Home>News>Met Caerdydd ar y Brig yn Seremoni Flynyddol Gwobrau Addysg y DU

Met Caerdydd ar y Brig yn Seremoni Flynyddol Gwobrau Addysg y DU

 

​Mae Met Caerdydd yn dathlu ennill tair gwobr o’r saith oedd yn cael eu cynnig yn Seremoni Flynyddol Gwobrau Addysg 2019 a gynhaliwyd heddiw (Ddydd Mawrth, Mehefin 11 ) yn Olympia Llundain .

Lansiwyd Gwobrau Addysg NewTek y DU ym mis Hydref 2017 i gydnabod rhagoriaeth mewn creu fideos deniadol neu ffrydiau byw gyda thechnoleg NewTek gan fyfyrwyr colegau a phrifysgolion ledled y wlad. Roedd y gwobrau ar agor i unrhyw gyfadrannau sefydliad addysgol yn y DU yng nghategorïau Cynhyrchu yn y Cyfryngau, Newyddion a’r Gymuned, Deunyddiau Addysgu a Dysgu o Bell.

Enillodd Met Caerdydd wobrau yn y categorïau canlynol: 

● Fideo Gorau 2019 – “Up The Archer”, uchafbwyntiau wythnosol maes chwaraeon gan fyfyrwyr ar gwrs MSc Darlledu Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd 

● Tiwtor y Flwyddyn 2019– Lukas Burks, Technegydd Arddangos, MSc Darlledu Chwaraeon, ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd 

● Cynnwys Gorau Rhaglen Chwaraeon – “Up The Archer”, uchafbwyntiau wythnosol maes chwaraeon gan fyfyrwyr ar gwrs MSc Darlledu Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Ymhlith enillwyr eraill Gwobrau Addysg NewTek 2019 y DU mae: 

● Cynnwys Gorau Rhaglen Adloniant “Shotgun Sally”: gan fyfyrwyr Screen School, Coleg Cyfathrebu Llundain. 

● Cynnwys Gorau Rhaglen Ffeithiol – “The Wymering Manor Investigation”: gan fyfyrwyr Prifysgol Portsmouth. 

● Darllediad Byw Gorau– “NHS 70 Live” gan fyfyrwyr Prifysgol Portsmouth. 

● Darllediad Byw Gorau (o dan 18 oed)– “The Record” gan fyfyrwyr Coleg Wiltshire yn Chippenham.

Dywedodd Lukas Burks, Technegydd Arddangos, MSc Darlledu Chwaraeon, ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Tiwtor y Flwyddyn eleni: – “Mae meddalwedd NewTek wedi bod yn anhygoel i ni. Pan brynon ni’r feddalwedd, roedd gennym nifer o amcanion allweddol a luniwyd i helpu i efelychu sefyllfaoedd darlledu “go wir” a chreu llif gwaith y diwydiant.

“Roedden ni am greu raglen sgwrsio ffrwd fyw wythnosol, arolwg o newyddion chwaraeon a gemau byw drwy’r TriCaster ar sianeli Facebook a Youtube,” meddai Burks.

“Roedden ni am gael y gallu i chwarae pecynnau Fideo, rhyngdorri cyfweliadau a chyflwyniadau, ychwanegu rhith gefndiroedd, mewnosod graffeg enwau ar waelod sgrîn, monitro sain a mwy. Mae NewTek wedi caniatáu i ni wneud hyn a pharatoi ar gyfer y genhedlaeth nesaf o Ddarlledwyr Chwaraeon.”

Derbyniodd yr holl fyfyrwyr buddugol dystysgrif a phlac Gwobrau Addysg y DU yn ystod y cyflwyniad yn y Sioe 'Media Production Show' y prynhawn ’ma.

“Fe wnaeth y detholiad o fideos a gyflwynwyd eleni greu argraff ddofn arna i a’r beirniaid eraill,” meddai Liam Hayter, Pensaer Llif Gwaith a Datrysiadau gyda NewTek. “Fe welon ni wreiddioldeb a chreadigrwydd gan ystod eang o fyfyrwyr ledled y DU, a'r cyfan wedi’i gynhyrchu gyda thechnoleg NewTek.

“Yn NewTek, rydyn ni wedi ymroi i ddarparu technoleg gorau addysg ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y cyfryngau ac mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchu llwyddiant yr ymrwymiad hwn y flwyddyn nesaf.”

I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma