Home>News>Gweinidog Addysg Cymru yn rhoi Darlith Met Caerdydd ar Bolisi Addysg Cymru

Gweinidog Addysg Cymru yn rhoi Darlith Met Caerdydd ar Bolisi Addysg Cymru

​08/02/19

 


(O'r Chwith i'r Dde) Julia Longville, Deon Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd, Yr Athro Leigh Robinson, Dirprwy Is-Ganghellor Campws Cyncoed a Deon Cysylltiol yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd, Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg a'r Farwnes Ilora Finlay o Landaf, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Met Caerdydd.

Rhoddodd Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg, sgwrs graff i fyfyrwyr, staff, llywodraethwyr ac ysgolion partneriaeth arweiniol Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd, gan ffocysu ar y testun 'Cyflawni Cenhadaeth Addysg ein Cenedl: Cynnydd a'r Camau Nesaf.'

Hon oedd y ddarlith derfynol mewn cyfres o ddarlithoedd misol wedi'u trefnu gan Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd er mwyn parhau â'r drafodaeth ar bolisi addysg yng Nghymru.

Bu Kirsty Williams yn Weinidog Addysg Cymru er mis Mai 2016, yn dilyn cytundeb blaengar gyda'r Prif Weinidog, a hi sy'n arwain ar 'genhadaeth ein cenedl i ddiwygio addysg ar bob lefel". Ymhlith blaenoriaethau'r Gweinidog mae newid y cwricwlwm ysgol, gostwng maint dosbarthiadau babanod a darparu'r system gymorth mwyaf cyfiawn a blaengar yn Ewrop i fyfyrwyr.

Meddai'r Gweinidog: "Roeddwn yn hynod falch o dderbyn y gwahoddiad i siarad gyda staff a myfyrwyr Met Caerdydd ar Genhadaeth Addysg ein Cenedl.

"Mae Cenhadaeth ein Cenedl, a'r cwricwlwm newydd, yn adegau arwyddocaol yn ein hanes fel pobl sy'n credu mewn addysg fel ymdrech unigol, gymunedol a chenedlaethol. Am y tro cyntaf erioed, rydyn ni'n cyflwyno ein hargymhellion deddfwriaethol ein hunain wedi eu paratoi yng Nghymru ar gyfer y cwricwlwm ysgol.

"Bydd y cwricwlwm newydd yn cefnogi'n pobl ifanc i fod yn feddylwyr mentrus, creadigol a chritigol ac yn grymuso'n hathrawon i arwain y disgyblion hynny i fod yn ddinasyddion hyderus gyda gwybodaeth gysylltiedig, cydlynol a sylfaenol.

"Rwyf am i'n dinasyddion ieuengaf nid yn unig ddeall y byd o'u cwmpas, ond i gwestiynu'r byd o'u cwmpas, a'i newid er gwell!"

Mae Papur Gwyn argymhellion deddfwriaethol y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd mewn cyfnod ymgynghori ac y mae'r cwricwlwm drafft i fod i gael ei gyhoeddi ar gyfer adborth ym mis Ebrill.

Ymhlith siaradwyr eraill yn y gyfres ym Met Caerdydd roedd yr Aelod Cynulliad, Huw Irranca-Davies; Yr Athro Mick Waters, Cadeirydd y Grŵp Annibynnol Gorchwyl a Gorffen a'r Athro Graham Donaldson o Brifysgol Glasgow.

Roedd gwahoddedigion o blith y gymuned bolisi yng Nghymru hefyd yn bresennol yn y ddarlith neithiwr ar gampws Llandaf y Brifysgol.

Yn ôl Julia Longville, Deon Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd: "Bu'r gyfres hon yn un amhrisiadwy, wedi ei chydlynu gan yr Athro David Egan. Bu i'r gwahanol siaradwyr gynnig cipolwg wirioneddol i rai o'r newidiadau polisi sydd yn yr arfaeth o fewn y sector addysg ac mae hyn wedi rhoi cyfle i ni gyfrannu at ffurfio datblygiadau'r dyfodol a pharhau i fod yn rhan o'r drafodaeth."

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.