Home>News>paratoi i fod yn brifysgol ddi-fwg

Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn paratoi  i fod yn brifysgol ddi-fwg

 

Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi datgan ei huchelgais o fod y brifysgol ddi-fwg o fewn blwyddyn. 

Heddiw, mae’r brifysgol, sy’n cynnal dros 10,000 o fyfyrwyr ar ddau gampws, wedi lansio cynlluniau i fod yn brifysgol aer glân, gan greu amgylchedd iachach i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.

Fel un o brifysgolion gorau’r DU ar gyfer astudiaethau sy’n canolbwyntio ar ymarfer, bydd y cynlluniau’n ffurfio rhan o’i strategaeth iechyd a lles cyffredinol, gyda’r nod o fod yn gwbl ddi-fwg erbyn 2020. Er mwyn cefnogi’r strategaeth newydd, ni fydd cynnyrch tybaco’n cael ei werthu ar y campws a bydd mwy o gymorth ar gael i fyfyrwyr sydd eisiau rhoi’r gorau i ysmygu.

Llongyfarchodd Suzanne Cass, Prif Swyddog Gweithredol ASH (Gweithredu ar Ysmygu ac Iechyd) Cymru, a gefnogodd ymgyrch Met Caerdydd i fod yn brifysgol ddi-fwg, y brifysgol ar lwyddiant y prosiect, gan ddweud ei bod yn gobeithio y bydd prifysgolion eraill yng Nghymru’n dilyn. 

“Roedd yn fraint cael y cyfle i weithio ar y prosiect hwn ac rydym yn hapus iawn gweld gwaith caled y ddwy flwyddyn ddiwethaf yn dwyn ffrwyth a champws aer glân yn cael ei greu, a fydd yn darparu buddion go iawn i staff a myfyrwyr.

“Mae agweddau pobl tuag at ysmygu yng Nghymru’n newid ac mae’r cyhoedd yn awyddus I weld camau gweithredu sy’n mynd i’r afael â chyffredinolrwydd ysmygu, gan gynnwys cyflwyno mannau di-fwg.

“Mawr obeithiwn y bydd blaengaredd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ysbrydoli prifysgolion eraill ledled Cymru, oherwydd credwn y dylai gweithredu i normaleiddio peidio ag ysmygu a lleihau ysmygu fod yn rhan allweddol o agenda iechyd a lles pob prifysgol.”

Dywedodd Leigh Robinson, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd: “Mae ymrwymiad ein cymuned i fod yn ddi-fwg erbyn 2020 yn pwysleisio’r rôl hanfodol sydd gan bawb i’w chwarae o ran cefnogi amgylchedd iachach i ni gyd. Rydym yn falch o arwain y ffordd wrth greu campws di-fwg, gan greu amgylchedd iachach i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.

“Hoffwn ddiolch i’n staff a’n myfyrwyr am weithio tuag at gyflawni’r nod hwn. Gyda’n gilydd, bydd ein hymrwymiad i fod yn brifysgol iachach yn mynd o nerth i nerth.”

Ledled Cymru, mae 22% o bobl rhwng 16 a 24 oed yn ysmygu, o gymharu ag 17% o’r boblogaeth sy’n oedolion. Ers y gwaharddiad ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig, a ddaeth i rym yn 2007, mae cyffredinolrwydd ysmygu ymysg y cyhoedd wedi cwympo 6%, gyda’r cwymp mwyaf mewn cyffredinolrwydd ysmygu yn y DU ers 2011 ymysg pobl rhwng 18 a 24 oed. Mae ysmygu’n costio £302 miliwn i GIG Cymru bob blwyddyn.

Yn ôl arolwg YouGov diweddaraf ASH, mae yna gefnogaeth amlwg i bolisïau rheoli tybaco ychwanegol yng Nghymru. O’r rheiny a arolygwyd, dywedodd 59% y byddent yn cefnogi gwahardd ysmygu yng nghanol trefi Cymru, tra cytunodd 63% y dylai ysmygu gael ei wahardd yn ardaloedd bwyta awyr agored caffis a bwytai. Yn ôl hanner oedolion Cymru (47%), nid yw’r llywodraeth yn gwneud digon i leihau cyffredinolrwydd ysmygu yng Nghymru, i fyny o 39% yn 2018.

I ddarllen y stroi yma yn Gymraeg, cliciwch fan hyn.