Home>News>Darlithydd yn derbyn dwy wobr nodedig

Darlithydd yn derbyn dwy wobr nodedig i gydnabod ymchwil rhagorol

 


Mae darlithydd Met Caerdydd, Dr Rhodri Lloyd, wedi'i enwi yn Addysgwr y Flwyddyn gan Gymdeithas Genedlaethol Cryfhau a Chyflyru yn ogystal ag wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth y Golygyddion oddi wrth JSCR ( Journal of Strength and Conditioning Research).

Dr. Lloyd yw'r 16ed academydd i'w enwi yn Addysgwr y Flwyddyn lle y bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan bwyllgor o wirfoddolwyr, ac ymunodd yr Athro Jon Oliver, Dr John Radnor a Dr Jason Pedley â Dr Lloyd yng Nghynhadledd Genedlaethol Flynyddol rhif 42 yr NSCA yn Washington.

Caiff enillwyr Gwobr Addysgwr y Flwyddyn eu dewis oherwydd eu cyfraniad i'r NSCA ac i'w cymuned ac oherwydd cyfraniad nodedig i addysg ac i ddefnydd clinigol ar gyflyru a hyfforddiant cryfder.

Meddai Dr Lloyd, sy'n Ddarllenydd mewn Cryfder a Chyflyru Paediatrig: "Derbyn y gwobrau oedd yr uchafbwynt mawr mewn cynhadledd NSCA wych.

"Yn ogystal â'm prif ddarlith innau, roedd pob un o'm cydweithwyr ym Met Caerdydd, yr Athro Jon Oliver, Dr John Radnor a Dr Jason Pedley, wedi cyflwyno gwaith neu wedi cymryd rhan mewn symposia a fu'n gymorth i ddangos yr ymchwil uchel ei safon a wneir gan y staff a'r myfyrwyr yng Nghanolfan Datblygiad Corfforol Ieuenctid.

"Teimlais yn wylaidd iawn wrth dderbyn Gwobr Addysgwr y Flwyddyn a Gwobr Rhagoriaeth Golygyddion JSCR o feddwl am restr yr enillwyr blaenorol, ac rwy'n diolch i'r NSCA am y ddau anrhydedd. Er mai i fi fel unigolyn y cafodd y gwobrau eu rhoi, mae'r gydnabyddiaeth ryngwladol yma yn dyst i'r grŵp eithriadol o staff rwyf yn gweithio wrth eu hochr o fewn y tîm addysgu Cyflyru, Adfer a Thylino Chwaraeon yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, ac rwy'n parhau i ddysgu oddi wrthyn nhw."

Dr Lloyd yw Cadeirydd y Ganolfan Datblygiad Corfforol Ieuenctid sydd wedi'i lleoli yn y Brifysgol ac sy'n cynnig darpariaeth cryfder a chyflyru ar ôl ysgol i athletwyr ifanc. Hefyd mae'n ymchwilydd cysylltiol gyda Phrifysgol Dechnoleg Auckland ac yn gymrawd ymchwil yn Athrofa Dechnoleg Waikato. Dros y 10 mlynedd ddiwethaf, bu ei ymchwil yn canolbwyntio ar effaith tyfu ac aeddfedu ar ddatblygiad athletaidd tymor hir a'r mecanweithiau niwro-gyhyrol sy'n sail i addasiadau hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc.

Mae NSCA yn awdurdod byd-eang ar gryfder a chyflyru a sefydlwyd yn 1978.

I ddarllen y stori yma yn Saesneg, cliciwch fan hyn.