Home>News>Penodi Llysgenhadon Newydd ir Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Penodi Llysgenhadon newydd i’r Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

​23 Ionawr 2019

 

​Dionne

Dionne Kelland

​Mae’r Coleg Cymraeg wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2019 er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Am y tro cyntaf eleni, cafodd y llysgenhadon eu dewis drwy gyfweliad yn ogystal â ffurflen gais.

Mae’r 25 llysgennad wedi’u lleoli mewn saith prifysgol ledled Cymru gan gynnwys un ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Bydd Dionne Louise Kelland yn dechrau ar ei gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy’r flwyddyn.

Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd perswadio mwy o ddisgyblion ysgol i ddilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno’r manteision o hynny.

Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn amryw o ddigwyddiadau megis ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac Eisteddfodau yn ogystal â chofnodi eu profiadau ar flog ac ar amryw sianel cyfryngau cymdeithasol y Coleg.

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.