Home>News>richard-parks-gruelling-polar-expedition-cy

 Myfyrwyr Met Caerdydd yn helpu cyn-chwaraewr rygbi Rhyngwladol Cymru i gwblhau taith begynol lethol

 

​Ionawr 17, 2020


Mae cyn-flaenwr Cymru, Richard Parks, sydd erbyn hyn yn anturiaethwr wedi goresgyn cyfandir mwyaf deheuol y byd - Antarctica - ar ben ei hun mewn llai na mis, heb gymorth a heb gefnogaeth ar sgïau, diolch i ddatblygiadau arloesol a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Gan frwydro yn erbyn tywydd eithafol a chyflenwadau yn prinhau ar draws 1150cilomedr (715) milltir a’r rhai o diroedd mwyaf anghroesawus y Ddaear, cyrhaeddodd Richard Begwn y De mewn 28 diwrnod, 21 awr a 59 munud yr wythnos hon [Ionawr 15].

Ar ôl gadael Cilfach Hercules, arfordir daearyddol Antarctica ar Ragfyr 17, bu’n sgïo ar gyflymder o hyd at 4cilomedr yr awr, yn aml am hyd at 17 awr ar y tro, drwy oroesi ar becynnau maeth a ddatblygwyd yn arbennig gan staff a myfyrwyr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd y Brifysgol.

Gan guro'r record Brydeinig flaenorol a osodwyd ganddo ef ei hun yn 2014, Richard yw'r Cymro cyntaf i gwblhau'r siwrnai epig hon, trydarodd: “Rydw i newydd gyrraedd Pegwn y De. Llwyddon ni! Diolch i chi."

Fe wnaeth academyddion a myfyrwyr ar draws Ysgolion Met Caerdydd ymateb i'r her a osodwyd gan Richard, gan gydweithio ar gydrannau allweddol ei offer a'i baratoi - o ddylunio ei sled uwch-dechnoleg, ei babell a'i ddillad i'r cynllun hyfforddiant ffitrwydd a maeth a helpodd i wireddu'r freuddwyd. .

Esboniodd Simon Dawson, Cyfarwyddwr Rhaglen Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Met Caerdydd: “Roedd datblygu dognau bwyd a fyddai’n gludadwy ac yn ddigon maethlon yn her, ac roedd y cynllun a ddatblygwyd gennym yn elfen hanfodol yn llwyddiant Richard. Roeddem ar bigau’r drain yn ystod yr ychydig ddiwrnodau olaf pan oedd y dognau’n isel, ond rwy’n falch iawn o ddathlu yng nghyflawniadau Richard a’n myfyrwyr.”

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Cara Aitchison: “Rydym yn hynod falch o gyflawniad Richard, a ddangosodd ddewrder, penderfyniad ac ymdrech uwch-ddynol aruthrol. Fel llysgennad Met Caerdydd, mae ei ymdrech yn gadael etifeddiaeth werthfawr i’n myfyrwyr, i Gymru a thu hwnt, gan helpu i greu cyfleoedd dysgu newydd yn y sectorau addysg a busnes.”

I ddarllen y stori yma yn Saesneg ewch fan hyn.