25 Tachwedd, 2019
Dathlodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd lwyddiant myfyrwyr yn ei seremonïau graddio mis Tachwedd heddiw (dydd Llun, Tachwedd 25), gan anrhydeddu cyflawniadau bron i 1,000 o fyfyrwyr Meistr yn bennaf.
Mewn dwy seremoni a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, derbyniodd myfyrwyr o Ysgolion Celf a Dylunio, Rheolaeth, Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd a Thechnolegau Caerdydd eu graddau gan Lywydd ac Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Cara Aitchison.
Fe'u gwelwyd gan deuluoedd a ffrindiau balch yn ogystal â staff, academyddion ac urddasolion gan gynnwys Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr, yr Athro Ilora, Y Farwnes Finlay o Landaf.
Croesawyd myfyrwyr o brifysgolion partner Met Caerdydd o wahanol leoliadau ledled y byd i'n prifddinas hefyd, gan dynnu sylw at statws Met Caerdydd fel prifysgol fyd-eang a chanolfan ymchwil.
Roedd seremoni'r bore yn cynnwys rhoi Cymrodoriaeth er Anrhydedd i'r artist colur Siân Grigg a anwyd yng Nghymru ac a enillodd BAFTA mewn cydnabyddiaeth am ei chyfraniad rhagorol i'r diwydiant ffilm.
Yn gyn-fyfyriwr yn Ysgol Gelf Caerdydd (Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd bellach), mae Ms Grigg wedi gweithio gyda sêr adnabyddus iawn gan gynnwys Leonardo DiCaprio, Kate Hudson a Tobey Maguire, ar ffilmiau nodweddiadol, ysgubol a chlodwiw fel Saving Private Ryan ( 1998), The Aviator (2004), The Departed (2006), Inception (2010) a Django Unchained (2012).
Dywedodd Ms Grigg: "Mae'n anrhydedd mawr cael fy newis i fod yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Rwy'n gobeithio y gallaf helpu i ysbrydoli rhai o'r myfyrwyr presennol sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd.
"Rwyf wedi bod yn ffodus fy mod wedi dod o hyd i yrfa rydw i'n ei fwynhau ac sy'n fy nghyflawni'n greadigol. Mae cael fy nghydnabod fel hyn am fy ngwaith yn fwy nag y gallwn i erioed ei ddychmygu ac rwy'n ddiolchgar iawn."
Dywedodd Llywydd ac Is-Ganghellor Met Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison: "Mae heddiw yn nodi penllanw blynyddoedd o waith caled i'n myfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Hoffwn eu llongyfarch ar eu cyflawniadau a dymuno pob lwc iddynt yn eu hymdrechion yn y dyfodol fel llysgenhadon i'r Brifysgol.
"Mae ein Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn mynd i gyn-fyfyriwr o MET Caerdydd sydd wedi cael effaith ragorol yn ei maes ac y mae ei hymrwymiad yn cyd-fynd yn agos â gwerthoedd ac ymddygiadau'r Brifysgol ei hun.
"Mae Siân yn fodel rôl go iawn i'n myfyrwyr graddio a all ddysgu o'i esiampl wrth iddynt gychwyn ar gam nesaf eu bywydau fel graddedigion Prifysgol Metropolitan Caerdydd."
I ddarllen y stori yma yn Saesneg, cliciwch fan hyn.