Home>News>Myfyrwyr Met Caerdydd yn Dathlu Llwyddiant Ysgoloriaeth

Myfyrwyr Met Caerdydd yn Dathlu Llwyddiant Ysgoloriaeth

​12 Mawrth 2019

 

Ian Dobbs

 

Megan Wong

Saldiam Barillas 

​Mae tri o fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn dathlu ar ôl derbyn ysgoloriaethau o fri gan The National Strength and Conditioning Association Foundation (NSCA) yn Colorado.

Cafodd Megan Wong ei henwi fel enillydd ysgoloriaeth i fenywod yr NSCA. Mae'r ysgoloriaeth $1,500 hon wedi'i chynllunio i gefnogi menywod, 17 oed ac hŷn, i ymuno â'r maes cryfder a chyflyru.

Mae Megan ar hyn o bryd yn mynychu Met Caerdydd ar gyfer ei PhD, lle mae'n canolbwyntio ar ddatblygu athletau ieuenctid. Mae hi hefyd yn hyfforddwr cryfder a chyflyru i athletwyr ieuenctid gyda Chriced Sir Forgannwg.

Cafodd Ian Dobbs ei enwi fel enillydd Ysgoloriaeth Her NSCA. Mae'r rhaglen hon yn dyfarnu $1,500 i Aelodau NSCA sy'n ceisio am radd israddedig neu ôlraddedig mewn maes cysylltiedig â chryfder a cyflyru.

Ar hyn o bryd mae Ian yn ymchwilydd myfyriwr PhD yn Met Caerdydd. Mae ei draethawd hir ynghylch sut mae hyfforddiant ymwrthedd a plyometrig yn effeithio ar dwf ac aeddfediad athletwyr criced ieuenctid. Mae hefyd wedi bod yn hyfforddwr cryfder a chyflyru i Griced Morgannwg a Chriced Cymru ers mis Tachwedd 2017.

Cafodd Saldiam Barillas ei enwi fel enillydd Ysgoloriaeth Her NSCA. Mae'r ysgoloriaeth $1,500 hon wedi'i chynllunio i gefnogi lleiafrifoedd, 17 oed ac hŷn, i ymuno â'r maes cryfder a chyflyru.

Mae Saldiam yn ymchwilydd myfyriwr PhD yn Met Caerdydd ar hyn o bryd yn ymchwilio i ddefnyddio sbardunau allanol i wella perfformiad grym-cyflymder gydag athletwyr ieuenctid. Ar hyn o bryd, mae'n hyfforddwr codi pwysau ar gyfer PB Performance a Chlwb Codi Pwysau Met Caerdydd ac yn hyfforddwr cryfder a chyflyru ar gyfer DanceFITT a Phêl-droed Met Caerdydd Bechgyn o dan 14-15.

Yn cyfarwyddo astudiaethau Megan ac Ian mae Dr Rhodri Lloyd, Darllenydd mewn Cryfder a Chyflyru Pediatrig yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Mae Dr Lloyd wedi bod yn aelod gweithgar o'r NSCA ers 10 mlynedd ac ar hyn o bryd mae'n gwasanaethu ar Bwyllgor Ymchwil NSCA ac mae'n Gadeirydd y Grŵp Diddordeb Arbennig Datblygiad Athletaidd Hirdymor.

Yn cyfarwyddo astudiaethau Saldiam mae Dr Jon Oliver, Darllenydd mewn Gwyddoniaeth Ymarfer Pediatrig Cymhwysol yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Mae ymchwil Dr Oliver wedi bod yn ddylanwadol dros y 10 mlynedd diwethaf yn hysbysu academyddion ac ymarferwyr ar ffactorau sy'n gysylltiedig â datblygu ffitrwydd corfforol mewn ieuenctid ac mae'n gyd-awdur datganiadau safbwynt NSCA a'r British Journal of Sports Medicine ar gyfer hyfforddi ieuenctid.

Dywedodd Dr Alun Hardman, Deon Cyswllt ar gyfer Rhyngwladoli, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd: "Rydym yn falch iawn o Megan, Ian a Saldiam am bopeth y maent wedi eu cyflawni hyd yma ac am yr effaith y maent yn sicr yn ei chael yn eu maes.

"Mae'r ffaith bod tri o'n myfyrwyr wedi derbyn ysgoloriaethau mor uchel eu bri yn dangos safon y myfyrwyr sydd gyda ni yma yn y Brifysgol ac yn dyst i'r ymroddiad y maent wedi'i ddangos ym maes cryfder a chyflyru.

Dywedodd Dr Matt Stock, Llywydd Bwrdd Sefydliad NSCA: "Llongyfarchiadau i Megan, Ian a Saldiam am yr anrhydedd haeddiannol hon.Maent oll yn fyfyrwyr arbennig gyda dyfodol disglair dros ben. Rydym yn falch o'u cefnogi yn eu hastudiaethau i fod yn arweinwyr y dyfodol yn y diwydiant cryfder a chyflyru."

Dywedodd Carissa Gump, Cyfarwyddwr Gweithredol Sefydliad NSCA: "Roedd y gronfa ymgeiswyr ar gyfer yr ysgoloriaeth yn gryf eleni, gan olygu bod y broses yn gystadleuol iawn. Dylai pob un o'r tri fod yn falch iawn o'r cyflawniad hwn. Edrychaf ymlaen at eu gweld yn tyfu o fewn y proffesiwn."

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.