Home>News>Dewis Myfyrwraig Met Caerdydd yn Gyflawnydd Ifanc mudiad Gweithredu dros Blant

Dewis Myfyrwraig Met Caerdydd yn Gyflawnydd Ifanc mudiad Gweithredu dros Blant

​13 Chwefror 2019

 

Mae Angharad Mair Roberts, myfyrwraig ar ei blwyddyn gyntaf ar y cwrs Ysgrifennu Creadigol a'r Cyfryngau wedi derbyn gwobr am ei gwaith fel llysgennad dros fudiad 'Gweithredu dros Blant' (Action for Children).

Mae Gwobrau Stephenson yn anrhydeddu'r rhai sy'n mynd yr ail filltir i sicrhau fod Gweithredu dros Blant ar gael i'r plant, ieuenctid a theuluoedd mwyaf agored i niwed sydd wedi eu hesgeuluso yn y DU.

Mae'r gwobrau blynyddol yn cydnabod gwaith cefnogwyr, gwirfoddolwyr, gofalwyr maeth, mabwysiadwyr ac aelodau staff yr elusen, a chydnabod y bobl ifanc a'r teuluoedd maen nhw'n eu cefnogi.

Ers iddi fod yn ddwyflwydd oed, magwyd, Angharad, o Ynys Môn, mewn gofal. Cafodd ddiagnosis o fod yn dioddef o iselder yn 18 oed, bu'n ystyried hunanladdiad, ond cofiodd am ei brawd maeth iau a phenderfynu chwilio am help ym mis Mawrth 2017, pan soniodd ei Chynghorydd Personol (Gweithwraig Gymdeithasol) am waith y mudiad.

Hefyd, darparodd Gweithredu dros Blant eu gweithiwr cymorth ei hunan ac fel yr eglura Angharad: “Doedd gen i ddim profiad o ddim byd arall ond byw mewn gofal. Drwy fudiad Gweithredu dros Blant wnes i gwrdd â grŵp o bobl wnaeth fy nghroesawu'n gynnes a'm helpu, a'm gwneud i ddeall fod yna reswm dros fyw. Gwnaeth y staff yno hefyd fy helpu i ddod y person ifanc ydw i bellach ac i sylweddoli bod pobl yn wir yn awyddus i fod yn ofalgar ac i gynnig helpu.

“Wnes i gychwyn ar eu rhaglen sgiliau byw – 'Skills4Living' – ym mis Mawrth 2017. Mae hyn yn eich helpu i fod yn annibynnol a delio gyda iechyd meddwl.”

Bu'r rhaglen yn help i Angharad, sydd bellach yn 21 mlwydd oed, i fagu digon o hyder i wneud cais am le yn y brifysgol tra'n gweithio fel Cynorthwyydd Grŵp Chwarae, fel gweithiwr un-wrth-un gyda phlentyn Awtistig ac yna mewn siop Pysgod a Sglodion.

Meddai hi: “Feddyliais i erioed y gallwn i gyrraedd prifysgol oherwydd y stigma oedd ynghlwm â phlant mewn gofal nad oedden nhw ddigon neu heb fod yn cyflawni yn yr ysgol na chael graddau cystal â phlant oedd heb fod mewn gofal. Ond rwy'n falch i mi wrthbrofi hyn. Roedd hi'n anodd dychwelyd i fyd addysg ar ôl bod yn gweithio am dair blynedd ac rydwi'n cymryd pethau un dydd ar y tro ond rwy'n mwynhau ochr Cyfryngau fy nghwrs yn fawr iawn ac efallai bydda i'n gynhyrchydd neu Weithredydd Camera a Golygydd, gan mod i'n mwynhau'r agwedd honno hefyd. Fyddwn i byth yn dweud chwaith nad af yn ôl i weithio i Ysgol Gynradd, gan mod i'n gwir fwynhau gweithio gyda phlant.

Llynedd, cafodd Angharad ei gwneud yn Llysgennad Ifanc mudiad Gweithredu dros Blant a bu'n neidio 10,000 troedfedd o awyren. Yna, ym mis Tachwedd, gwahoddwyd hi i fod yn aelod o Bwyllgor Cymru o Gweithredu dros Blant. Mae'n edrych ymlaen i fynychu ei chyfarfod cyntaf y mis nesaf.

Medd hi: "Yn aml, mae rhai sy'n dioddef afiechyd meddwl ofn cyfaddef eu bod angen help. Doedd dim llawer o hysbysrwydd pan ges i fy niagnosis cyntaf gydag iselder. Gallai hyn fod yn cymell pobl i estyn allan. Gallai ysgolion wneud llawer i helpu.

"Roeddwn i'n hynod falch o dderbyn y wobr ac hefyd yn gyffrous o gyfarfod y rhai eraill oedd wedi eu henwebu ac wedi ennill.”

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.