Home>News>Met Caerdydd Yn Cydnabod Cyflawnid Gyda Seremoni Gwobrwyo

Met Caerdydd Yn Cydnabod Cyflawnid Gyda Seremoni Gwobrwyo

​05/06/2019

 


Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd wedi bod yn dathlu'r myfyrwyr diweddaraf yn ystod y chweched seremoni Gwobrwyo Met Caerdydd

Cynhaliwyd y Seremoni Wobrwyo, yn y Plasty, sef cartref yr Arglwydd Faer ddoe (Dydd Mercher 29 Mai) ac fe fynychwyd y seremoni gan Gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Met Caerdydd, yr Athro Ilora, Barwnes Finlay o Landaf. Mae'r Wobr yn cydnabod gweithgareddau allgyrsiol ac yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol, yn ogystal â chynyddu sgiliau a galluoedd.

Nawr yn ei chweched flwyddyn, mae'r Wobr wedi gweld y nifer uchaf o ymgeiswyr erioed. Gall myfyrwyr o bob blwyddyn a chwrs gofrestru, drwy gais eu hunain, yna chael eu tywys a thaith profiad gwaith, hyfforddiant a datblygiad a myfyrdod ar gofnod.

Fel rhan o'r Wobr, mae myfyrwyr yn ymgymryd â phrofiad gwaith yn eu gwahanol ddiwydiannau, yn ogystal â gwirfoddoli a gwaith cynrychioli'r Undeb Myfyrwyr. Eleni yn unig, fe gofnodwyd dros 4000 o oriau profiad gwaith, gyda'r rhan fwyaf o waith wedi'i gwblhau yng nghymuned leol Caerdydd.

Mae'r Wobr wedi'i dylunio i gwblhau'r profiad addysgol ffurfiol y Brifysgol, gan ddangos ymrwymiad i hunanddatblygiad a pharatoi myfyrwyr ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

Dywedodd Mike Davies, Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd: "Mae'r Wobr Met Caerdydd yn un o'm mentrau gorau sydd yn ymgysylltu a fwyfwy o fyfyrwyr bob blwyddyn, gwella eu datblygiad personol a'u cyflogadwyedd. Mae'n wobr a all fod o fudd iddyn nhw yn eu gyrfaoedd a'u bywydau ac rydym yn falch o gael chwarae rhan bwysig yn eu bywyd yma ym Met Caerdydd."

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.