i'n dal i allu gwneud cais am y TAR?  
Bydd ymgeiswyr â gradd D neu uwch mewn Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth) yn cael eu hystyried ar gyfer cyfweliad (gradd 4 neu uwch ar gyfer ymgeiswyr sydd â chymwysterau TGAU sydd newydd eu diwygio yn Lloegr). Fodd bynnag, bydd angen i ymgeiswyr fod wedi gwneud trefniadau i ailsefyll y TGAU (neu gymhwyster cyfwerth derbyniol) er mwyn cael gradd B a nodi hyn ar eu cais Hyfforddiant Athrawon UCAS. Os byddant yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd ymgeiswyr yn cael cynnig lle yn amodol ar gael gradd B.  

 

Ydy Met Caerdydd yn cynnig arholiad cywerthedd mewnol ar gyfer TGAU Saesneg Iaith a Mathemateg? 
Mae Met Caerdydd yn cynnig arholiad cywerthedd mewnol ar gyfer TGAU Saesneg Iaith a Mathemateg. Mae'r profion wedi'u cynllunio i fodloni gofynion TGAU gradd B ar gyfer ymuno â rhaglenni AGA Met Caerdydd yn unig.  

 

Er mwyn bod yn gymwys i sefyll yr arholiadau, rhaid i ymgeiswyr fod wedi cael cynnig ac wedi ateb, neu'n bwriadu ateb, 'Firm'. Ni chodir ffi am sefyll yr arholiadau cywerthedd a gall ymgeiswyr ailsefyll pob arholiad unwaith yn ystod y flwyddyn y maent yn gwneud cais.  

Ydy fy nghymwysterau'n dderbyniol? 
UK NARIC sy'n penderfynu ar gyfwerthedd cymwysterau tramor.  
Os ydych yn fyfyriwr Rhyngwladol dylech gysylltu ag UK NARIC. Os ydych yn ymgeisydd Cartref/yr UE, cysylltwch â'n tîm Derbyniadau a fydd yn gallu cynnig cyngor pellach ar eich cymwysterau.  

Gwneud Cais

Ydych chi'n cynnal Diwrnodau Agored? 
Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ar-lein gan gynnwys gwybodaeth am y TAR drwy gydol y flwyddyn. Edrychwch ar ein tudalen Diwrnodau Agored a Digwyddiadau i gael rhagor o wybodaeth.  
Hefyd, er mwyn sicrhau hygyrchedd i bawb rydym yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol i'r TAR ar y wefan ac mae croeso bob amser i chi gysylltu â ni dros y ffôn neu drwy e-bost.  

Pryd mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau?  
Nid oes dyddiad cau penodol ar gyfer ceisiadau. Bydd rhaglenni'n cau pan fydd y cwrs yn llawn. Mae'r gystadleuaeth am leoedd yn uchel iawn ar gyfer TAR Cynradd a TAR Uwchradd (Addysg Gorfforol) felly rydym yn argymell y dylid gwneud ceisiadau yn gynnar yn y flwyddyn academaidd er mwyn osgoi siom.  

Ydw i'n gwneud cais yn uniongyrchol i Met Caerdydd? 
Na - rhaid gwneud pob cais ar gyfer y cyrsiau TAR Cynradd a TAR Uwchradd drwy Hyfforddiant Athrawon UCAS. Gellir cael gwybodaeth am y drefn ymgeisio a gwneud cais yn: www.ucas.com.  

Fydd rhaid i mi gwblhau Gwiriad Cofnodion Troseddol? 
Mae mynediad yn amodol ar gael gwiriad cofnodion troseddol boddhaol. Ceir rhagor o fanylion am weithdrefnau cofnodion troseddol yn www.metcaerdydd.ac.uk/dbs.  

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n Ymgeisydd Cyfrwng Cymraeg?  
Dylai ymgeiswyr sy'n dymuno hyfforddi ar gyfer y sector cyfrwng Cymraeg wneud cais am y llwybr perthnasol drwy Hyfforddiant Athrawon UCAS. Rhestrir y codau ymgeisio uchod yn yr adran Sut i wneud cais. Cewch eich lleoli mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac mae rhywfaint o ddarpariaeth y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod y broses gyfweld cewch eich asesu ar eich gallu yn Gymraeg ac yn Saesneg.  

Cyfweliadau

Sut bydda i'n cael gwybodaeth am y cyfweliad?  
Gellir gweld dyddiad eich cyfweliad ar eich UCAS Track. Bydd gwybodaeth yn cael ei hanfon mewn e-bost gan Met Caerdydd hefyd.  

Pa mor aml y cynhelir cyfweliadau? Oes dyddiadau penodol? 
Nid oes dyddiadau penodol. Fodd bynnag, cewch ddigon o rybudd ar gyfer eich cyfweliad.  

Cyllid  

Faint mae'r cwrs TAR yn ei gostio? 
Gweler ein tudalen Ffioedd a Chyllid am ragor o fanylion.  

Ydw i'n cael bwrsari?  
Efallai y bydd cymhellion ariannol a grantiau hyfforddi ar gael i fyfyrwyr TAR Uwchradd yn dibynnu ar ddosbarth eich gradd israddedig a'ch llwybr. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael mwy o fanylion.  

Oes unrhyw gyllid arall ar gael?  
Gall myfyrwyr TAR sy'n hanu o Gymru sy'n dewis aros ac astudio yng Nghymru gael cymorth gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Ffioedd Dysgu hefyd. I gael rhagor o wybodaeth am y grant ac i gael y ffurflen PN1 berthnasol ewch i: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.  

Gwybodaeth am y Cwrs  

Pryd mae'r TAR yn dechrau ac yn gorffen?  
Ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2021/22, nid yw dyddiad dechrau'r TAR wedi'i gadarnhau eto. Daw'r cwrs i ben ym mis Mehefin 2022.  

Pryd fydda i'n cael gwybod am leoliadau mewn ysgolion? Ble fyddan nhw? Alla i drefnu fy lleoliadau fy hun? 
Cynhelir yr elfen lleoliad ysgol yn ein casgliad rhagorol o ysgolion 'Partneriaeth Caerdydd' a bydd lleoliadau wedi'u lleoli'n bennaf yn y rhanbarthau sy'n gysylltiedig â Chonsortiwm Canolbarth y De a'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg. Ni allwch drefnu eich lleoliad eich hun.  

Alla i ohirio fy lle?  
Yn anffodus, ni allwn ganiatáu gohirio lleoedd ar ein rhaglenni hyfforddiant athrawon.

Gwybodaeth ychwanegol

Hyd y cwrs:
Llawn amser - Blwyddyn 

Ffioedd Dysgu a Chymorth Ariannol:

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r cymorth ariannol a allai fod ar gael. Cyfeiriwch at www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.

Efallai y bydd cymhellion ariannol a grantiau hyfforddi ar gael i fyfyrwyr TAR Uwchradd yn dibynnu ar ddosbarth eich gradd israddedig. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael mwy o fanylion.

Er mwyn cynyddu profiad myfyrwyr, trefnir diwrnod gwaith maes fel rhan o'r rhaglen TAR Daearyddiaeth ym mis Mawrth 2021. Bydd cost ychwanegol o £25.

Cysylltu â ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfonwch e-bost i askadmissions@cardiffmet.ac.uk 

Ar gyfer ymholiadau am bwnc penodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen:

Celf a Dylunio
Eve Oliver
eeoliver@cardiffmet.ac.uk

Drama
Emma Thayer: 029 2041 6535
EThayer@cardiffmet.ac.uk

Dylunio a Thechnoleg
Jason Davies: 029 2041 6556
jasondavies@cardiffmet.ac.uk

Saesneg
Dr Judith Kneen: 029 2020 5941
Jkneen@cardiffmet.ac.uk

Daearyddiaeth
Rhian Crooks-Williams
recrooks-williams@cardiffmet.ac.uk 

Hanes
Mark Williams: 029 2041 6546
mpwilliams2@cardiffmet.ac.uk

TGCh a Chyfrifiadureg
Jo Farag
jfarag@cardiffmet.ac.uk 

Mathemateg
Cameron Stewart
cgstewart@cardiffmet.ac.uk

Ieithoedd Tramor Modern
Viv John
vjohn@cardiffmet.ac.uk

Cerddoriaeth
Tom Breeze: 029 2041 6502
TBreeze@cardiffmet.ac.uk

A ddysg Gorfforol
Fiona Heath-Diffey: 029 2020 5894
fheath-diffey@cardiffmet.ac.uk

Addysg Grefyddol
Paula Webber
pwebber@cardiffmet.ac.uk

Gwyddorau
Dr Ceri Pugh
CPugh2@cardiffmet.ac.uk 

Cymraeg
Dr Gina Morgan: 029 2041 7251
gmorgan@cardiffmet.ac.uk 


Key Course Information

Lleoliad Astudio:
Campws Cyncoed 

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y cwrs: Blwyddyn yn llawn amser   

Dyddiad dechrau: 13 Medi 2021.

Accreditation
Accreditation
Astudio Trwy'r Gymraeg
Cyflogadwyedd a rhagolygon addysgu rhagorol

Cewch glywed gan Siôn, sydd wedi graddio mewn Hanes TAR Uwchradd, am ei brofiadau a sicrhau ei swydd addysgu yn llwyddiannus o'i leoliad profiad ysgol.

Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon

Darganfyddwch fwy am y Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon ym Met Caerdydd.

Blog
Ysbrydoli yn y dosbarth gyda Dylunio a thechnoleg

Mae Naomi yn dweud wrthym am ei phrofiadau o astudio'r cwrs TAR Uwchradd Dylunio a Thechnoleg ym Met Caerdydd.
Darllen mwy.

Full terms and conditions in relation to accepting an offer to study at Cardiff Metropolitan University can be found by visiting www.cardiffmet.ac.uk/terms