Home>News>Met Caerdydd Yn Mynd I'r Afael  Iechyd Meddwl – Drwy Bel Droed!

Met Caerdydd Yn Mynd I'r Afael  Iechyd Meddwl – Drwy Bêl Droed!

​16/01/2019

 


Mae Met Caerdydd yn mynd ar y cae i geisio helpu iechyd meddwl a llesiant ymhlith oedolion ifanc Caerdydd.

Mae hyn yn rhan o raglen Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru We Wear the Same Shirt  – sydd, yn ddiweddar, wedi cael cymorth ariannol o 50,000 ewro gan Raglen Gymorth Hat Trick UEFA ac mae wedi'i llunio i wella iechyd meddwl y bobl sy'n byw yng Nghymru.

Bradley Woolridge ydy Capten Tîm pêl-droed dynion Met Caerdydd: "Rydyn ni am ddefnyddio pŵer pêl-droed gydag oedolion a allai fod yn cael trafferth gyda phroblemau megis hyder, hunan-barch isel ac unigrwydd. Gall corff iach helpu i annog meddwl iach a gallai bod yn aelod o dîm feithrin synnwyr o berthyn a bod gyda'i gilydd."

Mae'r rhaglen We Wear the Same Shirt wedi bodoli ers 2015 a'i nod, gyda chymorth Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru ac Amser i Newid Cymru, ydy helpu pobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl.

Mae'r Dirprwy Is-Ganghellor Leigh Robinson yn egluro: "Fel Prifysgol, rydyn ni wedi ymrwymo i wella iechyd a llesiant ein cymunedau lleol. Rydyn ni newydd arwyddo cytundeb gydag Uned Iechyd Gyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i wneud hynny. Bydd y rhaglen bêl-droed yn defnyddio'r cyfoeth ac arbenigedd sydd yn y Brifysgol er mwyn i ni allu ystyried yn llawn pa wahaniaeth y bydd y rhaglen yn ei wneud."

Dywedodd Rob Franklin o Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru:

"Rydyn ni'n gwybod bod gweithgaredd corfforol yn gwella iechyd meddwl. Dyna pam y mae We Wear the Same Shirt cymaint o help i'r rhai sydd angen gwella eu llesiant. Ond nid dim ond mynd allan a chael ychydig o ymarfer mae'r sesiynau'n olygu, ond maen nhw'n cynnig cymorth a chefnogaeth a theimlad o berthyn sy'n gwneud i bobl deimlo'n llai ynysig ac yn fwy hyderus. Rydyn ni'n wir yn gyffrous am gydweithio gyda Met Caerdydd ac yn edrych ymlaen at y sesiynau."

Ym Mehefin 2017, bu tua 60 o bobl yn cystadlu mewn Twrnamaint Cenedlaethol a chymryd rhan mewn arolwg am y rhaglen. Dywedodd 91% eu bod yn fwy hyderus ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen We Wear the Same Shirt, dywedodd 100% eu bod yn teimlo'n iachach yn gorfforol a 95% yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwella.

Dywedodd Karen Roberts, rheolwr y Rhaglen, Amser i Newid Cymru:

"Mae tîm Amser i Newid Cymru wrth eu bodd yn cydweithio mewn Partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru i gyflenwi'r ymgyrch hon – mae taclo'r stigma o gwmpas iechyd meddwl yn her arbennig ond mae byd pêl-droed yn cynnig cyfle delfrydol i ni estyn allan a sicrhau bod chwaraewyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, fel ei gilydd, yn ymwybodol o'u llesiant eu hunain. Credwn yn gryf y bydd yr ymgyrch hon yn annog pobl i siarad am eu problemau a gofyn am help a chymorth."

 

  • Mewn unrhyw un flwyddyn bydd 1 allan o 4 unigolyn yn profi problem iechyd meddwl neu salwch
  • Mae 9 unigolyn allan o 10 sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl yn profi stigma a gwahaniaethu
  • Hunanladdiad ydy'r rheswm pennaf dros farwolaethau dynion dan 50 oed 


ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.