Home>News>Cynhadledd bwyd ryngwladol i'w chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf

Cynhadledd bwyd ryngwladol i'w chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf

 

Casglodd academyddion o bob cwr o’r byd yng Nghymru i drafod sut y gall bwyd help i greu cymdeithas fwy croesawgar. 

Cynhelir y Gynhadledd Ryngwladol ar y Celfyddydau a Gwyddorau Coginio (ICCAS) gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar 27 i 28 Mehefin 2019. Dyma’r tro cyntaf i ICCAS gael ei gynnal yng Nghymru gyda dros 90 o gynrychiolwyr o ledled Ewrop yn ogystal ag Awstralia, Brasil, Canada a’r Unol Daleithiau. 

ICCAS yw'r unig gynhadledd ryngwladol sy'n dwyn ynghyd ddwy ochr y diwydiant bwyd rhyngwladol; gwyddorau bwyd a gwasanaethau bwyd. Thema'r gynhadledd eleni oed Bwyd a Chymdeithas (Food and Society) a chafodd cynrychiolwyr glywed gan ystod o siaradwyr gan gynnwys Lynne Regent, Prif Swyddog Gweithredol yr Ymgyrch Anaphylaxis, a fu’n trafod effaith alergedd ar gymdeithas a Chris Moore, Prif Weithredwr Elusen Clink, a fu’n rhannu y gwaith y maent yn ei wneud i leihau cyfraddau aildroseddu drwy hyfforddi carcharorion i weithio yn y diwydiant lletygarwch. Trafododd Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Sense Food Wales yr ymgyrch ‘Peas Please’ sy’n anelu i wneud yn siwr for Prydain yn bwyta mwy o lysiau. 

Mae ICCAS yn hynod berthnasol i Gymru oherwydd fod bwyd a twristiaeth yn ddau o’r pedwar sector sylfaenol yng nghynllun economaidd Llywodraeth Cymru, Prosperity for All. Mae’r sector bwyd a diod yn gyfrifol am 18% o’r gweithlu Cymreig gyda dros 240,000 o bobl yn cael eu cyflogi ar draws meysydd arlwyo, gwerthu a chyfanwerthu, amaethyddiaeth a manwerthu.

Dywedodd Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

“Rwyf wrth fy modd fod yr ICCAS wedi cael ei gynnal yng Nghymru eleni, gan ddod ag arbenigedd rhyngwladol o’r diwydiant a’r byd academaidd, ar draws y gwyddorau bwyd a gwasanaethau bwyd. Mae cydweithrediad yn gynhwysyn allweddol llwyddiant ac yng Nghymru mae ein bwyd a diod yn mynd law yn llaw a lletygarwch a thwristiaeth.

“Rwyf mor falch fod ein sector bwyd a diod yn mynd o nerth i nerth ac mae bwyd yn ddylanwadu penderfyniadau pobl i ymweld a Chymru fwy nag erioed, o ystryried ein henw da am ragoriaeth. Felly, mae Cymru yn darparu cefndir perffaith ar gyfer trafod rôl hanfodol y mae bwyd yn ei chwarae yn ein cymdeithas.”

Cynhaliwyd y cinio gala gan staff y Bwyty Clink yng Nghaerdydd a’r bwyty arobryn Park House. Dangosodd y pryd bwyd gynnyrch Cymreig gan gynnwys cranc Solfach a chig eidion a mefus Sir Benfro.

Dywedodd Sebastien Vanoni, Prif Hyfforddwr Cogyddion ym Mwyty The Clink Caerdydd:

“Pan rydyn ni’n gweithio ar y cyd gyda bwytai ar gyfer digwyddiadau fel hyn, mae’n rhoi cyfle i ni arddangos y carcharorion dan hyfforddiant a chreu cysylltiadau fydd yn rhoi siawns gwell iddyn nhw yn y dyfodol. Y nod yw torri rhwystrau i lawr a chael gwared â rhagdybiaethau. Fel arfer, mae pobl wedi’u swyno gan ansawdd gwaith ac agwedd y carcharorion.”

Ar ddiwedd y gynhadledd, fe gyhoeddwyd fod Pwyllgor Gwyddonol Rhyngwladol ICCAS 2019 yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Ymchwil Sefydliad Paul Bocuse yn Lyon. 

Dywedodd Dr Claire Haven-Tang, Cadeirydd Pwyllgor Gwyddonol Rhyngwladol ICCAS 2019, Prifysgol Metropolitan Caerdydd:

“Mae wedi bod yn fraint i gynnal ICCAS 2019 yng Nghymru am y tro cyntaf a chael arddangos ein gwlad i academyddion bwyd a lletygarwch ledled y byd. Dros y ddau ddiwrnod roedd digon o drafodaethau cynhyrchiol a rhannu syniadau am rôl hanfodol y mae bwyd yn chwarae yn ein cymdeithas.

“Rwy’n edrych ymlaen at ICCAS 2019 yn Nghanolfan Ymchwil Sefydliad Paul Bocuse. Mae Lyon yn ddinas sydd yn cael ei dathlu ledled y byd am ei bwyd ac roedd Paul Bocuse, y mae’r ganolfan ymchwil wedi’i henwi ar ei ôl, yn un o’r cogyddion fwyaf pwysig yr ugeinfed ganrif.”

I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.