Home>News>Dysgwyr Met Caerdydd yn cael eu hanrhydeddu yng ngwobrau y fro

Dysgwyr Met Caerdydd yn cael eu hanrhydeddu yng ngwobrau y fro

Dysgwyr Met Caerdydd yn cael eu hanrhydeddu yng ngwobrau y fro
 

Yn gynharach yn y mis, cafodd dau o gynfyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd eu canmol am eu llwyddiannau ysbrydoledig yn ehangu mynediad i addysg oedolion drwy ddysgu cymunedol. Cawsant eu hanrhydeddu mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio.

Mae Gwobrau Ysbrydoli! 2019 Addysg Oedolion a drefnwyd gan Rwydwaith Dysgu y Fro yn cydnabod unigolion, teuluoedd, prosiectau a sefydliadau sydd wedi dangos brwdfrydedd, ymroddiad a phenderfyniad i wella eu hunain, eu cymunedau neu eu gweithle drwy ddysgu.

Mae'r tair gwobr - Newid Bywyd a Chynnydd, Hyrwyddwr Newid Bywyd a Gwobr Gail Hughes ar gyfer Dysgu Cymunedol - yn tynnu sylw at ymrwymiad y Brifysgol i helpu i wneud dysgu oedolion yn fwy hygyrch i ystod ehangach o bobl. Drwy fentrau fel y rhaglen O'r Gymuned i'r Campws, mae Met Caerdydd wedi helpu 100 a mwy o fyfyrwyr, a fyddai, fel arall heb gael mynediad i addysg bellach, i ymuno â chyrsiau sylfaen yn y Brifysgol.

Derbyniodd Leah Twinney, 30, wobr Newid Bywyd a Chynnydd. Gadawodd yr ysgol gyda sawl TGAU ac ar ôl mynd yn ei blaen i fod yn uwch steilydd yng Nghaerdydd, roedd yn chwilio am ffyrdd o ddatblygu ei gyrfa trin gwallt. Ymunodd â chwrs undydd gydag Ysgol Haf Met Caerdydd ar addysgu oedolion, cyn cofrestru i gwrs Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) y mis Medi canlynol.

Meddai Leah: "Wedi i mi gyrraedd fy nhargedau gyrfa o ran trin gwallt, roeddwn i'n gwybod bod yna ffordd o ddefnyddio fy sgiliau mewn dull gwahanol. Mynychais ddiwrnod blasu Met Caerdydd ac yna penderfynais gofrestru â rhaglen PCET gyda'r nod o ddysgu sut i addysgu'r pwnc roeddwn i'n angerddol yn ei gylch.

"Fyddwn i byth bythoedd wedi meddwl y byddwn yn camu i ffwrdd o drin gwallt yn llawn amser, ond bellach mae gen i yrfa werth chweil sy'n rhoi llawer iawn o foddhad i mi. Rydw i wedi datblygu cymaint fel unigolyn."

Derbyniodd Kayleigh Williams, 28, wobr Hyrwyddwr Newid Bywyd wedi iddi oresgyn rhwystrau a allai fod wedi atal pobl eraill rhag parhau yn y byd addysg. Drwy gyfarfodydd a chymorth rheolaidd, cafodd Kayleigh flas ar fywyd prifysgol, gan hyd yn oed ymuno â grŵp cymorth Campws Cyntaf y Brifysgol gan helpu pobl ifanc eraill sydd wedi bod mewn gofal.

Meddai Kayleigh: "Petai rhywun wedi dweud wrthyf pan oeddwn yn 16 oed y byddwn wedi cael gradd Prifysgol, fyddwn i ddim wedi eu coelio nhw. Roeddwn i'n mwynhau addysg ond oherwydd trafferthion gartref, doedd fy lefelau presenoldeb yn yr ysgol ddim yn dda iawn.

"Roeddwn yn crio ar ôl cael fy nerbyn i'r Brifysgol - doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn yn llwyddo na chwaith mod i'n ddigon clyfar neu drwsiadus. Mae astudio ym Met Caerdydd wedi rhoi golwg newydd ar fywyd i mi."

Mae Gwobr Gail Hughes ar gyfer Dysgu Cymunedol yn wobr flynyddol a sefydlwyd er cof am y ddiweddar Gail Hughes, Swyddog Allgymorth Cymunedol Bro Morgannwg. Mae'r wobr yn cydnabod ymrwymiadau eithriadol i ehangu mynediad i addysg yng nghymunedau Caerdydd a'r Fro. 

Wrth gasglu Gwobr Gail Hughes am Ddysgu Cymunedol, meddai Jan Jones, Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned Met Caerdydd: "Mae'n hyfryd gweld Leah a Kayleigh yn ennill y gwobrau hyn. Ynghyd â Gwobr Gail Hughes, mae'r gwobrau hyn yn cydnabod cyfraniadau Met Caerdydd i addysg yn y gymuned ac maen nhw'n brawf pa mor werthfawr yw addysg i unrhyw oedran. 

"Caiff y cyrsiau blasu hyn eu darparu mewn lleoliadau yn y gymuned drwy ein rhaglen O'r Gymuned i'r Campws gyda'r 

nod o'u gwneud yn hygyrch i gynifer â phosibl. Eu nod yw chwalu rhwystrau ac ehangu cyfranogiad, gan gyrraedd y rhai na fyddai wedi cael y cyfle i astudio'n flaenorol i lefel addysg uwch."

Meddai Lis Burnett, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio Cyngor Bro Morgannwg: "Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod yr ymrwymiad a'r brwdfrydedd dros addysg y gwyddom sy'n bodoli yma ym Mro Morgannwg. Mae Leah a Kayleigh wedi cyflawni cymaint yn wyneb rhai heriau anodd iawn. Maen nhw'r un mor frwdfrydig am addysg ag y maen nhw am eu gwaith. Mae'n bleser dathlu eu llwyddiant gyda nhw.

"Mae ymrwymiad Prifysgol Metropolitan Caerdydd i ddysgu oedolion yn brawf o frwdfrydedd y sefydliad dros ddysgu a chryfhau cymunedau drwy addysg. Rydw i wrth fy modd cydnabod eu hymrwymiad i ddysgu gyda Gwobr Gail Hughes."

Am ragor o wybodaeth am gyrsiau Ehangu Mynediad Met Caerdydd, cliciwch fan hyn.

I ddarllen y stori yma yn Saesneg, cliciwch fan hyn.