Home>News>Sut i Hyfforddi eich Robot Darlithydd Met Caerdydd i Annerch mewn Fforwm Dechnoleg Flaenllaw yn Tsieina

Sut i Hyfforddi eich Robot: Darlithydd Met Caerdydd i Annerch mewn Fforwm Dechnoleg Flaenllaw yn Tsieina

​16 Ebrill 2019

 

​Dr Pengcheng Liu

Dr Pengcheng Liu

Mae darlithydd o Brifysgol Met Caerdydd wedi ei wahodd i fynychu Fforwm glodwiw Micius a drefnir gan Brifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tsieina (USTC) ac i gyflwyno ei ymchwil ym maes roboteg a chynllunio symudiad mewn amser real.

Bydd y digwyddiad byd-eang yn cael ei gynnal o Ebrill 18 hyd 21 yn Hefei. Yn ei thrydedd flwyddyn, mae fforwm Micius wedi tyfu'n achlysur blaenllaw i unrhyw un sy'n gweithio yn y sector technoleg a gwyddoniaeth, a phob blwyddyn mae'n denu cannoedd o fyfyrwyr ifanc ac ysgolheigion cydnabyddedig o bob cwr o'r byd.

Yn y fforwm eleni, dewiswyd y Dr Pengcheng Liu, Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg a Thechnoleg Dylunio yn Ysgol Technolegau Prifysgol Metropolitan Caerdydd, i siarad am ei ymchwil ym maes roboteg.

Yn ystod y pum mis diwethaf, bu'r Dr Liu mewn rôl arwyddocaol yn Labordy Roboteg EUREKA Met Caerdydd (Ethical-Ubiquitous Robotics driving Economy and Knowledge Accelerator). Mae'r hyb ymchwil arloesol hwn yn cydweithio'n agos gyda busnesau a phrifysgolion, gan weithio ar systemau deallusrwydd artiffisial a delweddu data. Y nod fydd gyrru'r gwaith ymlaen ar systemau robotiaid awtonomaidd a deallusrwydd, gan anelu i gynnig ymchwil o safon byd-eang ac arloesedd addysgiadol.

Bydd Dr Liu yn cyflwyno'i ymchwil ar ddylunio a rheoli systemau robotig awtonomaidd, yn arbennig datblygiad cynllunio symudiad amser real/algorithmau cynllunio llwybrau fydd yn help i ymdopi gyda'r cymhlethdodau ansicr sy'n wynebu cymdeithas drwy arddangosiadau dynol, megis gwrthrychau anhyblyg ac anffurfiedig. Yn ei gyflwyniad, bydd yn rhoi trosolwg o'i ymchwil i'w gyd-ymchwilwyr ifanc ac yn tanlinellu'r heriau a'r datrysiadau allweddol.

Meddai: "Rwy'n gyffrous iawn ac yn ei theimlo'n fraint i dderbyn y gwahoddiad hwn. Mae'n gyfle gwych, nid yn unig i rannu ein hymchwil â phobl sydd ar flaen y gad o ran datrysiadau technoleg newydd, ond hefyd i greu cysylltiadau newydd ar ran Met Caerdydd ac Ysgol Technolegau Caerdydd, allai arwain i gydweithredu academaidd pellach a chynlluniau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig."

Yn ôl Yr Athro Jon Platts, Deon Ysgol Technolegau Caerdydd: "Yn ystod ei gyfnod byr gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Dr Liu wedi cael cryn ddylanwad ar ein galluoedd ymchwil ac addysgu. Mae'n ganolog i'n cynlluniau i ehangu'r Ysgol Dechnoleg ac yn arbennig ein diddordeb mewn roboteg. Roedden ni'n arbennig o falch o glywed am ei wahoddiad i'r Fforwm Micius, sy'n achlysur hynod flaenllaw, ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tsieina. Rydyn ni'n ffyddiog y bydd yn parhau i ehangu ei gysylltiadau gwerthfawr er lles yr ysgol newydd hon yma ym Met Caerdydd."

I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.