Home>News>Clybiau Criced Proffesiynol yn Rhyfeddu at Dalent MCCU Caerdydd

Clybiau Criced Proffesiynol yn Rhyfeddu at Dalent MCCU Caerdydd

​5 Mehefin 2019

 

​Dan D

Dan Douthwaite

Mewn cwta dwy flynedd mae saith o chwaraewyr prifysgol MCC Caerdydd wedi arwyddo contractau gyda chlybiau criced proffesiynol ar draws y DU a'r sefydliadau'n rhyfeddu at y talentau sy’n cael eu cynhyrchu gan y clwb.

Mae cynllun nodedig iawn MCCU yn cynnwys chwaraewyr o Met Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, ac yn un o'r chwe chanolfan criced rhagoriaeth prifysgol yn y DU a gynorthwyir gan Glwb Criced Marylebone.

O'r saith chwaraewr sydd wedi arwyddo contractau proffesiynol o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae chwech yn fyfyrwyr presennol neu’n gyn fyfyrwyr Met Caerdydd. Yn gwneud eu marc yn haen uchaf y gamp mae Tom Cullen, Jeremy Lawlor, Dan Douthwaite, a Connor Brown, sydd eisoes wedi arwyddo contractau gyda Chlwb Criced Morgannwg. Yn y cyfamser, mae Alex Thomson wedi arwyddo i Glwb Criced Swydd Warwick, Alex Milton i Glwb Criced Sirol Swydd Caerwrangon, a Tim Rouse o Brifysgol Caerdydd i Glwb Criced Sirol Gwlad yr Haf.

Dywedodd Mark O’Leary, Prif Hyfforddwr Criced De Cymru MCCU Caerdydd a Darlithydd Criced yn Met Caerdydd: “Rydyn ni wrth ein bodd bod cymaint o’n chwaraewyr wedi symud ymlaen i ymuno â chlybiau criced proffesiynol ac maen nhw i gyd yn ei haeddu.

“Mae’r rhaglen perfformiad elît hwn yn efelychu llawer o raglenni Sirol dosbarth cyntaf, felly mae rhaid i’r myfyrwyr drefnu a rheoli baich gwaith ymdrechgar perfformiad ac astudiaeth.

“Mae’r newyddion yn dangos yr effaith y mae’r rhaglen hon yn MCCU Caerdydd yn parhau i gael ar haen uchaf y gêm, yn ogystal â chalibr y chwaraewyr yr ydyn yn eu gynhyrchu’n gyson.”

Dywedodd Alex Thompson o Glwb Criced Sirol Swydd Caerwrangon: "O astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a bod yn aelod o MCCU Caerdydd ces y cyfle i hyfforddi fel chwaraewr proffesiynol tra’n dilyn achrediadau academaidd. Mae’r rhai sydd ar gynllun criced MCCU yn cael hyfforddiant o’r radd flaenaf gan bobl fel Mark O'Leary, Graham Haines a Mark Walton - roedd yn fraint yn wir i weithio gyda’r gwŷr hyn.

“Graddiais yn 2016 ac yna dychwelais i Met Caerdydd i barhau gyda fy addysg i astudio cwrs TAR gan arbenigo mewn Addysg Gorfforol. Gweithiodd MCCU yn ddiflino er mwyn i mi gario ymlaen gyda fy ngofynion academaidd tra’n sicrhau mod i’n derbyn yr hyfforddiant o'r radd flaenaf i ddatblygu fel chwaraewr. Mae’r profiadau y mae MCCU yn eu cynnig wedi sicrhau y gwelwn lawer mwy yn y dyfodol agos.” 

Dywedodd Alex Thompson o Glwb Criced Sirol Swydd Caerwrangon: “Bu’r cynllun yn rhan enfawr o fy natblygiad fel cricedwr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nid yn unig mae wedi gwella fy sgiliau technegol fel cricedwr ond hefyd fy ffitrwydd. Rhaid i mi ddiolch i Mark O’Leary a’r tîm hyfforddi am eu hymroddiad, eu hymrwymiad a’u cymorth i’r sgwad.

Dywedodd Dan Douthwaite o Glwb Criced Sirol Morgannwg: “Heb os nac oni bai i MCCU mae’r diolch mod i wedi sicrhau contract tair blynedd gyda Morgannwg. Mae bod mewn sefyllfa broffesiynol tra’n ennill gradd yn y brifysgol yn amhrisiadwy ac yn rhywbeth y byddwn yn ei argymell i unrhyw egin gricedwr sydd yn neu wedi gadael ysgol.

“Yn ogystal ag ennill gradd ar gyfer bywyd ar ôl criced, mae’r cynllun wedi gwireddu fy mreuddwyd yn 18 oed o fod yn gricedwr proffesiynol ac rydw i’n ddyledus am fy ngyrfa i Mark O’Leary a gweddill y tîm cymorth a weithiodd yn ddiflino gyda fi yn ystod fy nhair mlynedd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i fy helpu gyda fy astudiaethau tra’n fy nhroi yn gricedwr proffesiynol."

Ychwanegodd Tom Cullen, sydd wedi arwyddo i chwarae dros Glwb Criced Morgannwg: “Amser gorau fy mywyd oedd y cyfnod yn Met Caerdydd. Petawn i heb dreulio tair blynedd ym Met Caerdydd, yn cyfuno fy astudiaethau a dilyn fy uchelgais o chwarae criced ar y lefel uchaf yn y DU, ni fyddwn yn chwarae i Forgannwg nawr. Mawr yw fy nyled i MCCU Caerdydd ac yn enwedig i’r staff .yno am y cyfle a ges i gyflawni fy mhotensial fel chwaraewr.

“Mae Mark O'Leary yn haeddu llawer o glod am y modd y mae’n annog pawb i gyflawni eu potensial llawn, nid yn unig ar y maes criced ond hefyd fel unigolion a fydd yn y pen draw yn mynd allan i’r byd gwaith a llwyddo. Mae fy nyled i’n fawr i’r cynllun, y Brifysgol ac i Mark ac i’r Brifysgol hyd yn hyn a bydd gen i atgofion melys am fy amser yn Met Caerdydd ac am y cynllun.”

Derbyniodd prif hyfforddwr MCC Prifysgol Caerdydd, Mark O’Leary wobr Hyfforddwr y Flwyddyn 2018 yr ECB, sef Bwrdd Criced Lloegr a Chymru, i gydnabod ei gyfraniad nodedig i'r gamp dros y ddau ddegawd diwethaf.

Mae Mark yn hyfforddwr Lefel 4 yr ECB ac mae hefyd yn ysgwyddo dyletswyddau fel rhan o’r staff academaidd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd lle mae wedi gweithio ers 19 mlynedd ac wedi bod ynghlwm wrth MCCU Caerdydd ers 10 mlynedd – ac yn brif hyfforddwr am chwe mlynedd o’r deg.

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.