Home>News>Met Caerdydd yn Croesawu Cynrychiolwyr o Zambia

Mae Met Caerdydd yn croesawu cynrychiolwyr o Zambia i gynhadledd chwaraeon

 


Yr wythnos hon mae Met Caerdydd wedi cynnal cynhadledd ar gyfer mwy na 35 o gynrychiolwyr o lywodraeth Zambia a NGS Sport in Action (SiA), yn ogystal â phrifysgolion ledled y DU a Zambia fel rhan o raglen barhaus sydd a'r bwriad o ddatblygu cymunedau a chyfoethogi bywydau trigolion ifanc o Zambia trwy rym chwaraeon.

Mae met Caerdydd yn ffurfio rhan o Grŵp bach o brifysgolion, a elwir yn Grŵp Wallace. Mae partneriaeth grŵp Wallace, wedi datblygu rhaglen wirfoddoli ryngwladol - Volunteer Zambia.  Fel rhan o'r rhaglen, mae'r prifysgolion yn anfon myfyrwyr a staff allan i Zambia ac yn dod at ei gilydd bob blwyddyn mewn prifysgolion ledled y byd. Mae Grŵp Wallace yn grŵp o wyth o'r prifysgolion chwaraeon gorau yn y DU sydd â gweledigaeth gyffredin i ddefnyddio chwaraeon fel offeryn i ymgysylltu, addysgu a grymuso pobl ifanc yn Zambia.

Cynhaliwyd y gynhadledd yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (Cyncoed) rhwng Dydd Mawrth 2 Gorffennaf a Dydd Iau 4 Gorffennaf. Roedd y Cynrychiolwyr o Zambia yn cynnwys Frank Mushindu, Cyfarwyddwr Gweithredol Sport in Action, Dr Bentry Nkhata, Deon Addysg (UNZA), Dr Hakabwa Chipande, Darlithiwr (UNZA), Katongo Bwalya Moonga, Darlithiwr (UNZA), a Bessie Chelemu Cyfarwyddwr Chwaraeon, Llywodraeth Zambia.

Roedd cyfarwyddwyr chwaraeon a staff academaidd o Gaeredin, Durham, Stirling, St Andrews, Northumbria a Bath hefyd yn bresennol ar gyfer y gynhadledd. Roedd cynrychiolwyr o Met Caerdydd yn cynnwys Ben O'Connell, Christa Haworth, Prof. Diane Crone, Dr. Nicola Bolton, Dr. Mikel Mellick, Sara Nichols a Melanie Golding.

Dywedodd Cyfarwyddwr Chwaraeo, Ben O'Connell o Met Caerdydd: "Mi oedd hi'n bleser i gynnal y gynhadledd eleni ac i groesawu cynifer o gynrychiolwyr o Zambia yn ogystal â'n prifysgolion partner, England Netball a UKSport fel rhan o'r Grŵp Wallace. Roedd yn gyfle perffaith, i'r Cyfarwyddwyr arwyddo cytundeb newydd.

"Ein huchelgais fel grŵp yw  gweithio gyda Sport in Action a'i phartneriaid i ddatblygu cynlluniau hirdymor a chynaliadwy ar gyfer pobl ifanc yn Zambia.''

Dywedodd Bessie Chelemu, Llywodraeth Zambia, "Roedd y ddau ddiwrnod yn ysbrydoledig, a chefais fy mhlesio gan ymrwymiad ac uchelgais y grŵp i barhau â'r gwaith gyda chwaraeon ar waith a phartneriaid.  Mae'r partneriaethau hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol i ddatblygiad cynaliadwy hirdymor cyfranogiad mewn chwaraeon yn Zambia.  Roedd yn galonogol mai'r blaenoriaethau allweddol wrth symud ymlaen fydd gwella'r cyfleoedd i fenywod a merched ifanc, ym maes chwaraeon, arweinyddiaeth ac addysg. Roedd hefyd yn gyffrous clywed am gyfleoedd i academyddion allweddol, o bob rhan o 8 o brifysgolion y DU a Phrifysgol Zambia (UNZA), i gydweithio ym maes ymchwil, datblygu'r cwricwlwm a gweithgareddau addysgu a dysgu ".

I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.