Home>News>Ffitrwydd Gemma ar ei Ennill Diolch i Arddangosfa Ffotograffiaeth Eiconig 'Big Surprise' y Loteri ‘Genedlaethol

Ffitrwydd Gemma ar ei Ennill Diolch i  Arddangosfa Ffotograffiaeth Eiconig 'Big Surprise' y Loteri ‘Genedlaethol

​13/09/2019

 


Bydd Gemma Price, a sefydlodd sesiynau 'Boxing Pretty' Clwb Paffio Amatur Phoenix Llanrhymni yn ymddangos ar raglen y Loteri Cenedlaethol ar ITV ac STV.

Cafodd Gemma ei synnu ar raglen 'Big Surprise' y Loteri Genedlaethol, rhaglen sy'n anrhydeddu unigolion sydd wedi gwneud gwir wahaniaeth gyda help arian y Loteri Genedlaethol. Mae Gemma yn cynnal sesiynau 'Boxing Pretty' Clwb Paffio Amatur Phoenix Llanrhymni ar gyfer menywod a phlant.

Slot wythnosol 90 eiliad ydy 'Big Surprise' yn ystod adeg hysbysebu sioeau brig nos Sadwrn ITV ac STV  – yn golygu bod Gemma, yr arwres leol, ar fin gael cydnabyddiaeth genedlaethol a'r disgwyl yw y bydd tua 5 miliwn o bobl yn gwylio rhwydwaith ITV ac STV y Sadwrn yma.

Cychwynnodd Gemma, 37 oed, ei dosbarth cyntaf yn 2013 ar ôl i berthynas 10 mlynedd lle roedd hi'n cael ei cham-drin ddod i ben, ac ers hynny oherwydd ei bod wedi cynnig cymaint o ysbrydoliaeth a chryfder i lawer o aelodau roedden nhw am ddiolch iddi.

 Chlwb Paffio Amatur Phoenix Llanrhymni yn llwyddo i gyrraedd rownd derfynol Gwobrau Penblwydd 25 oed y Loteri Genedlaethol– - y chwilio blynyddol i ddod o hyd i hoff brosiectau a phobl y DU a ariannwyd gan y loteri – doedd hi ddim yn ormod o syndod i Gemma pan ofynnwyd am gael llun o un o'i grwpiau. Ond yr hyn a'i syfrdanodd gweld lle roedd y lluniau'n cael eu harddangos…

Cyrhaeddodd Gemma y dosbarth i weld grŵp o'i haelodau a sgrîn enfawr uwchben y cylch paffio oedd yn datgelu portreadau mawr nodedig o'r menywod fesul un, mewn mannau eiconig yng Nghaerdydd yn cynnwys Heol y Frenhines, Castell Caerdydd a Bae Caerdydd.

Cychwynnodd dosbarthiadau'r fyfyrwraig, sydd ar ei thrydedd blwyddyn ar gwrs Rheoli Chwaraeon, gyda chwe menyw ac erbyn hyn mae wedi cynyddu i bum dosbarth a thros ddeg ar hugain o fenywod yn hyfforddi yn ogystal â merched deg i un ar bymtheg oed. Dywedodd: "Doeddwn i ddim wedi bwriadu i'r dosbarthiadau fod amdana i fy hun. Yn wir bu'n ymdrech tîm gyda chriw gwych o fenywod cefnogol, sy'n mynychu am wahanol resymau ac yn cael boddhad mewn gwahanol ffyrdd.

"Roedd cychwyn y grŵp wedi achub fy mywyd a dweud y gwir ac fe chwaraeodd y criw yma ran enfawr yn fy ymdrech i sefydlogi fy mywyd, felly, diolch iddyn nhw i gyd. Maen nhw wedi gwneud mor rhyfeddol o dda gyda'u ffitrwydd ers ymuno."

Daeth Gemma, sydd â dwy ferch 16 ac 13 oed, i gysylltiad â'r clwb drwy Tony Richards, gofalwr yr ysgol lle roedd Gemma yn Swyddog Ymglymiad Teulu.

Dywedodd: "Roedd o'n gwybod pa mor wael oedd pethau a rhoddodd allweddi'r clwb paffio i mi. Ar ôl blynyddoedd o gael fy ngham-drin yn gorfforol ac emosiynol a chael fy rheoli, roedd angen dull arna i o gael gwared â'r dicter roeddwn yn ei deimlo. Pan fyddwn hyd yn oed yn aros mewn ciw mewn archfarchnad, byddwn yn gwylltio gydag unrhyw un fyddai'n edrych arna i ac ar fy merched."

Aeth i mewn i'r clwb un nos Wener ac yn fuan roedd wedi ffoli ar baffio yn y clwb amatur sydd wedi cynhyrchu pedwar pencampwr Cymru; Pencampwr Elît Hŷn, Pencampwyr Bechgyn Ysgol a Phencampwraig Merch Ysgol ers iddo agor ei ddrysau yn 2010.

Dywedodd Gemma: "Am yr awr gyntaf, fe wnes i ddyrnu, crio, gweiddi a chwerthin ond gan fwyaf teimlo'r pwysau a fuodd arna i yn codi. Pan adawes i'n gampfa, sylweddolais os roeddwn yn teimlo fel hyn, roedd menywod eraill yn teimlo'r un fath – llawer ohonyn nhw fel mae'n digwydd.

"Mae trais domestig a chamdriniaeth yn dal yn bynciau eithaf tabŵ a does dim digon o drafod arnyn nhw. Cychwynnais ddosbarthiadau Boxing Pretty i ddarparu lle diogel i fenywod hyfforddi a'u grymuso."

Dywedodd Elizabeth Lewis, o Ysgol Chwaraeon Caerdydd: "Mae'n wych gweld myfyrwyr cyfredol Rheoli Chwaraeon Met Caerdydd yn defnyddio eu hastudiaethau ar gyfer chwaraeon i wella cyfleoedd yn eu cymunedau lleol.

"Lluniwyd y rhaglen radd i sicrhau y gall myfyrwyr a graddedigion fel ei gilydd ddefnyddio'r wybodaeth, y sgiliau a'r priodweddau y maen nhw'n eu datblygu ar y cwrs i effeithio'n bositif ar y maes chwaraeon  yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

"Mae'r modd y mae Gemma wedi cyfuno ei hastudiaethau, ynghyd â rheoli a ddatblygu ei chlwb yn glod i'w gwaith caled a'i hymroddiad, ac rydyn ni'n falch iawn o'r hyn y mae Gemma wedi'i gyflawni."

Yn 2017, gyda help arian y Loteri Genedlaethol, symudodd y clwb i leoliad mwy o faint i gael lle i'w aelodaeth gynyddol.

Ychwanegodd Gemma: "Anogir y menywod i ddod â'u plant gyda nhw fel nad y plant fydd yn eu rhwystro rhag bod yn actif yn gorfforol.

"Nid clybiau paffio yn unig ydy Clybiau Paffio mwyach. Mae hyfforddwyr yn gweithredu fel rhieni, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion ymglymiad teulu – rydyn ni'n nabod ein plant ac rydyn ni'n adnabod ein teuluoedd.

"Mae lefelau uchel o ymddygiad gwrth-gymdeithasol, defnyddio cyffuriau, troseddau cyllyll a hyd yn oed llofruddiaethau yn ein hardal, felly, byddwn yn defnyddio modelau rôl sydd efallai wedi bod mewn trafferth gyda'r heddlu yn y gorffennol, er mwyn dangos i eraill bod llwybrau eraill i'w cymryd."

Dyfarnwyd £17,946 o arian y Loteri Genedlaethol i Glwb Paffio Amatur Phoenix Llanrhymni ac mae'r arian hwnnw wedi cael ei ddefnyddio i lansio a chynnal rhagor o ddosbarthiadau cynhwysol.

 Y 'Big Surprise' ydy dilyniant canlyniadau'r Loteri Genedlaethol ar oriau brig teledu drwy bartneriaeth fasnachol gydag ITV   (o 14 Ebrill 2018.)

I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.