Home>News>Met Caerdydd yn cefnogi Mis Mesur Mai

Met Caerdydd yn cefnogi Mis Mesur Mai

​17/05/2019

 


Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cefnogi Mis Mesur Mai, menter ymchwil fyd-eang, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn, sy'n ceisio gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysedd gwaed uchel.

Gan weithio mewn partneriaeth â Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, mae partneriaid yn annog pobl i brofi eu pwysedd gwaed, boed hynny gartref, mewn fferyllfa, neu mewn meddygfa.

Mae mwy na 200,000 o bobl yng Nghymru yn anymwybodol eu bod yn byw gyda phwysedd gwaed uchel, yn ôl amcangyfrifon newydd gan Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF).

Os na chaiff ei drin, gall pwysedd gwaed uchel gynyddu'r risg o drawiad ar y galon a strôc yn sylweddol. Mae hefyd yn gysylltiedig â risg uwch o ddementia fasgwlaidd.
Nid oes gan bwysedd gwaed uchel, y cyfeirir ato'n aml fel llofrudd tawel, unrhyw symptomau fel arfer, sy'n golygu nad yw llawer o bobl yn ymwybodol eu bod yn byw gydag un o'r ffactorau risg sy'n cael eu cysylltu'n fwyaf cyffredin â thrawiad ar y galon a strôc.

Fodd bynnag, os cânt eu canfod, gellir trin y cyflwr yn hawdd trwy gyfuniad o newidiadau ffordd o fyw syml a meddyginiaeth, yn dibynnu ar yr unigolyn.

Dywedodd Dr Barry McDonnell, Uwch Ddarlithydd mewn Ffisioleg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac arweinydd Mis Mesur Mai yng Nghymru:

"Rydym yn falch iawn bod BHF Cymru yn cydweithio â ni ar yr ymgyrch MMM fyd-eang 2019 hon, a gobeithiwn, trwy'r bartneriaeth hon, ein bod yn gallu ehangu ein cyrhaeddiad a chael mwy o bobl o amgylch Cymru i godi ymwybyddiaeth am y risgiau sy'n gysylltiedig â phwysedd gwaed uchel. Byddem yn annog pobl ledled Cymru i fesur eu pwysedd gwaed yn unrhyw un o'r safleoedd sgrinio sy'n rhedeg drwy gydol mis Mai. Gellir gweld y rhain ar ein calendr digwyddiadau www.mmmwales.com."

Am fwy o wybodaeth ewch i www.bhf.org.uk/checkyourpressure

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.