Home>News>Met Caerdydd yn dathlu pobl ifanc creadigol

Met Caerdydd yn dathlu pobl ifanc creadigol

Cardiff Met Celebrates Creative Youngsters

 

​Mae dathliad blynyddol Met Caerdydd o waith creadigol o’r sector uwchradd a chynradd i’w weld mewn arddangosfa yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

Mae Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ac Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd wedi cydweithio i ddarparu llwyfan lle y gall ysgolion rannu mewn ffordd ehangach waith gyda’i gilydd, gyda’r rhieni a’r cyhoedd mewn gofod arddangos sydd wedi’i adeiladu i’r diben.  

Lansiwyd yr arddangosfa gan Ddeoniaid yr Ysgolion, yr Athro Olwen Moseley a Julia Longville; bydd yr arddangosfa’n rhedeg o Ddydd Mercher, Mehefin 19eg hyd Ddydd Mercher, Mehefin 26ain.

Bydd yr ysgolion cynradd a oedd yn rhan o’r cyrsiau preswyl Celf/Dylunio a Thechnoleg a Chyfrifiadureg yn arddangos eu canlyniadau am y tro cyntaf eleni; mae nifer yr ysgolion uwchradd a gymerodd ran wedi cynyddu gydag ysgolion o Abertawe bellach yn cymryd rhan hefyd.

Meddai Jason Davies, Uwch Ddarlithydd Addysg yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd: “Dyma gyfle gwych i ysgolion gael rhannu gwaith eu disgyblion mewn oriel brifysgol gyhoeddus. Mae’n dda gennym weld bod yr arddangosfa yn dod yn fwy poblogaidd bob blwyddyn.

Diolch i bob un o’r athrawon a roddodd eu hamser i hyn gael digwydd.”

I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.