Home>News>Met Caerdydd wedi’i henwi yn Fusnes Mwyaf Seiclo Gyfeillgar

Met Caerdydd wedi’i henwi yn Fusnes Mwyaf Seiclo Gyfeillgar

​11/01/2019

 


Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi'i henwi yn Fusnes Mwyaf Seiclo Gyfeillgar yng Ngwobrau Agoriadol Seiclo Caerdydd 2018.

Enwebwyd y Brifysgol yn annibynnol ynghyd â nifer o sefydliadau o bob rhan o'r ddinas a phleidleisiodd 800 o'r cyhoedd. Curodd Met Caerdydd y cwmni dylunio byd-eang ARUP i ennill gwobr fwyaf nodedig y noson.  

Nod y gwobrau yw cydnabod y gwaith mawr sy'n digwydd er mwyn gwella seiclo yng Nghaerdydd yn ogystal ag amlygu'r pethau sy'n gwneud i bobl ddal nôl rhag defnyddio'u beiciau.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r Brifysgol wedi dechrau defnyddio storfeydd ar gyfer beiciau sydd â mynediad ym mhob tywydd drwy gerdyn ar gyfer cannoedd o feiciau, yn ogystal â loceri a chawodydd dynodedig ar gyfer beicwyr. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnal sesiynau 'MOT Dr Beic' am ddim, yn cynnig brecwast am ddim i feicwyr am bedair wythnos y flwyddyn, mae wedi cyflwyno llwybr seiclo ac wedi rhoi tua 50 o feiciau nad oes eu hangen mwyach i elusen leol iddyn nhw gael eu trwsio a'u hadnewyddu.

Meddai Neil Woollacott, Rheolwr y Cynllun Teithio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: "Rydym yn ymrwymedig i leihau'r holl draffig yn ac o gwmpas ein campysau ar draws y ddinas, ac rydym yn chwilio drwy'r amser am ffyrdd newydd i annog ein staff a'n myfyrwyr i ddefnyddio'u beiciau yn hytrach na'u ceir.

"Mae cymaint o fanteision eraill i seiclo, gan gynnwys lleihau ein hôl troed carbon a gwella lefelau gweithgaredd ac, felly, rydym ninnau fel Prifysgol yn falch iawn bod ein hymdrechion i wella darpariaethau seiclo wedi'u cydnabod drwy'r wobr hon."

Meddai Chris Roberts, Seiclo Dinas Caerdydd: "Rydym wrth ein bodd bod sefydliad sydd wedi ymrwymo mewn ffyrdd mor amlwg i ddatblygu system drafnidiaeth fwy cynaliadwy, wedi ennill ein gwobr. Mae helpu i wella ansawdd yr aer, lleihau'r holl draffig a helpu i wneud pobl yn fwy iach drwy gael rhagor o bobl i deithio ar feic, yn gyfrifoldeb arnom i gyd ac mae'n beth gwych bod Met Caerdydd yn arwain drwy esiampl."

Clywodd y parti gwobrau oddi wrth ddau Aelod Cynulliad dros Gaerdydd hefyd, sef Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) a Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) a roddodd addewid i gefnogi uchelgais Dinas Seiclo Caerdydd i sicrhau mai Caerdydd fydd y ddinas orau ar gyfer seiclo yn y DU.

Cynhaliwyd Gwobrau Dinas Seiclo Caerdydd yng Nghaffi Ride My Bike ar Ddydd Mercher, Rhagfyr 19eg.

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.