Cardiff School of Sport and Health Sciences>Courses>Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (Dwyieithog) - BSc (Anrh)

Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Dwyieithog - Gradd BSc (Anrh)

Entry Year

​​Mae’r cwrs hwn yn canolbwy​ntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth academaidd ac ymarferol o chwaraeon drwy gyfrwng dwyieithog. Er y caiff rhan o’r cwrs ei gyflawni drwy gyfrwng y Saesneg, bydd y rhan fwyaf o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae wedi’i gynllunio i foddhau’r galw cynyddol am raddedigion sydd â chymwyseddau a chymwysterau dwyieithog.

O ran y cynnwys, mae’r cwrs yn rhoi’r cyfle i chi ddeall ac archwilio chwaraeon o amrywiaeth o safbwyntiau disgyblaethol. Er enghraifft, byddwch yn dysgu am:

1. Y broses hyfforddi (ymarferol a damcaniaethol)

2. Arwyddocâd diwylliannol-gymdeithasol a moesegol chwaraeon a gweithgaredd corfforol

3. Y materion sy’n gysylltiedig â darparu addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid o bersbectif addysgol

4. Maeth poblogaeth a chwaraeon

Er bod y cwrs yn cynnig ystod eang o bynciau ac agweddau disgyblaethol, eto i gyd bydd y cwricwlwm yn eich galluogi i ganolbwyntio ac i arbenigo wrth i chi symud drwy’r tair blynedd o astudio academaidd. Yn ogystal â’r fframwaith academaidd damcaniaethol ac ymarferol cynhwysfawr, cewch eich annog i adeiladu portffolio o gymwysterau hyfforddi UKCC, dysgu ar leoliad gwaith a phrofiadau yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol. Mae Met Caerdydd yn cynnig cyfleoedd ar-gampws y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw ac mae cysylltiadau rhagorol gan y Met â Chwaraeon Caerdydd a’r ysgolion a’r awdurdodau lleol sydd o’n cwmpas.

Mae myfyrwyr sy’n astudio y cwrs hwn yn gymwys am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae nifer o ysgoloriaethau o £1000 a £500 y flwyddyn ar gael. Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth: https://colegcymraeg.ac.uk/myfyrwyr/prifysgol/ysgoloriaethau/

Blwyddyn Sylfaen

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder​.

​Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i​:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.


​Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen​​.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon​.

Cynnwys y Cwrs

Blwyddyn Un

Yn y flwyddyn gyntaf (Lefel 4), Ymgymerwch â chwe modiwl gorfodol, pump o’r rheini drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r modiwlau hyn y cynnig cyflwyniad cyffredinol i astudiaethau academaidd ym maes chwaraeon, gan ganolbwyntio ar hyfforddi, gwyddor chwaraeon, addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid, a materion cyfoes mewn chwaraeon ac addysg gorfforol.

Mae modiwlau’r flwyddyn gyntaf yn cynnig cyfle i chi hefyd ymarfer a datblygu eich sgiliau academaidd. Fe’ch cyflwynir hefyd i’r proses ymchwilio ym maes chwaraeon ac ymgymerwch â dau fodiwl ymarferol o’ch dewis (cyfrwng Saesneg).

  • ​Ymchwil ac Ysgolheictod*
  • Addysg Chwaraeon Cymhwysol
  • Dwyieithrwydd*
  • Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Lles*
  • Materion mewn Chwaraeon, Cymdeithas ac Addysg*
  • Addysg Gorfforol, Hyfforddi Chwaraeon ac Addysgeg*


Blwyddyn Dau

Yn yr ail flwyddyn (Lefel 5), datblyga myfyrwyr yn bellach eu gwybodaeth a dealltwriaeth o ran ein tair elfen allweddol, sef, hyfforddi/addysgu, maeth a materion moesegol. Bydd gofyn iddynt astudio o leiaf pum modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg. Ymgymera myfyrwyr â dau fodiwl ymarferol o’u dewis (cyfrwng Saesneg).

  • Dylunio a Phractis Ymchwil*
  • Addysg Chwaraeon Cymhwysol
  • Addysg Gorfforol, Iechyd a Lles*
  • Addysg Gorfforol ac Iechyd yn Ymarferol*
  • Moeseg Chwaraeon*
  • Maeth*


Blwyddyn Tri

Yn y drydedd flwyddyn (Lefel 6), cwblhewch brosiect terfynol drwy gyfrwng y Gymraeg sy’n rhoi sylw i bwnc ymchwil mewn maes o’ch dewis. Bydd cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau ymchwilio, cyfathrebu a datrys problemau.

  • Prosiect Terfynol*
  • Lleoliad Diwydiant*
  • Addysg Gorfforol, Iechyd a Lles Uwch*
  • Maeth mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff*

*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Dysgu ac Addysgu

Mae dulliau dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn tanategu’r nodau addysgol a chanlyniadau dysgu ein rhaglenni a’n modiwlau. Gall dulliau dysgu ac addysu gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Mae ein Rhith-Amgylchedd Dysgu (Moodle) yn agwedd annatod o’r pecyn dysgu sydd yn cefnogi anghenion ein myfyrwyr.

Mae prif ddarlithoedd yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, tra bod seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol yn ffocysu ar y cymhwysiad o gysyniadau allweddol gyda’r nod o wella profiadau ac ymrwymiad myfyrwyr. Cwrddwch â thiwtoriaid ar sail un-i-un. Fel Ysgol, gweithiwn yn galed darparu cyfleoedd dysgu a ganolbwyntir ar y myfyriwr sydd yn darparu amgylchedd dysgu hyblyg o safon.

Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso’r datblygiad o’ch ymresymu beirniadol tra’n annog y cyfaniad o bractis a theori. Trwy gydol eich rhaglen, byddwch yn profi dysgu o dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunangyfeiriedig. Rydym yn annog i chi ddatblygu agwedd cadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.

Mae sgiliau ‘EDGE’ Met Caerdydd (Ethical, Digital, Global and Entrepreneurial) yn rhan allweddol o’n dulliau addysgu a dysgu. Byddwch yn gymwys iawn dangos priodoleddau graddedig a ddisgwylir yn y byd gwaith Cystadleuol. Ein bwriad yw eich helpu datblygu’n broffesiynolwyr adfyfyriol ac ysgolheigion beirniadol.

Yn eich rhaglen chwaraeon ym Met Caerdydd, cewch brofiad dysgu o gynefino i raddio sydd yn gydlynol ac yn datblygu’ch hunaniaeth o fewn eich rhaglen astudio.

Nodweddion penodol o’r profiad dysgu ar Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (AChAG) yn cynnwys:

  • Ymchwilwyr dawnus a hyfforddwyr o safon elitaidd sydd yn rhan annatod o’r amgylchedd dysgu unigryw hwn
  • Cyfle i ennill cymwysterau hyfforddi Lefel 1 a 2
  • Cyfleusterau rhagorol sydd yn optimeiddio profiadau myfyrwyr
  • Cyfle i wella’ch Cymraeg trwy astudio ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith.


Asesiadau

Mae’r rhaglen hon yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu i roi ein myfyrwyr y profiad dysgu gorau.

Trwy asesu y gallwn dystio eich bod wedi cyflawni amcanion dysgu’r modiwlau yn ôl FHEQ a CQFW. Mae asesiadau yn cefnogi eich profiad dysgu gan ddarparu cyfleon i chi gael adborth ffurfiannol a chrynodol sydd yn profi’ch gwybodaeth, gallu, sgiliau a dealltwriaeth feirniadol. Asesir y modiwlau israddedig trwy gyfuniad o:

  • Gwaith cwrs ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau poster
  • Cyflwyniadau llafar
  • Portffolios
  • Arholiadau na/a welir
  • Sgiliau ymarferol
  • Gweithgareddau eraill sydd yn asesu, datblygu, gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.

Disgwylir i chi gwblhau prosiect terfynol fel rhan o’ch blwyddyn olaf ar y radd er anrhydedd. Gall prosiectau terfynol fod yn ymchwil, arloesedd, ymgynghoriaeth neu brosiect cymunedol.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae ‘EDGE’ Met Caerdydd yn eich paratoi am llwyddo yn y byd modern. Trwy gydol eich gradd, cewch ystod o gyfleon i ddatblygu’ch galluoedd ‘Ethical, Digital, Global & Entrepreneurial’ trwy dysgu seiliedig ar broblemau, astudiaethau achos y byd go iawn, profiad gwaith ar gampws a lleoliadau gwaith oddi ar gampws. Sicrhawn y cewch ystod o gyfleon i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu, cydweithio ac arwain.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf y cewch gyfle i ennill cymwysterau technegol mewn ystod o feysydd rhaglen-benodol, gan gynnwys hyfforddi chwaraeon, ymarfer corff ac iechyd a diogelwch. Sicrha’r cyfleon hyn fod y cymwysterau perthnasol gennych er mwyn ymgeisio am lawer o gyfleon lleoliad gwaith ar gael ar/oddi ar gampws. Helpwn fyfyrwyr i chwilio am gyfleon i astudio/gweithio dramor. Gall lleoliadau gwaith roi i chi ‘EDGE’ pwysig o ran cael swydd wedi graddio. Mae graddedigion AChAG wedi ennill cyflogaeth yn y meysydd canlynol: cyfryngau, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol. Mae llawer o’n graddedigion yn parhau’n y Brifysgol ar gwrsiau ôl-raddedig (TAR, Meistr a Doethuriaeth.

Gofynion Mynediad a Sut i Ymgeisio

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen​ sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.

  • Pwyntiau tariff: 96 - 112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: Tair Safon Uwch i gynnwys Graddau B. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: 15 credyd gyda Rhagoriaeth a 30 credyd gyda Theilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 1 x H6. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Gradd C. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers​.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltwch â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau:
Ffôn: 029 2041 6044
E-bost: askadmissions@cardiffmet.ac.uk

Cysylltwch â Gweinyddwr yr Ysgol i holi am unrhyw gwrs penodol:
E-bost: CSSHSLTSE@cardiffmet.ac.uk

We endeavour to deliver courses as described and will not normally make changes to courses, such as course title, content, delivery, and teaching provision. However, it may be necessary for the university to make changes in the course provision before or after enrolment. It reserves the right to make variations to content or delivery methods, including discontinuation or merging courses if such action is considered necessary. Please read our Terms and Conditions for the full information.

Key Course Information

​Codau UCAS:
UT9H - Gradd 3 blynedd
UT9F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)​

Man Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd amser llawn neu bedair blynedd amser llawn gan gynnwys blwyddyn Sylfaen.

Ar gael yn rhan-amser hefyd a gall fod hyd at wyth mlynedd. Mae'r myfyrwyr rhan-amser yn ymuno â'r myfyrwyr amser llawn ar gyfer pob modiwl. Felly cwblheir y rhan fwyaf o'r modiwlau rhwng 9.00yb a 6.00yp yn ystod yr wythnos.

 
TROSOLWG O'R CWRS | UCHAFBWYNTIAU GRADD
Uchafbwyntiau Gradd

Cewch glywed gan Gyfarwyddwr y Rhaglen Catrin Rowlands a dysgwch fwy am uchafbwyntiau allweddol y radd BSc (Anrh) Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Dwyieithog.

DEWCH I GWRDD Â’R TÎM
Dewch i Gwrdd â'r Tîm: Neil Hennessey

Dewch i gwrdd â Neil Hennessy, Uwch Ddarlithydd mewn Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Dewch i Gwrdd â'r Tîm: Catrin Rowlands

Dewch i gwrdd â Catrin Rowlands, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

PROFIAD MYFYRWYR A GRADDEDIGION
Blog
Fy mhrofiad ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol

Dewch i ddarllen mwy am brofiadau Sara o astudio'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Darllen Mwy

Blog
Manteision astudio'r cwrs Chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg

Dewch i ddarllen mwy am brofiadau Dione o astudio'r cwrs drwy'r Gymraeg.
Darllen Mwy

Blog
Fy mhrofiad ar ddechrau bywyd prifysgol yn astudio Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol

Mae Lia yn sôn am ei thaith yn astudio'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg a'r manteision o wneud hynny.
Darllen Mwy