Home>News>Myfyriwr yn derbyn ysgoloriaeth lawn i fynychu Met Caerdydd ar ôl ymfudiad gorfodol

Myfyriwr yn derbyn ysgoloriaeth lawn i fynychu Met Caerdydd ar ôl ymfudiad gorfodol

​13/11/2019

 


Mae Larysa Agbaso wedi derbyn Gwobr Noddfa Met Caerdydd ar gyfer astudio MA TESOL yn y Brifysgol wedi iddi gael ei gorfodi i ymfudo o'r Ukrain.

Yn 2018, mynychodd Larysa gwrs ysgol haf a gynhaliwyd gan dîm Ehangu Mynediad Met Caerdydd. Yno, fe'i gwnaed yn ymwybodol o'r Ysgoloriaeth Noddfa a gwnaeth gais i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio TESOL (Dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) ar lefel Meistr. Mae'r cwrs yn dysgu hanfodion TESOL ac yn archwilio materion allweddol yn y maes, gan gynnwys dulliau addysgu mewn dysgu iaith Saesneg, dysgu Saesneg i ddysgwyr ifanc a Saesneg at ddibenion penodol, gan gynnwys Saesneg at ddibenion academaidd.

Ar ôl gweithio fel athrawes Saesneg fel iaith dramor (EFL) yn yr Ukrain am 17 mlynedd, profodd Larysa ymfudiad gorfodol pan ddaeth ei thref enedigol yn barth gwrthdaro rhyfel,  arweiniodd hyn hi i'r DU. Cyfarfu â nifer o ddysgwyr ESOL (siaradwyr Saesneg o ieithoedd eraill) wrth wirfoddoli ac fe wnaeth hyn ei hysbrydoli i barhau â'i haddysgu.

Dyfernir Gwobr Noddfa Met Caerdydd i ddau fyfyriwr ôl-raddedig a dau fyfyriwr israddedig sy'n ceisio noddfa yn y DU, bob blwyddyn. Enwyd y Brifysgol yn Brifysgol Noddfa am y gwaith y mae'n ei wneud i godi ymwybyddiaeth am ac i gefnogi ymgeiswyr lloches a ffoaduriaid. Mae Gwobr Noddfa Met Caerdydd yn cynnwys hepgor ffioedd llawn, tocyn bws Met Rider, taleb ginio dyddiol, a chefnogaeth bersonol i alluogi myfyrwyr i nodi a goresgyn rhwystrau i gyflawniad ar eu rhaglen radd.

Ochr yn ochr â'i hastudiaethau, mae Larysa yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd addysg ar gyfer lles ymgeiswyr lloches. Mae Larysa hefyd yn aelod o'r Rhwydwaith Llais fel rhan o'r prosiect AVAIL (Ymhelaethu Lleisiau Ymgeiswyr Lloches a Ffoaduriaid ar gyfer Integreiddio a Sgiliau Bywyd). Mae hi hefyd wedi derbyn Gwobr Cenedl Noddfa gyntaf yn y categori gwirfoddol.

Dywedodd Larysa: "Mae Gwobr Noddfa Met Caerdydd wedi fy helpu i ddod o hyd i fy hunain eto ac wedi rhoi'r gallu i mi freuddwydio ar ôl ychydig flynyddoedd o galedi anghredadwy. Rwyf wedi cwympo yn ôl mewn cariad ag addysgu ac wedi gallu datblygu fy sgiliau proffesiynol, dyfnhau fy nealltwriaeth o'r broses addysgu a dysgu ac, yn bwysicaf oll, mae'r cwrs wedi rhoi cymorth i mi weld y posibiliadau ar gyfer datblygiad pellach.

"Rwyf wedi derbyn cefnogaeth anhygoel gan Met Caerdydd ac nid oes digon o eiriau gennyf eiriau i fynegi fy niolch tuag at Natalie Buckland a Paul Fitzpatrick; roeddent fel fy angylion gwarcheidiol a gefnogodd, a dywysodd, a ofalodd ac a ysbrydolodd fi yn ogystal â fy helpu i freuddwydio eto."

I ddarllen y stori yma yn Saesneg, cliciwch fan hyn.