Home>News>Met Caerdydd yn derbyn Gwobr Bwysig gan Sefydliad Rhyngwladol y Prifysgolion

Met Caerdydd yn derbyn Gwobr Bwysig gan Sefydliad Rhyngwladol y Prifysgolion

โ€‹15/03/2019

 

โ€‹

Y Farwnes Finlay o Landaf, Yr Athro Leigh Robinson a Giorgio Marinoni (Cymdeithas Ryngwladol Prifysgolion)

Met Caerdydd yw'r brifysgol gyntaf i dderbyn Bathodyn Rhyngwladoli Cynhwysfawr Sefydliad Rhyngwladol y Prifysgolion (IAU) yn ystod cynhadledd partneriaid a gynhaliwyd ar y campws yr wythnos ddiwethaf.

Y bathodyn yw anrhydedd pwysicaf y Sefydliad ac roedd yn uchafbwynt digwyddiad llwyddiannus a drefnwyd gan y Swyddfa Partneriaethau Rhyngwladol yn canolbwyntio ar 'Arloesi, Integreiddio, Cymell โ€“ Creu Partneriaeth Rhagoriaeth.'

Roedd cynrychiolwyr partneriaid wedi mynegi diddordeb mewn ymgysylltu รข phartneriaid eraill yn ystod cynadleddau blaenorol ac roedd y gweithdai a'r cyflwyniadau ar gyfer y 35 o gynadleddwyr yn cynnwys Simon Baker, Golygydd Data, Times Higher Education, yn cydnabod pwysigrwydd Graddfeydd Byd-eang Prifysgolion a hanesion sefydliadau am y rhwystrau a'r anawsterau sydd ynghlwm wrth ddarparu addysg rhyngwladol gan bartneriaid Met Caerdydd ICBT (Coleg Busnes a Thechnoleg Rhyngwladol, Sri Lanka) a Choleg y Gwlff.

Teithiodd y cynadleddwyr o Fwlgaria; Moroco; Libanus; Yr Aifft; Sri Lanka; India; Fietnam; Nepal; Oman a Singapore ar gyfer y gynhadledd.

Cyflwynodd Ieuan Gardiner, Llywydd Undeb y Myfyrwyr ar sut mae Met Caerdydd yn dathlu amrywiaeth ymhlith myfyrwyr a rhoddwyd y prif anerchiad gan Jenni Parsons o Uniquest ar ''Grym Ymgysylltu" a  hwyluso recriwtio a chadw myfyrwyr.

Siaradodd Prifysgol Economeg Cenedlaethol Fietnam (NEU - partner newydd i Met Caerdydd - am gydweithio diweddar gyda Met Caerdydd gyda Sicrhau Ansawdd wedi'i gyllido gan y Cyngor Prydeinig.

I gloi'r gynhadledd, ailedrychodd Alison Johns, Prif Swyddog Gweithredol, Advance HE ar thema amrywiaeth gyda'r nod o greu Siarter Partneriaid Effeithiol. 

Dywedodd y Farwnes Finlay o Landaf, Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr yn Met Caerdydd: 'Rydym yn falch iawn o'r wobr hon.  Mae'n cydnabod ein hymrwymiad dwfn i ryngwladoli ac amrywiaeth ar draws holl weithgareddau'r Brifysgol hon.  Rydym yn gwerthfawrogi ein cysylltiadau agos a'n gwerthoedd a rennir gyda'n partneriaid rhyngwladol y bydd eu myfyrwyr, gyda'n rhai ni, yn llywio byd y dyfodol er budd dynolryw."

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y Bathodyn Rhyngwladoli Cynhwysfawr, asesodd panel o IAU y Brifysgol ar draws 15 o feini prawf, gan gynnwys ei strategaeth, y cymorth a ddarperir i fyfyrwyr rhyngwladol gartref a thramor, ei gwaith i ryngwladoli'r cwricwlwm a gweithgareddau ymchwil, ac yn ei hymdrechion i gefnogi cydlyniant cymdeithasol ledled y byd.

Mae'r gydnabyddiaeth yn un o nifer o wobrau a gafwyd gan y Brifysgol am ei heffaith ragorol ar gydlyniant cymdeithasol byd-eang, a dilynodd hunanarfarniad Prifysgol-gyfan ac ymweliad gan y panel  yn 2017. 

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.