10 Medi 2019
Heddiw mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn croesawu Sergei Aleinik, Llysgennad Arbenigol a Phlenipotensiol Gweriniaeth Belarws i Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, i Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw un o'r prifysgolion mwyaf rhyngwladoledig yn y DU â phartneriaethau ar draws y byd. Hefyd caiff llawer o raddau'r Brifysgol a gynigir yng Nghaerdydd eu rhedeg gan ei phrifysgolion partner. Ar hyn o bryd mae partneriaid yn Bahrain, Bangladesh, Bwlgaria, Tsieina, Cyprus, Gwlad Groeg, yr Aifft, Hong Kong, yr India, Libanus, Morocco, Oman, De'r Affrig, Singapore a Sri Lanka.
Yn ystod ei ymweliad â'r Brifysgol, bydd y Llysgennad a'i ddirprwyaeth, gan gynnwys cynrychiolwyr o sectorau Masnach ac Economi'r rhanbarth, yn cyfarfod â'r staff a'r myfyrwyr o Ysgol Gelf a Dylunio'r Brifysgol i hyrwyddo defnyddio deunyddiau o ranbarth dwyrain Ewrop, yn enwedig y defnydd ar frethynnau traddodiadol yn y diwydiant Ffasiwn.
Wrth sôn am yr ymweliad, meddai'r Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: "Heddiw, pleser o'r mwyaf i ni yw croesawu Llysgennad Belarws yn y DU a'i gydweithwyr i Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
"Mae symudedd byd-eang yn gydran allweddol o ethos Met Caerdydd a gall y myfyrwyr a'r staff astudio mewn mwy na 1,000 o brifysgolion ar draws y byd, a bydd y Brifysgol a'i phartneriaid yn cefnogi drwy gyllido rhaglenni symudedd.
"Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i chwarae rôl allweddol yn gatalydd i dwf economaidd ac yn yrrwr trawsnewid addysgol a chymdeithasol. Mae'r ymweliad hwn yn adeiladu ar berthynas newydd rhwng y Brifysgol a Belarws, ac yn un rydym yn edrych ymlaen at gael ei gweld yn datblygu yn y dyfodol."
Meddai'r Athro Olwen Moseley, Deon yr Ysgol Gelf a Dylunio: "Daw'r ymweliad hwn ar adeg gyffrous dros ben yn hanes Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Eleni, fe welir y garfan gyntaf yn graddio o'n gradd Dylunio Ffasiwn BA a'r mis hwn rydym yn croesawu myfyrwyr cwrs meistr Fasiwn a Thecstilau, gan adeiladu ar boblogrwydd cynyddol y diwydiant hwn yma yn y DU ac yn rhyngwladol.
"Mae'r diwydiannau creadigol yng Nghymru wedi'u hadeiladu ar sylfaen crefftwaith a thraddodiad, sy'n dreftadaeth rydym yn falch i'w chynnal yma yn yr Ysgol. Mae rhodd hael y Llysgennad o ffabrig i'r adran Dylunio Ffasiwn yn galluogi'r myfyrwyr i weithio gyda chynhyrchion o'r safon uchaf ac i ddangos eu doniau creadigol a'u hangerdd dros weithio gyda deunyddiau traddodiadol."
Llysgennad o ffabrig i'r adran Dylunio Ffasiwn yn galluogi'r myfyrwyr i weithio gyda chynhyrchion o'r safon uchaf ac i ddangos eu doniau creadigol a'u hangerdd dros weithio gyda deunyddiau traddodiadol."
Mae Sergei Aleinik yn Llysgennad Arbenigol a Phlenipotensiol Gweriniaeth Belarws i Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon oddi ar 2013 ac mae'n ymweld â Chymru yn rhan o daith fasnach i hybu cynhyrchion sy'n dod o'r rhanbarth yn nwyrain Ewrop.
I ddarllen y stori yma yn Gymraeg, cliciwch fan hyn.