Home>News>Enwi Ysgol Pen-y-bont fel talent busnes ifanc mwyaf addawol

Enwi Ysgol Pen-y-bont fel talent busnes ifanc mwyaf addawol Cymru yn ystod cystadleuaeth  'menter' genedlaethol

 

Mae tîm o blant ysgol o Ben y Bont sydd â chraffter am fusnes wedi ennill gwobr genedlaethol i ganfod a meithrin talent entrepreneuraidd ifanc o Gymru, gan ddod i'r brig o blith cannoedd o ddisgyblion ledled Cymru. 

Cipiodd y disgyblion o ysgol Gynradd Y Garth y brif wobr yng nghystadleuaeth flynyddol Y Criw Mentrus a gynhelir gan Lywodraeth Cymru ac a  gynhaliwyd eleni ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Ar ôl gwneud argraff ar y beirniaid gyda'u craffter busnes a'u dawn entrepreneuriadd cyflwynwyd y brif wobr i Ysgol Gynradd Garth am eu syniad busnes  'Bee-Spoke T-shirts', crysau-T 

ar thema gwenyn a gynlluniwyd ganddynt i godi ymwybyddiaeth am gadwraeth gwenyn yn ogystal â chodi arian ar gyfer diogelwch cwch gwenyn yr ysgol a ddifrodwyd.

Mae cystadleuaeth flynyddol Y  Criw Mentrus, a gynhelir gan Syniadau Mawr Cymru – fel rhan o Wasanaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru yn dod â phlant 5-11 mlwydd oed o bob cwr o Gymru ynghyd, gyda thimau o blant ysgolion cynradd yn ymuno i redeg eu busnesau eu hunain, gwerthu cynnyrch a gwasanaethau o'u dewis eu hunain yn eu hysgolion a'u cymunedau lleol.   . 

Amcan y gystadleuaeth yw cynorthwyo'r disgyblion i ddefnyddio eu creadigedd a'u sgiliau entrepreneuraidd mewn ffordd hynod ymarferol. Mae'n rhoi cyfle iddynt arddangos eu cyflawniadau mewn busnes ac i ddangos sut y maent wedi datblygu eu diddordebau, cryfderau, sgiliau a dyheadau trwy eu menter. Yn ymochrol ag uchelgeisiau cwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru, mae'r gystadleuaeth yn dangos sut mae'r ysgolion yn cyflwyno profiadau perthnasol i waith yn ystod yr oedran cynnar yma.

Wrth agor y digwyddiad dywedodd Ken Skates Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth  " Mae'n fraint cael gweld ein disgyblion ifancaf yn mwynhau'r cyflwyniad yma i fyd  busnes a menter. Maent yn arddangos eu talent wrth ddefnyddio eu syniadaeth entrepreneuriadd ar gyfer datrysiadau ymarferol. Maent yn canolbwyntio ar eu diddordebau a phroblemau 

cymdeithasol ac amgylcheddol i greu busnesau moesegol sy'n gwneud elw yn ogystal."

Ychwanegodd: "Wrth baratoi'r bobl ifanc ar gyfer byd gwaith a bywyd, mae hyn yn enghreifftio uchelgeisiau'r cwricwlwm newydd i ddatblygu cyfranwyr mentrus creadigol."

Yn dilyn mis o rowndiau rhanbarthol a gynhaliwyd mewn lleoliadau ar draws Cymru yn sir Benfro, Porthcawl, Llanrwst, Caerffili a'r Drenewydd dewiswyd  15 ysgol i gynrychioli rhanbarthau Cymru yn y Rownd Derfynol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Julie Thomas, pennaeth Ysgol Gynradd  Garth: Mae hwn wedi bod yn brofiad anhygoel o werthfawr i'n disgyblion, sydd wedi dysgu a datblygu sgiliau newydd, o weithio mewn tîm, meddwl yn greadigol, a chyllido. Mae'r ysgol yn ymfalchïo yn eu gwaith caled trwy gydol cystadleuaeth Y Criw Mentrus ac rydym yn awyddus iawn i ddychwelyd i'r ysgol i rannu'r newyddion da gyda phawb"

Yn cynnig eu cefnogaeth i'r disgyblion yn ystod y rownd derfynol genedlaethol a'r rowndiau rhanbarthol roedd y pedwar aelod o'r Criw Mentrus sy'n cynrychioli priodoleddau allweddol entrepreneuriaeth: agwedd, creadigaeth, perthynas a threfniant.

Dywedodd Kevin Morgan, rheolwr rhanbarthol ar gyfer Business Banking ac aelod o Fwrdd Nat West Cymru, noddwr y digwyddiad "Mae Ysgol Gynradd Garth yn enillydd teilwng o gystadleuaeth Y Criw Mentrus eleni, gan wynebu cystadleuaeth gref o bob cwr o Gymru.

"Mae'r gystadleuaeth yma yn gyfle gwych i blant ysgolion cynradd ddatblygu sgiliau fydd yn bwysig iddynt ym myd gwaith, yn cynnwys gwaith tîm, creadigedd, gweithio i derfyn amser penodol a chyllido." 

Cynhaliwyd y digwyddiad ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd  oedd hefyd yn noddi'r  rownd derfynol.  

Meddai Jo Bowers, Deon Cysylltiol ar gyfer Arloesedd a Rhyngwladol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: "Hoffwn longyfarch Ysgol Gynradd Garth ar ennill y wobr gyntaf - roedd y safon yn arbennig o uchel eleni, ond roedd eu hysbryd entrepreneuraidd yn amlwg o'r cychwyn cyntaf."

Cyflwynwyd gwobrau i'r ddwy ysgol a ddaeth yn ail sef  Ysgol Bro Cernyw ac Ysgol Llanbrynmair a hoeliodd sylw'r beirniaid gyda'u syniadau busnes sef Cwmni Cynnyrch Cernyw, sy'n cynhyrchu bagiau a chalendrau ar gyfer pen-blwydd yr ysgol yn 50 a Sebon Spesial sy'n cynhyrchu a gwerthu sebon.

Noddir Y Criw Mentrus hefyd gan Impact School Improvement, (Gwobr Cysylltiadau â'r Cwricwlwm) a Cadw Gymru'n Daclus/ / ECO Sgolion (Gwobr ECO/Amgylcheddol).  

Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Wasanaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru. Wedi ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop mae'n cynorthwyo pobl ifanc rhwng 5 a 25 i ddatblygu sgiliau mentergarwch.

I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth ewch i http://enterprisetroopers.com/

I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan hyn.