Home>News>Myfyriwr Graddedig o Met Caerdydd yn Cyrraedd ei Tharged Kickstarter o £18k i Agor Dau Far Coffi Newydd yn y Ddinas

Myfyriwr Graddedig o Met Caerdydd yn Cyrraedd ei Tharged Kickstarter o £18k  i Agor Dau Far Coffi Newydd yn y Ddinas

​05/04/2019

 


Mae Frances Lukins sy'n raddedig o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, a'i gŵr Dan wedi cyrraedd eu targed Kickstarter o £18k yn ddiweddar i agor dau far coffi newydd mewn lleoliadau unigryw yng Nghaerdydd.

Mae Lufkin Coffee, a agorwyd gan y gŵr a'r wraig yn King's Road Yard ym Mhontcanna yn 2015, wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith y trigolion lleol ers y cychwyn cyntaf.

Bydd y cyllid gwerth £18k, a godwyd drwy roddion gan dros 400 o gefnogwyr mewn mis yn unig, yn cyfrannu at gost creu bar coffi newydd yn hen gaban y parcmon ym Mharc Thompson, Treganna, a hen safle banc Natwest ar Clare Road, Grangetown.

Bydd y safle yn Grangetown yn gartref newydd i'r peiriant rhostio coffi sy'n dal gwerth 10kg o goffi, a bydd hefyd yn cynnwys siop serameg ac ardal desgiau poeth.  Bydd y safle yn darparu coffi sydd wedi'i rostio'n ffres i'r tri lleoliad.

Astudiodd Frances Serameg ym Met Caerdydd, gan raddio yn 2018. Yn ystod ei hastudiaethau, archwiliodd y gydberthynas rhwng serameg, y ddefod o yfed coffi a'r gymuned. Roedd ei gwaith yn archwilio'r syniad o haenu a datblygu iaith faterol farddonol a allai helpu cwsmeriaid  i gadw cydbwysedd a'u galluogi i fwynhau'r foment yn well.    

Wrth siarad am y fenter newydd, dywedodd Frances: "Rwy'n gweld potensial i agor tri bar coffi mewn cymunedau gwahanol fel rhan o un teulu mawr, gan ddatblygu a haenu ein gwerthoedd sy'n canolbwyntio ar ddefod, arafu a lle i fod yn greadigol.

"Mae'r ffaith ein bod eisoes wedi cyrraedd ein targed codi arian yn gyffrous iawn – rydym wrth ein bodd gydag ymateb aelodau'r gymuned leol. Gyda'u cymorth nhw, byddwn yn gallu creu dau ofod newydd lle y gall pobl ddefnyddio coffi fel ffordd o gael cydbwysedd yn eu bywydau bob dydd."

Mae Frances a Dan yn gobeithio agor y safle yn Grangetown ym mis Mai, gyda'r nod o agor y drysau ym Mharc Thompson ym mis Gorffennaf.

Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.lufkincoffee.com/

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.