Home>News>Myfyrwyr Met Caerdydd yn Hyrwyddo Menter Ysgolion Uwchradd i Weithredu yn Erbyn Trais yn Ystod Dêt

Myfyrwyr Met Caerdydd yn Hyrwyddo Menter Ysgolion Uwchradd i Weithredu yn Erbyn Trais yn Ystod Dêt

​18/03/2019

 


Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymuno ag Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd i ddarparu prosiect rhyngwladol sy'n ffocysu ar addysgu pobl ifanc yn eu harddegau sut i gynnal perthynas iach.

Mae prosiect 'Lights 4 Violence' (L4V), a gomisiynwyd gan Horizon 2020, sef rhaglen ariannu Ewropeaidd, yn mabwysiadu dull seiliedig ar gryfderau a'i nod ydy cymell i rai 12-13 oed i ystyried sgiliau perthynas tra'n profi eu perthynas gyntaf efallai ac i ddeall ffactorau amddiffynnol perthnasol i drais yn ystod dêt.

Drwy L4V, anogwyd myfyrwyr yn ysgol Bro Edern i ddynodi ffactorau amddiffynnol ynddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd, yr ysgol a sefyllfaoedd caeëdig eraill, Yna, maen nhw'n cael eu hannog i ddefnyddio'r ffactorau amddiffynnol hyn i adnabod a datblygu perthynas iach.  Mae hyn yn ei dro yn cyfyngu ar y tebygrwydd y byddan nhw'n gorfod wynebu trais neu'n cyflawni trais yn eu perthynas.

Mae'r broses yn cynnwys seico-addysg ac yn gofyn i blant 'ail ysgrifennu'r' sgript ar gyfer sefyllfa gyffredin o wrthdaro a all ddigwydd mewn perthynas  (e.e. eiddigedd, ymddygiad rheoli, pwysau, dicter, bygythiadau a.y.b.). Gofynnir i'r plant greu ffilmiau byrion – ysgrifennu eu sgriptiau eu hunain, eu byrddau stori eu hunain, recordio, golygu a chynhyrchu eu ffilmiau eu hunain sy'n cyfleu ymateb positif i berthynas anodd. Yna, byddan nhw'n defnyddio'r rhain i addysgu eu cyfoedion fel rhan o ŵyl ffilmiau

Gyda Phrifysgol Alicante, Sbaen, yn arwain, cyflenwyd y prosiect hwn yn rhyngwladol ac ar hyn o bryd mae'n cael eu cynnig ar draws Ewrop, yn Sbaen, Portiwgal, Yr Eidal, Gwlad Pwyl, Rwmania a'r DU. Bydd rhwng 600 a 700 o bobl ifanc yn eu harddegau, yn fechgyn a merched rhwng 12 a 15 oed yn elwa o'r prosiect cyntaf o'i fath i gael ei darparu yn rhyngwladol.

Cafodd y prosiect ei dreialu gyntaf gyda 19 o fyfyrwyr ac yna ei gyflenwi i 130 o blant ysgol, gydag athrawon o'r ysgol ynghyd ag aelodau staff o dîm Seicoleg Fforensig ym Met Caerdydd sy'n cyflenwi'r prosiect.  Dr Nicola Bowes a Dr Karen De Claire ydy'r arweinwyr ar y prosiect, gyda'r ffilmio dan ofal Jordan Musgrove ac Arianne Kenworthy Videography.

Dywedodd Dr Nicola Bowes, Seicolegydd Fforensig ym Met Caerdydd a Phrif Ymchwiliwr ar brosiect Lights 4 Violence: "Mae'n bwysig bod plant yn ystyried a datblygu sgiliau ar gyfer cynnal perthynas tra'n ffurfio eu perthynas gyntaf oherwydd bod hyn yn gosod y sefyllfa a disgwyliadau ar gyfer unrhyw berthynas yn y dyfodol.

"Rydyn ni'n gwybod bod 63.8% o blant 13 oed wedi bod mewn perthynas a dywedodd 7% o'r plant hynny eu bod wedi cael eu niweidio'n gorfforol gan eu partner (bechgyn a merched). Mae wynebu trais ar ddêt hefyd yn fwy cyffredin nag yr hoffen ni feddwl, gyda 23.8% o blant yn gweld trais i bartner agos yn eu cylch cymdeithasol agos (roedd 16.2% yn nodi bod hyn wedi digwydd i'w mam).

"Mae hwn yn gam cyffrous i ysgolion yn y DU. Er bod hyn yn bwnc sensitif, mae'n hollol hanfodol bod ysgolion yn ymwneud yn rhagweithiol gyda'r materion hyn a helpu i baratoi plant ar gyfer yr agwedd bwysig hon o fywyd."

Dywedodd Ceri Price, athrawes Saesneg yn Ysgol Bro Edern : "Mae ein disgyblion wedi gwir fwynhau'r sesiynau hyd yn hyn ac mae'n wych eu gweld yn ystyried yn drylwyr y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer datblygu perthynas iach.

"Mae'r tîm ym Met Caerdydd wedi rhoi gwir berchnogaeth o'r prosiect i'r disgyblion, a hwythau wedi gweithio'n dda iawn yn ystod y sesiynau.

Dywedodd disgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol Bro Edern: "Rwyf wir wedi mwynhau'r sesiynau ar y prosiect 'Lights 4 Violence' hyd yn hyn, yn enwedig cael y cyfle i greu bwrdd stori a'n ffilmiau ein hunain.

 "Rydw i yn bendant wedi dysgu sut i wahaniaethu rhwng perthynas bositif a pherthynas gamdriniol."

Lansiwyd prosiect 'Lights 4 Violence' yn swyddogol ar 19 Rhagfyr 2017. Ariannwyd y prosiect hwn o dan y REC-RDAP-AWAR-AG-2016, grant gweithredu i addysgu a chodi ymwybyddiaeth merched a bechgyn am drais yn seiliedig ar rywedd yr unigolyn ac i'w atal yn gynnar. 

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i: http://www.lights4violence.eu/

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.