Home>News>Bydd Taith Sgriblwyr Gŵyl Y Gelli yn Ymweld â Met Caerdydd i Ysbrydoli Awduron Ifanc

Bydd Taith Sgriblwyr Gŵyl Y Gelli yn Ymweld â Met Caerdydd i Ysbrydoli Awduron Ifanc

​15/01/2019

 


Bydd y Brifysgol yn cynnal Taith Sgriblwyr Gŵyl Y Gelli  fis Chwefror eleni a fydd yn mynd ag awduron YA (Oedolion Ifanc) yn uniongyrchol at filoedd o ddisgyblion ysgol mewn digwyddiadau am ddim ac a fydd yn eu hysbrydoli. Caiff hyd at 160 o blant ysgol gyfle i ymweld â Phrifysgol Metropolitan ar gampws Cyncoed ar y 7fed a'r 14eg o Chwefror 2019 i fynychu gweithdy diwrnod llawn o greu straeon.

Cynhelir y daith ar draws Cymru mewn pum prifysgol: Met Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Glyndwr Wrecsam.

Yn digwydd rhwng Chwefror 4 - 8 a Chwefror 11 - 15, nod taith y Sgriblwyr ydy ymglymu ac annog y genhedlaeth nesaf i greu straeon ac i adrodd straeon, gan ysbrydoli empathi a chreadigrwydd sgwrsio. Hon fydd yr wythfed taith flynyddol i'w chynnal, a chaiff y disgyblion gyfle i ymweld â'u prifysgol agosaf a phrofi blas o fywyd ar y campws.

Jenny Valentine un o sêr YA fydd yn cyflwyno'r digwyddiadau ac yn cynnal gweithdai ysgrifennu ar gyfer y disgyblion, yn creu straeon newydd yn y lleoliad yn y brifysgol gan ddefnyddio technoleg realiti estynedig. Yna, bydd sesiynau Blwyddyn 7 ac 8 yn cynnwys sgyrsiau a gweithgareddau gyda'r artist Hip-Hop, y bardd a'r awdur Karl Nova a'r newyddiadurwraig ac awdures ffuglen hanesyddol Emma Carroll, tra bydd sesiynau Blwyddyn 9 a Blwyddyn 10 gyda'r gohebydd rhyfel Sue Turton a'r nofelydd ac enillydd gwobrau Alex Wheatle.

Dywedodd Aine Venables, Rheolwr Addysg yng Ngŵyl y Gelli: "Bob mis Mai yn Y Gelli mae miloedd o bobl ifanc yn ymuno â ni i gwrdd â'u hoff awduron a nawr rydyn ni'n dod â'r Gelli atyn nhw. Yn ystod y dyddiau gŵyl am ddim hyn, byddwn yn rhannu straeon, yn trafod cwestiynau ac yn dathlu grym ysgrifennu a darllen er mwyn pleser. Rydyn ni am gychwyn trafod gyda phobl ifanc, gwrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud ac ysbrydoli eu hunaniaethau creadigol."

Dywedodd Annie Davies, Arweinydd Rhaglen Fentora Campws Cyntaf Met Caerdydd: "Rydyn ni wrth ein bodd i gydweithio gyda Gŵyl Y Gelli unwaith eto eleni i gynnig cyfleoedd ym Met Caerdydd i bobl ifanc gael mynediad i'r gweithdai creadigol unigryw hyn ac i glywed gan awduron. Dylai'r gweithdy arloesol gyda Jenny Valentine, lle caiff disgyblion ysbrydoliaeth ar gyfer eu llinellau stori o'u taith o gwmpas campws y brifysgol, ysbrydoli'r bobl ifanc i feddwl yn greadigol a datblygu hyder yn eu sgiliau ysgrifennu eu hunain."

Ariennir Taith Sgriblwyr Gŵyl Y Gelli gan Lywodraeth Cymru ac mae'n rhan o allgymorth ehangach a gwaith addysgol Sefydliad Gŵyl Y Gelli sy'n cynnwys Dyddiau am ddim mewn Ysgolion, Academi'r Gelli,  Hay Compass, Prosiect y Bannau, Cyfnewid Ysgol, a'r Hay Levels, cyfres o fideos addysgiadol am ddim.

Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg y Cabinet: "Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn gallu cynorthwyo Taith wych y Sgriblwyr Gŵyl Y Gelli sydd erbyn hyn yn ei hwythfed blwyddyn. Mae Gŵyl Y Gelli yn fyd-enwog ac mae Taith y Sgriblwyr yn cynnig cyfle gwych i ddysgu rhagor am lenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol a gwrando ar siaradwyr ac awduron ysbrydoledig a rhyfeddol sy'n feistri ar eu crefft. Drwy rhoi'r cyfle hyn i'n disgyblion gael y profiadau ffantastig hyn, rydyn ni'n helpu i ysgogi eu dychymyg a datblygu eu sgiliau creadigol, yn symbylu ton newydd o awduron, beirdd a dramodwyr yng Nghymru.


Gwybodaeth am y siaradwyr

 Mae Jenny Valentine o'r Gelli Gandryll, yn nofelydd YA sydd wedi ennill nifer o wobrau. Enillodd ei nofel gyntaf Finding Violet Park, Wobr nodedig y Guardian am Ffuglen Plant. Ymhlith ei nofelau eraill mae The Ant Colony, The Double Life of Cassiel Roadnight, a'r gyfres the Iggy & Me. Hi oedd Cymrawd Rhyngwladol Creadigol Gŵyl Y Gelli 2017-18.

Mae Emma Carroll yn athrawes Saesneg mewn ysgol uwchradd ac mae'n awdures ffuglen hanesyddol. Gweithiodd fel gohebydd newyddion, bu'n casglu afocados ac yn berson oedd yn tyllu papur Filofax. Yn ddiweddar, graddiodd gydag anrhydedd o Brifysgol Bath Spa ac ennill MA mewn ysgrifennu ar gyfer Pobl Ifanc. The Girl Who Walked on Air ydy ail nofel Emma. Mae'n byw ym mryniau Gwlad yr Haf gyda'i gŵr a'i dau gi bach

Mae Karl Nova yn artist Hip Hop, yn awdur ac yn fardd. Fe oedd enillydd CliPPA 2018 (Centre for Literacy in Primary Poetry Award) am Rhythm and Poetry, y gasgliad cyntaf o'i eiddo a gyhoeddwyd. Wedi'i ei eni a'i fagu yn Llundain â Lagos, mae Karl yn sylwebydd cymdeithasol, yn hyrwyddwr gweithdai ysgrifennu creadigol, yn ddarlledwr ac yn feirniad diwylliannol.

Mae Sue Turton yn ohebydd rhyfel sydd wedi dod â straeon unigryw i ni ynghanol ergydion gynnau o bob cwr o'r byd ers 28 o flynyddoedd. Mae ei llyfr newydd This Book Will (help you) Change The World yn cynnig canllawiau ar sut i aflonyddu ar y system a gorfodi newid gyda help ei phecyn adnoddau ei hun a'i chyfarwyddyd pwerus ar sut i weithredu.

Mae Alex Wheatle MBE yn awdur ac yn ddramodydd ac yn hanu o Fryste. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Brixton Rock yn 1999 ac mae'n adrodd stori am fachgen 16 oed cymysg ei hil yn 80au'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ganrif. Cyhoeddwyd dilyniant iddi, Brenton Brown, yn 2011. Ymhlith ei weithiau eraill mae East of Acre Lane, Island Songs, Dirty South, The Seven Sisters a Checkers. Yn 2010, ysgrifennodd ei hunangofiant Uprising a'i pherfformio ar daith mewn sioe un dyn. Perfformiwyd ei ddrama , Shame & Scandal, gyntaf yn 2015.   

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.