Home>News>Met Caerdydd yn Croesawu Carfan Ddechreuol o Brentisiaid Gradd Gwyddor Data Cymhwysol

Met Caerdydd yn Croesawu Carfan Ddechreuol o Brentisiaid Gradd Gwyddor Data Cymhwysol

​13/09/19

 


Cafodd dau ddeg saith o Brentisiaid Gradd eu blas cyntaf o fywyd Prifysgol mewn menter gyntaf o'i math ym Met Caerdydd i gynnig lleoliadau perthnasol, cyfoes ar gyfer Prentisiaid yn gweithio mewn amrywiaeth o fusnesau lleol.

Bydd y Prentisiaid yn astudio'n rhan amser i gyflawni BSc mewn Gwyddor Data Cymhwysol tra'n ennill profiad gwerthfawr mewn sefydliadau amlwg yng Nghymru, yn cynnwys y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS); Llywodraeth Cymru; Tŷ'r Cwmnïau; NightingaleHQ a chwmni hyfforddiant ALS Training.

Er yr addysgir y cwrs yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd y Brifysgol, cafodd y myfyrwyr ddiwrnod llawn ar y campws.

Ariennir Prentisiaethau Gradd yn llawn gan Lywodraeth Cymru am hyd at bedair blynedd ac maen nhw'n ddewis arall i astudio mewn prifysgol gan y bydd myfyrwyr yn gweithio llawn amser mewn cyflogaeth berthnasol gyda phartneriaid diwydiannol dethol tra'n astudio yn Met Caerdydd yn rhan amser.

Nod y rhaglen ydy rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth l brentisiaid sydd eu hangen i ddeall, cymhwyso a gwerthuso'n gritigol egwyddorion sylfaenol Gwyddor Data drwy gymhwysiad 'y byd go wir', gan ddarparu llwybr rhagorol ar gyfer gyrfaoedd uchel eu proffil.

Dywedodd Yr Athro Jon Platts – Deon Ysgol Dechnolegau Caerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: "Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda phartneriaid Busnes a Sefydliadol i gynhyrchu carfan newydd o raddedigion."

Mae prentisiaid yn cael eu hanfon ymlaen at y rhaglen radd gan eu cyflogwr, gyda'r radd hefyd ar gael i weithwyr llawn amser cyfredol yn ceisio uwchraddio'u sgiliau.

Dywedodd Alison Adams, Arweinydd Talent ar Gampws Gwyddor Data ONS: "Mae'n wych bod Llywodraeth Cymru yn ariannu'r rhaglen arloesol hon fel rhan o'u treial prentisiaethau gradd.  Ar y Campws Gwyddor Data, rydyn ni'n cydweithio gyda phrifysgolion a phartneriaid eraill ar draws y wlad i gynnig cyfleoedd dysgu, sy'n ceisio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddadansoddwyr a gwneuthurwyr polisi.

"Bydd y llwybr prentisiaeth newydd hwn yn cynnig cyfle gwych i ddysgu sgiliau gwyddor data ac ymuno â'r proffesiwn hwn sydd ar gynnydd.  Hoffwn ddymuno pob lwc i'r garfan gyntaf ac edrychwn ymlaen at ddilyn eu taith yrfaol."

I ddarllen y stori yma yn Saesneg, cliciwch fan hyn.