Home>News>Coleg-Cymraeg-Cenedlaethol-appoints-student-Ambassadors Cymraeg

Penodi Llysgenhadon newydd i’r Coleg Cymraeg  ym Mhrifysgol Met Caerdydd

 

​12 Chwefror 2020

Cardiff Metropolitan University
Dafydd Duggan, LLysenhad y Coleg Cymraeg 

Mae'r Coleg Cymraeg wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2020 er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Mae'r 23 llysgennad wedi'u lleoli mewn chwe prifysgol ledled Cymru gan gynnwys tri ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Bydd Gwenllian Lois Morris yn dechrau ar ei gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy'r flwyddyn. Eleni  mae dau gyn lysgennad yn dychwelyd sef Dafydd Duggan a Meilyr Jones sydd bellach yn fyfyrwyr ôl radd ym Mhrifysgol Met Caerdydd.

Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd perswadio mwy o ddisgyblion ysgol a cholegau addysg bellach i ddilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno'r manteision o hynny.

Byddant yn cynrychioli'r Coleg Cymraeg mewn amryw o ddigwyddiadau megis ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac Eisteddfodau yn ogystal â chofnodi eu profiadau ar flog ac ar amryw sianel cyfryngau cymdeithasol y Coleg.

Am y tro cyntaf eleni, cafodd y llysgenhadon eu dewis drwy greu fideo hyd at funud o hyd a ffurflen gais.

Meddai Elin Williams ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

"Rydym yn hynod gyffrous i allu cyhoeddi ein bod wedi penodi 23 o lysgenhadon newydd o'r sector addysg uwch ar gyfer 2020. Mae cael criw o bobl ifanc a brwdfrydig yn cydweithio gyda ni i hyrwyddo cyfleoedd astudio yn Gymraeg yn gymorth mawr o ran rhoi darlun positif o bwysigrwydd astudio'n Gymraeg.

"Mae ystod eang o bynciau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein prifysgolion ar draws Cymru bellach a rôl y llysgenhadon fydd egluro'r manteision o astudio'n Gymraeg."