Home>News>Darlithydd yn Annog Rhieni sy’n Galaru i Ganfod Therapi Trwy Ysgrifennu

Darlithydd Ysgrifennu Creadigol yn Annog Rhieni sy’n Galaru i Ganfod Therapi Trwy Ysgrifennu

 


17 Medi, 2019

Yn ddiweddar, dychwelodd Christina Thatcher, sy'n ddarlithydd ym Met Caerdydd, i arwain gweithdai mewn encil penwythnos gydag elusen The Compassionate Friends.

Gweithiodd Christina, sy'n fardd ac yn awdur cyhoeddedig, gyda grŵp tebyg o rieni y llynedd i bwysleisio faint o les y mae ysgrifennu a darllen yn gallu ei wneud wrth fyfyrio ar alaru am blentyn a gollwyd yn sgil cam-drin sylweddau a chaethiwed, yn ogystal â rhai a fu farw trwy hunanladdiad. 

 

Mae PhD Christina yn ystyried effaith ysgrifennu creadigol ar bobl sydd wedi colli rhywun i gaethiwed – roedd ei chasgliad cyhoeddedig cyntaf o gerddi, sef More Than You Were, yn fuddiol wrth iddi geisio deall marwolaeth ei thad yn sgil caethiwed bum mlynedd yn ôl.

Gan weithio gyda rhieni sydd wedi colli plentyn, roedd gweithdy ysgrifennu The Compassionate Friends yn rhoi cyfle i'r rheiny sy'n deall y boen o golli mab neu ferch annwyl helpu ei gilydd ac ymdrochi yng nghysur a chynhesrwydd ysgrifennu a chyfrannu cymaint, neu gyn lleied, ag yr oeddent yn ei ddymuno.

 

Rhannodd y rhieni a'r awduron ddetholiadau o farddoniaeth gyfoes ar lafar ac ysgrifennu eu cerddi eu hunain yn yr encil yng Nghanolfan Astudio Crynwyr Woodbrooke yn Birmingham. Dywedodd un aelod o'r grŵp bod y dosbarth ysgrifennu creadigol yn "… hyfryd. Roeddwn i wrth fy modd â'r ffordd yr oedd Christina'n arwain y dosbarth, gan ei fod wedi fy helpu i feddwl am ffyrdd o fynegi fy ngalar yn fwy creadigol."

 

Cafodd Christina gymorth gan The Compassionate Friends i ddod o hyd i wirfoddolwyr ar gyfer ei hymchwil PhD. Roedd hanner ei chyfranogwyr ymchwil wedi colli plant oherwydd caethiwed. Ar y cyfan, roedd cyfranogwyr ymchwil Christina wedi elwa o ysgrifennu creadigol, a arweiniodd at The Compassionate Friends yn estyn gwahoddiad iddi gynnal gweithdy i rieni sydd wedi colli eu plant. Y gweithdy eleni oedd yr ail weithdy iddi ei gynnal ar gyfer yr elusen.

 

Yn ystod y gweithdy, darllenodd y mynychwyr gerddi am brofedigaeth ar lafar, yn ogystal â rhannu eu gwaith ysgrifenedig a thrafod sut mae ysgrifennu wedi'u helpu i fyfyrio ar eu galar. Dywedodd Christina Thatcher: "Mae colli rhywun sy'n agos i chi yn rhywbeth anodd dros ben i ddygymod ag ef, ac mae The Compassionate Friends yn gwneud gwaith anhygoel. Braint ac anrhydedd yw cael bod yn rhan o'r penwythnos a chael cyfle i gynnig ffordd o fynegi meddyliau a theimladau i bobl sy'n galaru.

 

"Pan gollais fy nhad, teimlais fod cyfansoddi cerddi yn ffordd dda o fy helpu i ymdopi, felly mae'n hyfryd gallu cyflwyno hyn i fywydau pobl eraill sydd wedi cael profedigaeth."

 

Dywedodd Carolyn Brice, sef Prif Weithredwr The Compassionate Friends: "Mae cyfarfod, rhannu a chanfod tir cyffredin gyda phobl eraill sydd wedi profi colled debyg yn werthfawr dros ben i rieni a brodyr a chwiorydd sydd wedi colli mab neu ferch, neu frawd neu chwaer, ar unrhyw oedran, ac am unrhyw reswm. Mae penwythnosau encil The Compassionate Friends yn rhan hanfodol o'n gwasanaethau a'n cymorth cymar-i-gymar unigryw, gan gynnwys llinell gymorth genedlaethol, grwpiau cymorth lleol ac ar-lein, a chyfeillio un i un. Mae ysgrifennu'n rhan bwysig o'n rhaglenni encil ac rydym yn ddiolchgar dros ben i Christina am ddefnyddio ei phrofiad byw, ei harbenigedd a'i hangerdd i annog ein rhieni i ysgrifennu". 

 

Cyrhaeddodd gwaith Christina ar alar restr fer Cystadleuaeth Casgliad Barddoniaeth Cyntaf Bare Fiction yn 2015 ac enillodd Wobr Terry Hetherington i Awduron Ifanc yn 2016. Mae gwaith arall ganddi wedi cael ei gynnwys mewn sawl cyhoeddiad arall, gan gynnwys The London Magazine, Planet Magazine, And Other Poems, Acumen a The Interpreter's House. Gellir dod o hyd i'w llyfr ar: https://www.parthianbooks.com/products/more-than-you-were

 

I ddarllen mwy am The Compassionate Friends a'r digwyddiad, ewch i'w gwefan. Gallwch gefnogi eu gwaith trwy roi cyfraniad yma: https://www.tcf.org.uk/content/donate/


I ddarllen y stori yma yn Gymraeg, cliciwch fan hyn