Home>News>Cystadleuaeth Myfyrwyr Next Tourism Generation

Cymdeithas Dwristiaeth Cymru a Met Caerdydd y Lansio Cystadleuaeth Myfyrwyr ‘Next Tourism Generation’

 

​Ionawr 20, 2020

Mae Cymdeithas Dwristiaeth Cymru wedi ymuno â'r prosiect 'Next Tourism Generation' (NTG) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd gan wahodd colegau, prifysgolion a myfyrwyr o bob rhan o Gymru i gyflwyno eu syniadau gorau ar gyfer ymgysylltu â'r diwydiant twristiaeth yn y dyfodol.

Dangosodd ymchwil a wnaed yn 2019 gan NTG fod angen gwell cydweithredu rhwng diwydiant ac addysg, ac angen i fynd i'r afael â bylchau sgiliau digidol a chynaliadwyedd yn y diwydiant twristiaeth. Nod y gystadleuaeth hon yw dod â myfyrwyr a chynrychiolwyr diwydiant ynghyd i nodi arfer gorau wrth ddysgu.

Mae'r gystadleuaeth yn gwahodd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau addysg bellach ac uwch sydd â chydran sy'n ymwneud â thwristiaeth a theithio, lletygarwch, digwyddiadau, treftadaeth, a bwyd a diod i gyflwyno syniadau arloesol ar gyfer y sector i gynrychiolwyr blaenllaw'r diwydiant.

Mae'r gystadleuaeth yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr blaenllaw'r diwydiant ac academyddion, gan ddod â sectorau twristiaeth ynghyd i rwydweithio a datblygu arfer gorau.

Wrth lansio'r gystadleuaeth, dywedodd John Walsh-Heron, Cadeirydd y Gymdeithas Dwristiaeth Cymru: "Mae'r gystadleuaeth hon yn cefnogi ein nodau yng Nghymru i ddod â sectorau twristiaeth ynghyd i rwydweithio a datblygu arfer gorau, cefnogi datblygiad academaidd ac annog dealltwriaeth o dwristiaeth gynaliadwy. Heddiw mae gan fyfyrwyr olygfa unigryw o'r byd o'u cwmpas a gallant fod yn arloesol yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol gan ddangos ffyrdd newydd y gallwn agor ein cynnig o letygarwch."

Dywedodd Deon yr Ysgol Reolaeth, yr Athro David Brooksbank: "Mae rhaglenni Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau Met Caerdydd yn creu cenhedlaeth newydd o arbenigwyr profiadol. Mae ein hacademyddion yn y disgyblaethau hyn yn rhai o'r rhai mwyaf blaenllaw yn eu meysydd. Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu ysbrydoli cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr gyda'r gystadleuaeth hon, gan arddangos ein hagwedd tuag at arloesi a chysylltiadau agos â phartneriaid sy'n arwain y diwydiant. "

Bydd y gystadleuaeth yn gorffen gyda seremoni wobrwyo ym mis Mawrth 2020 ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r gystadleuaeth yn agored i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru mewn addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru. 

Gellir dod o hyd i ffurflen gais, canllawiau a'r meini prawf beirniadu ar gwefan NTG.

I ddarllen y stori yma yn Saesneg, cliciwch fan hyn.