Home>News>Met Caerdydd yn Brifysgol Gyntaf i Gyrraedd Cynghrair Europa

Met Caerdydd yn Brifysgol Gyntaf i Gyrraedd Cynghrair Europa

​20 Mai 2019

 

​Lluy

Llun gan: Matthew Lofthouse

​Mae Clwb Pêl-droed Met Caerdydd yn dathlu ar ôl dod yn brifysgol gyntaf i gyrraedd Cynghrair Europa UEFA, ar ôl rownd derfynol gyffrous yn erbyn Y Bala ar ddydd Sul, lle enillon nhw 3-1 gyda chic gosb.

Ar ôl wynebu tair rownd derfynol yn yr Uwch Gynghrair ond yn colli allan o drwch blewyn, mae'r tîm o'r diwedd wedi cyrraedd Ewrop. Chwaraeodd The Archers gêm gyffrous ddydd Sul yn erbyn Y Bala, gyda Eliot Evans yn sgorio'r gic gosb ar ôl i Will Fuller, ceidwad The Archers Met Caerdydd, arbed tair cic o'r smotyn. Roedd y sgôr amser llawn yn gyfartal 1-1.

Dywedodd Mike Davies, Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd a Chlwb Pêl-droed Prifysgol Met Caerdydd: "Rydym yn hynod falch o lwyddiant y tîm wrth ennill Cwpan Nathaniel a chymhwyso ar gyfer Cynghrair Europa, rydym wedi bod yn adeiladu at hyn am y tair blynedd diwethaf.

"Mae ymddygiad ac ymroddiad ein myfyrwyr a'r tîm rheoli a phawb sy'n rhan o'r clwb wedi bod yn glod i'r Brifysgol a Phêl-droed Cymru. Maent yn haeddu'r cyfle i chwarae ar y llwyfan Ewropeaidd."

Dywedodd Christian Edwards Prif Hyfforddwr Clwb Pêl-droed Met Caerdydd a Chyfarwyddwr Pêl-droed: ‘’Mi oedd pob un chwaraewr ddoe yn destun o falchder i’r Brifysgol. Rydym ni wedi dod yn agos dros y ddau dymor diwethaf ac o’r diwedd mae wedi digwydd. Mi oedd hi’n ffeinal anodd ac yn her arall i orfod mynd i giciau cosb, ond roedd y bechgyn yn ddigon abl i gwrdd â’r her yna gan sicrhau diwrnod i’w gofio. Bydd ymarfer cyn y tymor yn cychwyn mewn pythefnos a byddwn ni yn ôl ar ein gorau, yn barod ar gyfer ein gem nesaf ar Fehefin 27."

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.