Skip to content

Diolch am eich Cais

Rydych wedi cyflwyno’ch cais yn llwyddiannus ar-lein drwy Hunanwasanaeth Met Caerdydd

Os ydych chi’n ymgeisydd rhyngwladol, ewch i’r tudalen gwe Ryngwladol lle cewch ganllawiau pellach ar wneud cais drwy ffurflen gais Rhyngwladol Met Caerdydd.

Bydd derbyniadau nawr yn dechrau prosesu eich cais a'i anfon at Gyfarwyddwr y Rhaglen i'w ystyried. Os nad ydych wedi derbyn gwybodaeth am eich cais o fewn pythefnos o'r dyddiad y gwnaethoch gyflwyno eich cais neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, e-bostiwch Derbyniadau: askadmissions@cardiffmet.ac.uk

Olrhain eich Cais

Gallwch fewngofnodi i weld statws eich cais ar unrhyw adeg drwy ddefnyddio eich manylion mewngofnodi i Hunanwasanaeth.

Derbyn eich Cynnig

Ar ôl i chi dderbyn cynnig, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgyfarwyddo â'n Telerau ac Amodau. Sylwer, oni bai eich bod yn cadarnhau eich cynnig ac yn bodloni unrhyw amodau a nodwyd, ni fyddwch yn derbyn eich Gwybodaeth Ymuno a fydd yn cynnwys gwybodaeth hanfodol mewn perthynas â sesiynau sefydlu a chofrestru. Dim ond pan fydd eich statws yn Ddiamod Cadarn fydd hyn yn cael ei ddarparu.

Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau

Cyfeiriwch at ein gwybodaeth ar ein tudalennau gwe Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau am fanylion y gwobrau cyfredol.

Cyllid a Ffioedd

I wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r ffioedd sy'n gysylltiedig â'ch rhaglen, cyfeiriwch at y wybodaeth ar ein tudalen Cyllid a Ffioedd. Yma, fe welwch wybodaeth am yr opsiynau cyllido sydd ar gael, a'r tablau ffioedd a'r nodiadau cyfarwyddyd diweddaraf.

Costau Ychwanegol

Costau ychwanegol yw'r treuliau gorfodol neu ddewisol, yn ogystal â ffioedd dysgu, y mae angen i fyfyrwyr dalu amdanynt i gymryd rhan yn llawn a chwblhau eu hastudiaethau. Mae hyn yn cwmpasu pethau fel offer, tripiau, lleoliadau a gwiriadau DBS.

Os oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig â chwblhau eich rhaglen, byddant yn cael eu rhestru ar ein tudalen Costau Ychwanegol. Please make sure you are aware of these before starting your programme.

Gwasanaethau i Fyfyrwyr

Er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cyrraedd eich llawn botensial fel myfyriwr a bod eich amser yma ym Met Caerdydd mor bleserus â phosibl, cysylltwch â'n tîm Gwasanaethau Myfyrwyr os oes gennych unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud ag iechyd, lles neu ffordd o fyw. Mae eu gwasanaethau, yn amrywio o gymorth anabledd i gyngor ariannol, yn rhad ac am ddim, yn ddiduedd, yn ddi-farn ac yn gyfrinachol.

E-bost: studentservices@cardiffmet.ac.uk

Gwefan: www.cardiffmet.ac.uk/studentservices