Home>News>Entrepreneuriaid o Blith Myfyrwyr Met Caerdydd yn Ennill Cyfran o 19,000 iw Hariannu i Gychwyn Busnes

Entrepreneuriaid o Blith Myfyrwyr Met Caerdydd yn Ennill Cyfran o £19,000 i’w Hariannu i Gychwyn Busnes

​25 Mehefin 2019

 

Yn ddiweddar, cynhaliodd Canolfan Entrepreneuriaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd bythefnos o ddigwyddiadau gwersyll hyfforddi ar gyfer myfyrwyr presennol a graddedigion diweddar er mwyn iddyn lansio neu uwchraddio eu busnes a galluogi buddsoddiad o dros £19,000 mewn busnesau cychwynnol a ariennir gan Brifysgolion Santander.

Mae Canolfan Entrepreneuriaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar Gampws y brifysgol yn Llandaf yn adran bwrpasol a’i nod ydy ysbrydoli, galluogi a chynorthwyo entrepreneuriaeth ymhlith y garfan myfyrwyr, a chaniatáu i fyfyrwyr i wireddu eu syniad am fusnes drwy gyfres o weithdai, mentora ar gael a chyfleoedd ariannu.

Mae ‘Dynesu at y Lansiad’, bellach yn ei 7fed blwyddyn, yn cynnig cyfle i fyfyrwyr entrepreneuraidd fynychu wythnos o weithdai ar fusnesau hanfodol gyda siaradwyr gwadd o fyd diwydiant ac yn gorffen ar y diwrnod olaf gyda phum munud i wneud 'bid' busnes i banel o feirniaid am gyfran o’r arian sy’n cael ei gynnig i gynorthwyo symud eu busnes ymlaen i’r cam nesaf. Am y tro cyntaf eleni, cynhaliwyd y digwyddiad ar y ddau gampws a hynny’n caniatáu i dros 40 o fyfyrwyr i gymryd rhan yn y rhaglen a chael awgrymiadau hanfodol a chyngor ar gyfer eu busnes gan dîm y Ganolfan Entrepreneuriaeth a siaradwyr gwadd y digwyddiad.

Y prif siaradwr gwadd eleni oedd Maria Leijerstam, hi oedd y person cyntaf yn y byd i seiclo i Begwn y De a hynny’n cadarnhau ei lle yn y ‘Guinness World Records’. Hi hefyd sefydlodd record cyflymder dynol sef 10 diwrnod 14 awr a 56 munud am unrhyw gyrch o’r arfordir i Begwn yr Antartig. Fel siaradwr gwadd ac awdur, mae Maria yn sôn am yr hyn y mae’n ei gymryd i gyflawni campau fel hyn a’r modd y mae wedi gallu cymhwyso’i syniadau wrth drefnu cyrch i redeg ei busnes ei hun a chwrdd â sialensiau o fod yn entrepreneur.

Yn ystod y ddwy wythnos, croesawyd siaradwyr gwadd i gynnal gwahanol weithdai yn cynnwys Paul Bailey o Wesley Clover ac Alacrity, Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol gyda Lunax Digital, pitsio neu gynnig busnes gyda Julie Collins, y seicolegydd Rebecca Chidley, a Chris Griffiths, Cyfarwyddwr Buddsoddi Technegol Banc Datblygu Cymru.
Yn ystod y ddwy wythnos, cafwyd ystod eang o syniadau am fusnes o fewn pob ysgol academaidd yn y Brifysgol, gan gynnwys busnesau hyfforddi chwaraeon, unigolion llawrydd maes Serameg a Chelf Gain, cyfrifyddion, therapïau cyflenwol, mathau o ddillad a busnesau’r trydydd sector.

Y beirniaid ar gyfer y cynigion ar y diwrnod olaf oedd Tomas Barratt o Santander, Deri Green o High Level Software, Clojo Bedingham, perchennog Clojo Ruth Designs a chyn enillydd 'Dynesu at y Lansiad', Ali Mahoney o 'ithinksport', a Jayne Brown sy’n rhedeg cwmni iechyd a ffitrwydd awyr agored.

Dywedodd Tomas Llewelyn Barrett, Rheolwr Cysylltiadau Prifysgolion Santander ar gyfer Cymru a’r De Orllewin, “Mae gan Met Caerdydd hanes cyfoethog o gynhyrchu talent entrepreneuraidd, yn helpu i feithrin syniadau myfyrwyr i ddatblygu’n fusnesau fydd yn gwneud eu marc ar y farchnad.

“Roedd safon cynigion y gystadleuaeth yn anghredadwy o uchel ac rydw i’n disgwyl un neu ddau o’r entrepreneuriaid sydd wedi cymryd rhan i fod yn enwau poblogaidd yn y dyfodol.

“Mae Prifysgolion Santander yn bartner balch i Met Caerdydd ac rydyn ni’n edrych ymlaen i ddilyn twf eu busnesau yn ofalus a’u cynorthwyo ar y daith.”

Bydd y Ganolfan Entrepreneuriaeth yn cynnig cymorth dilynol i bawb sy’n cymryd rhan yn y rhaglen 'Dynesu at y Lansiad' ynghyd â mynediad i fan cydweithio y Ganolfan ar Gampws Llandaf sy’n cynnig desg, wifi, cymorth busnes a’r cyfle i gydweithio â chyd fyfyrwyr o entrepreneuriaid ar yr un daith gychwyn busnes.

Dywedodd y fyfyrwraig Emily Reed, perchennog FAER Consulting, sy’n cynnig cymorth cyfathrebu amaethyddol “Ces wythnos ryfeddol gyda'r Ganolfan Entrepreneuriaeth, sydd wedi newid fy mywyd a rhoi'r offer i mi gychwyn fy nghwmni cyfathrebu ar gyfer busnesau gwledig.

“Rydw i wedi cael fy ysbrydoli gan y tîm, y siaradwyr a chyd-aelodau’r cwrs drwy gydol yr wythnos a sefydlu cysylltiadau da gyda chymaint o bobl.”

Dywedodd Steve Aicheler, rheolwr Ymglymiad ag Entrepreneuriaeth yn y Ganolfan Entrepreneuriaeth, "Mae 'Dynesu at y Lansiad' yn un o’n uchafbwyntiau blynyddol yn y Ganolfan a dydy eleni ddim yn eithriad. Mae proffesiynoldeb a gwybodaeth y myfyrwyr drwy gydol yr wythnos, ond yn arbennig ar y diwrnod olaf pan oedden nhw’n pitsio, wedi dangos eu gallu i ddatblygu’n entrepreneuriaid. Mae cynnal y digwyddiad ar ddau gampws wedi caniatáu i ni weithio’n agos gyda myfyrwyr ychwanegol ac i gynorthwyo busnesau mewn mwy o sectorau gwahanol.

"Ar ran y Ganolfan, hoffwn ddiolch i’r holl siaradwyr gwadd a’r beirniaid sydd wedi’n cynorthwyo a’n cefnogi yn ystod yr wythnos hon yn ogystal â Phrifysgolion Santander am ariannu’r gwobrau er mwyn ein galluogi i barhau i gynorthwyo’r busnesau cychwynnol hyn."

I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.