Home>News>Myfyrwyr bwyd Met Caerdydd yn helpu diwydiant bwyd a diod Cymru i arloesi

Myfyrwyr Bwyd Met Caerdydd yn Helpu Diwydiant Bwyd a Diod Cymru i Arloesi

​22/05/2019

 

Myfyrwyr israddedig gwyddor bwyd a maethiad o Brifysgol Metropolitan Caerdydd 

Mae myfyrwyr gwyddor bwyd a maethiad o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi datblygu ystod o gynhyrchion bwyd a diod arloesol i ymateb i briffiau gan ddiwydiant bwyd a diod Cymru. 

Cafodd timau o israddedigion 12 wythnos i ddatblygu a gweithgynhyrchu eu cynhyrchion, gan weithio o fewn cyllideb benodol a gofynion manwl cleientiaid. Ymhlith briffiau'r diwydiant roedd datblygu snacbar cetogenig ar gyfer cwmni 'Brighter Foods' o Wynedd, cynnyrch cig llawn protein ar gyfer pobl hŷn sydd mewn perygl o golli màs y cyhyrau a phryd Nadoligaidd fegan o gnau ar gyfer cwmni 'Parsnipship' o Ben-y-bont ar Ogwr 

Roedd rhaid i'r myfyrwyr ystyried pob agwedd o ddatblygu cynnyrch newydd - o gynnal ymchwil i'r farchnad, datblygu cysyniad a phrofi ryseitiau i gostio cynnyrch, gwerthuso nodweddion synhwyraidd cynnyrch, asesu alergenau a dadansoddi'r maethiad. Cyflwynwyd y cynhyrchion terfynol i aelodau diwydiant bwyd a diod Cymru mewn ffair cynnyrch newydd ac yno derbyniodd y timau adborth uniongyrchol eu cleientiaid.

Dywedodd Robin Williams, Prif Swyddog Gweithredol Brighter Foods:

"Doedd y briff a roddon ni i'r myfyrwyr ddim yn un hawdd ond dw i'n meddwl eu bod wedi gwneud yn wych mewn cyn lleied o amser – yn sicr maen nhw wedi rhoi rhywbeth i ni feddwl amdano. Mae dyfodol y diwydiant bwyd yn edrych yn ddiogel os oes talent newydd fel hyn sy'n teimlo'n frwd dros arloesi."

Dywedodd Josee Swettenham, myfyriwr BSc Maethiad ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: "Roedd y prosiect hwn yn gofyn am lawer o mwy o ymdrech nag unrhyw fodiwl israddedig arall dwi erioed wedi'i wneud. Ond, roedd yn werth y cyfan o weld ein cynnyrch terfynol. Caniataodd y prosiect i ni fynd i'r afael yn ymarferol â chynnwys y cwrs a rhoi syniad i ni o ofynion gweithio yn y diwydiant bwyd."

Am ragor o wybodaeth am gyrsiau Gwyddorau Bwyd a Maethiad ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, cliciwch yma

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.