Home>News>Met Caerdydd yn Canolbwyntio ar Feithrin Hinsawdd o Ansawdd ym Mhrifysgol 'National Economics' Fiet-nam

Met Caerdydd yn Canolbwyntio ar Feithrin Hinsawdd o Ansawdd ym Mhrifysgol 'National Economics' Fiet-nam

​05/04/2019

 


Ar ddiwedd y gweithu dau ddiwrnod yn Hanoi, bu staff NEU a Met Caerdydd yn dylunio crysau-t i gyfleu yr hyn y mae sicrwydd ansawdd a gwella ansawdd yn golygu iddyn nhw.

Mae Prifysgol Met Caerdydd yn arwain prosiect y Cyngor Prydeinig i wella sicrhau ansawdd mewn prifysgol yn Fiet-nam.

Golyga'r prosiect 'Meithrin Hinsawdd o Ansawdd yn NEU', drwy'r Cyngor Prydeinig, fod tîm o wahanol adrannau Met Caerdydd yn cydweithio â Phrifysgol 'National Economics University' (NEU), o Fiet-nam, i'w cefnogi gyda'u trefn sicrhau ansawdd a'u prosesau gwella ansawdd. Mae'r prosiect hefyd yn derbyn cefnogaeth oddi wrth Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU.

Bu tîm y prosiect yn brysur yr wythnosau diwethaf gydag ymweliadau â Hanoi a Chaerdydd. Mae hyn yn dilyn gweithgaredd rhychwantu sylweddol gynhaliwyd yn Rhagfyr a Ionawr, gyda staff a myfyrwyr NEU yn cael eu harolygu ar eu canfyddiad o ddysgu ac addysgu a'r set sgiliau mae cyflogwyr yn eu disgwyl gan raddedigion.

Ar ddiwedd Chwefror teithiodd tîm o Gyfarwyddiaeth Gwella Ansawdd, Ysgol Reoli Met Caerdydd a'r Swyddfa Ryngwladol a Phartneriaeth gyda Fiona Crozier, Pennaeth Rhyngwladol QAA, i Hanoi yn Fiet-nam. Roedd cyflwyno gweithdai ar sicrhau ansawdd a gwella ansawdd yn gyfle i rannu arferion addysgu newydd ac i gyfoethogi ymhellach y bartneriaeth rhwng y ddwy brifysgol.

Yn dilyn hyn, bu tîm NEU yn rhannu ei profiadau mewn cyd-gyflwyniad gyda Dr Nicola Bolton yng Nghynhadledd Partner Met Caerdydd ar ddechrau mis Mawrth. Roedd y cyflwyniad yn cynnig syniadau i fyfyrio drostyn nhw am gyfleoedd cydweithredu fyddai o fudd i'r ddwy ochr mewn partneriaethau ac yn creu effaith bositif o fewn prifysgolion a'r sector addysg uwch yn fyd eang.

Yn awr bydd y prosiect yn symud gam ymlaen, gan ddefnyddio canfyddiadau'r gweithdai i weithredu prosiect newid o fewn NEU, cyn cyflenwi hyfforddiant ar gyfer staff o brifysgolion ar draws Fiet-nam a datblygu pecyn cymorth i'w ddefnyddio'n genedlaethol yno.

Mae'r prosiect wedi creu cryn gynnwrf yn y ddwy brifysgol, gan ddarparu cyfleoedd i gynyddu galluoedd ar y cyd a chyfnewid diwylliannau.

Dywedodd yr Athro Anh Huu Nguyen, Deon Ysgol Gyfrifeg ac Archwilio NEU: "Yn ein prifysgol, mae sicrhau ansawdd yn cael blaenoriaeth bob amser. Nid yw'n bwnc newydd ond mae'n parhau'n fater o bryder mewn llawer sefydliad addysgol yn Fiet-nam. Bydd y prosiect o fudd i NEU ynghyd â sefydliadau eraill yn Fiet-nam er mwyn sicrhau a gwella ansawdd ein gweithgaredd dysgu ac addysgu."

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.