Home>News>Met Caerdydd a Chwaraeon Cymru'n datblygu llythrennedd iechyd meddwl ymhlith staff chwaraeon elit

Met Caerdydd a Chwaraeon Cymru'n datblygu llythrennedd iechyd meddwl ymhlith staff chwaraeon elit

​13/05/2019

 


Mae'r Dr Mikel Mellick, Seicolegydd o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cydweithio ag arweinyddion o fewn Chwaraeon Cymru, y corff chwaraeon cenedlaethol, i gynyddu ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ym maes chwaraeon. Mae Dr Mellick, arbenigwr ym maes cymorth iechyd meddwl athletwyr ym Met Caerdydd, wedi cychwyn cyflenwi rhaglen hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl, sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac wedi ei drwyddedu yng Nghymru. Dechreuodd yr hyfforddiang ym mis Tachwedd 2018 ac yn parhau i'w gynnig i staff ar draws Chwaraeon Cymru a cyrff llywodraethol cenedlaethol yng Nghymru dros y deuddeg mis nesaf.

Bydd y cwrs hyfforddi deuddydd fydd yn rhoi'r sgiliau i unigolion i gynorthwyo athletwyr, hyfforddwyr a staff cefnogi yn well drwy gyfnodau heriol ac i adnabod, rheoli a chynorthwyo â phroblemau iechyd meddwl ymhlith pobl broffesiynol maes chwaraeon.

Bydd y rhaglen yn cael ei cael ei ledaenu i Gyfarwyddwyr Perfformiad, hyfforddwyr, ymarferwyr gwyddor a meddyginiaeth ar draws chwaraeon yng Nghymru dros gyfnod o ddeuddeg mis, gyda'r bwriad o gynyddu llythrennedd iechyd meddwl ymhlith arweinwyr chwaraeon yng Nghymru.

Yn ôl yr Uwch Ddarlithydd mewn Iechyd Meddwl Athletwyr, Dr Mikel Mellick: "Rydyn ni'n hynod falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru i gyflenwi hyfforddiant iechyd meddwl i arweinyddion chwaraeon ar hyd a lled y sefydliad. Mae'n eithriadol bwysig ein bod yn cynyddu'r ddealltwriaeth am faterion iechyd meddwl ym maes chwaraeon elit ac yn cefnogi'r rhai proffesiynol o fewn y diwydiant i helpu unigolion yn fwy hyderus pan fyddan nhw mewn argyfwng a'u cyfeirio at y gwasanaethau cymorth mwyaf addas.

"Mae dynion a menywod ym maes chwaraeon proffesiynol dan bwysau unigryw – sy'n ymestyn o ymdrechu i lwyddo hyd at rwystrau ac anafiadau, bod dan chwyddwydr y cyfryngau a darparu ar gyfer ymddeol. Drwy helpu'r hyfforddwyr a chyfarwyddwyr perfformiad i ddeall yn well beth ydy arwyddion cynnar yr hyn sy'n sbarduno ac i adnabod arwyddion cynnar y gofidiau hyn, rydyn ni'n cychwyn ar y broses o adeiladu rhwydwaith gymorth gadarnach a chynharach o gwmpas ein hathletwyr."

"Mae arweinwyr a hyfforddwyr ym maes chwaraeon elit angen dealltwriaeth o lesiant iechyd meddwl sy'n cydnabod bod gweithwyr proffesiynol chwaraeon yn cael cyfnodau o anawsterau iechyd meddwl. Ers ei lansio, rydyn ni wedi derbyn adborth ardderchog gan gyfranogwyr sydd wedi llwyddo i gyflawni'r rhaglen eisoes gyda llawer yn tystio fel roedd eu hymwybyddiaeth a'u dealltwriaeth o iechyd meddwl wedi golygu bod cymorth a chyfeirio wedi ei gynnig ynghynt."

Yn ôl Felicity Hares, sy'n arwain Gweithlu Strategol Chwaraeon Cymru:  "Mae cymorth cyntaf iechyd meddwl yn gyfwerth â chymorth cyntaf corfforol ac y mae cymdeithas yn dechrau cydnabod hyn. Mae cydweithio â phartneriaid fel Prifysgol Metropolitan Caerdydd i danlinellu pwysigrwydd delio â iechyd meddwl ym maes chwaraeon yn flaenoriaeth allweddol i ni gyd."

"Rydyn ni'n cymell pawb proffesiynol sy'n gweithio ym maes chwaraeon i ddefnyddio dull hir-dymor a holistaidd o fynd ati i ddatblygu athletwyr ac yn aml mae angen dull amgen o fynd ati i weithredu hyn. Mae'r rhaglen hyfforddiant hon o gryn werth i'n staff ac i'r gymuned chwaraeon ehangach ac edrychwn ymlaen i gydweithio ag arbenigwyr iechyd meddwl ym Met Caerdydd ar fentrau yn y dyfodol.

Dywedodd Yr Athro Leigh Robinson, Dirprwy Is Ganghellor a Deon Gweithredol Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Met Caerdydd ac aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru: "Dyma enghraifft wych o ddull cydweithredol o fynd ati i sicrhau gwell iechyd a lesiant i'r rhai sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru. Mae cydweithio â phartneriaid fel Chwaraeon Cymru, er mwyn gwneud gwahaniaeth i lesiant ym mywydau a chymunedau yng Nghymru, yn flaenoriaeth strategol i Brifysgol Met Caerdydd a Chwaraeon Cymru fel ei gilydd."

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.