Home>News>Darlithydd Met Caerdydd yn Cydweithio a Disgyblion Cynradd o Gaerdydd

Darlithydd Met Caerdydd yn Cydweithio â Disgyblion Cynradd o Gaerdydd

​7 Mai 2019

 

Mae Christina Thatcher, sy'n fardd a'r darlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Met Caerdydd, wedi bod yn arwain sesiynau bywiog o ddarllen, ysgrifennu a llefaru gyda disgyblion cynradd yn Llyfrgell Llanisien.

Bu'r disgyblion blwyddyn 4, sydd rhwng saith ac wyth mlwydd oed, yn trafod pynciau megis pa greadur o'r môr fydden nhw'n dymuno bod, gyda'r bardd Christina wrth law i'w helpu i benderfynu!

Bu'r grŵp yn darllen cerddi, yn ymhél â geiriau ac yn ateb cwestiynau dwys megis: Ai teigr neu siarc ydych chi? Ai cacen neu gwmwl?
Ysgrifennodd pob disgybl eu gwaith eu hunain a chyfrannu llinellau at gerdd ar y cyd i'w rhannu ar ddiwedd y sesiwn.

Cred Christina bod darllen yn ein trawsnewid, bod ysgrifennu'n arwain newidiadau cymdeithasol a bod gwneud y ddau o les i'r byd. Mae hi wedi cynnal cannoedd o weithdai yn Ne Cymru mewn ysgolion a chanolfannau ieuenctid a chymunedol, mewn orielau a sefydliadau dim-er-elw.

Roedd Christina yn ddarllenwraig frwd pan oedd hi'n blentyn ac y mae hi bellach yn aelod o Fwrdd Rheoli Llenyddiaeth Cymru. Meddai: “Rwyf wrth fy modd yn arwain sesiynau barddoniaeth gyda phlant. Mae eu chwilfrydedd a'u brwdfrydedd bob amser yn creu cerddi hwyliog a gwreiddiol. Ond, yn bwysicach fyth, mae llawer o fy myfyrwyr yn dweud bod eu hoffter hwy o ysgrifennu wedi cychwyn pan oedden nhw'n ifanc. Roedd hyn yn wir hefyd amdanaf fi fy hunan – rwyf wedi bod yn ysgrifennu ers i mi fod tua saith neu wyth mlwydd oed. Os gallwn ni gymell plant i ddatblygu eu hoffter o ddarllen ac ysgrifennu pan fyddan nhw'n ifanc yna gall pethau rhyfeddol ddigwydd iddyn nhw ac i'n cymuned lenyddol.”

Ychwanegodd Elizabeth Baker, o Lyfrgelloedd Caerdydd: “Mae ein hybiau cymuned yn cynnig cyfoeth o wybodaeth, adnoddau, gweithgaredd a chyfleoedd diwylliannol i bawb. Mae nhw'n fannau o ddysg ac uchelgais lle gall pobl gaffael sgiliau newydd, gan arwain i swyddi a llwyddiant. Mae ein hybiau cymuned a llesiant yn annog pobl i fod yn actif ac iach drwy gyfrwng amrediad o wasanaethau gwybodaeth iechyd a phartneriaethau. 

“Drwy ymglymu gyda phartneriaid a mudiadau gallwn gydweithio i gynnig cyfle i blant a ieuenctid gymryd rhan mewn cyfleoedd addysgiadol a chreadigol a chynorthwyo eu datblygiad addysgol.”

I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.