Home>News>Met Caerdydd yn cadarnhau noddi teitl y ras 'Fun Run' 10 cilomedr a 2 cilomedr Caerdydd

Met Caerdydd yn cadarnhau noddi teitl y ras 'Fun Run' 10 cilomedr a 2 cilomedr Caerdydd

​19/02/2019

 


Ben Hughes, Dirprwy Gyfarwyddwr Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr a Nic Clarke, Cyfarwyddwr Codi Arian a Gweithrediadau, Kidney Wales

​Ben Hughes, Dirprwy Gyfarwyddwr Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr a Nic Clarke, Cyfarwyddwr Codi Arian a Gweithrediadau, Kidney Wales

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi arwyddo cytundeb fel Noddwr gyda Ras  'Fun Run' 10 Cilometr a 2 Cilometr Caerdydd sy'n cael ei threfnu gan Sefydliad Aren Cymru, un o elusennau mwyaf blaengar Cymru. A hithau wedi bod ynghlwm wrth y digwyddiad fel aelod cyswllt ers 2018, bydd y bartneriaeth hon yn gymorth i ddatblygu a hyrwyddo iechyd a llesiant ymhellach ar draws Cymru a'r DU.

Teitl swyddogol y digwyddiad erbyn hyn ydy 'The Cardiff Metropolitan University Cardiff 10K & 2K Fun Run' a bydd yn digwydd Ddydd Sul Medi 1af pan ddisgwylir i dros 9,000 o redwyr gymryd rhan drwy ganol y Ddinas yn ras 10 Cilometr fwyaf Cymru ar y ffordd fawr.

Mae'r ras yn agored i redwyr o bob safon, ac oherwydd natur wastad a deniadol llwybr y daith, mae'r cwrs yn fwy hygyrch nag erioed, yn cynnig cyfle gwych i ddechreuwyr a rhedwyr profiadol fel ei gilydd i gymryd rhan mewn ras a fydd yn fwy o bleser nag o laddfa. Mae llwybr y ras yn sicr yn un o ffefrynnau rhedwyr, llwybr sy'n mynd heibio i adeiladau nodedig Caerdydd yn cynnwys Castell Caerdydd a Stadiwm y Principality.

Dywedodd Nic Clarke, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Sefydliad Aren Cymru:

"Rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi bod Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn noddi ein digwyddiad blaenllaw, ras 10 Cilometr a 2 Cilometr Caerdydd. I ni mae'n garreg filltir gyffrous arall yn nhwf ein digwyddiad ac rydyn ni'n edrych ymlaen i gydweithio gyda thîm Prifysgol Metropolitan Caerdydd i ddatblygu'r digwyddiad eiconig hwn."

Sylw Ben Hughes, y Dirprwy Gyfarwyddwr recriwtio Myfyrwyr a Marchnata oedd:

"Rydyn ni wrth ein bodd mai ni ydy prif noddwr ras 10 Cilometr a 2 Cilometr Caerdydd. Met Caerdydd ydy un o'r prifysgolion blaenllaw ym maes chwaraeon myfyrwyr yn y DU a bydd y bartneriaeth hon yn alinio'n dda gyda'n strategaeth ar iechyd a llesiant. Mae'r ras yn gyfle ardderchog i'n staff, ein myfyrwyr a'r gymuned ehangach dderbyn her a dilyn y llwybr gwych hwn drwy ein prifddinas."

Erbyn hyn, maen nhw derbyn enwau ar gyfer ras 2019, â phrisiau yn cychwyn o £24.50 i unigolyn yn y ras 10 Cilometr a £6 am y ras 2 Cilometr (codir tâl trafodiad bychan yn ogystal wrth y ddesg wirio).  

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.