Home>News>Myfyrwyr Dylunio Met Caerdydd mewn partneriaeth dylunio bwydgarwyr ar gyfer Y Parsnipship’

Myfyrwyr Dylunio Met Caerdydd mewn partneriaeth dylunio bwydgarwyr ar gyfer Y  Parsnipship’ 

​29/03/2019

 


Mae myfyrwyr Ail Flwyddyn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd wedi datblygu a dylunio deunydd pacio cynaliadwy ar gyfer brand bwyd Cymreig llwyddiannus Y 'Parsnipship' sy'n ffurfio rhan o'u gwaith cwrs a bydd yn fuan yn ymddangos ar silffoedd manwerthwyr.

Nododd briff dylunio byw y gweithgynhyrchwyr bwyd llysieuol a fegan o Ben-y-bont ar Ogwr y dylai'r deunydd pacio ymgorffori deunyddiau cynaliadwy ac ailgylchadwy i gyd-fynd ag ethos eco-gyfeillgar y cwmni.

Mae'r 'Parsnipship' wedi ennill gwobrau 'Great Taste' am eu Crymbl Morgannwg a'u 'Tandoori Mash-Up' ac yn galw'n gyson ar Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE y Brifysgol am gymorth, yn cynnwys defnyddio cwmni gwerthu a marchnata yn gysylltiedig â Phrosiect HELIX a ariennir gan yr UE. Ar yr achlysur hwn, cyfeiriodd ZERO2FIVE y Parsnipship at Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd am gymorth.   

Gweithiodd deuddeg tîm o fyfyrwyr ar y prosiect am chwe wythnos oedd yn cynnwys ymchwilio i'r farchnad deunydd pacio cyfredol, gan ddewis deunyddiau cynaliadwy priodol a datblygu ystod o gysyniadau addas.  

Fel rhan o'u hymchwil, defnyddiodd y myfyrwyr labordy Profiad Canfyddiadol uwch-dechnoleg y Brifysgol i ddelweddu sut byddai eu dyluniadau yn edrych mewn amgylchedd manwerthu ac yna cynnig eu dyluniadau terfynol wedi'u costio i'r cwmni.  

Roedd Neave Thorne, India Wynn, Mariam Abdelwahed a Jordan Hewlett yn aelodau o'r tîm buddugol a chawson eu dewis oherwydd eu dyluniad hynod od oedd yn adlewyrchu brand y Parsnipship.  

Roedd y dyluniad a enillodd yn cynnwys ffenestr yn galluogi darpar brynwyr i weld y cynnyrch tu mewn, wedi ystyried cynaladwyedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd ac wedi awgrymu cyflenwyr deunyddiau pacio lleol.  

Mae'r tîm 'Parsnipship'  wedi ymgorffori nifer o elfennau o'r dyluniad llwyddiannus yn y deunydd pacio newydd iddynt lansio yn ystod achlysur Blas Cymru yr wythnos diwethaf, sioe ryngwladol Llywodraeth Cymru yn arddangos y fasnach bwyd a diod.

Dywedodd Flo Ticehurst, cyd-berchennog y 'Parsnipship': "Roedd ansawdd y gwaith yn wirioneddol drawiadol ac roedd yn gyffrous i weld yr holl ddyluniadau'r timoedd. Rydyn ni'n ysu i ddangos i'r tîm llwyddiannus sut mae eu dyluniad wedi cael ei ddatblygu yn ein deunydd pacio newydd i'w fanwerthu. Gobeithio y byddan nhw wrth eu bodd i weld canlyniadau eu gwaith caled ar y silffoedd yn y dyfodol agos." 

Dywedodd Neave Thorne, myfyrwraig Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd "Roedd gweithio mewn partneriaeth gyda'r Parsnipship wedi rhoi cipolwg i mi ar weithio i gwmni cwmni dylunio cynnyrch real a'u cleientiaid. Mae dysgu am gwmni mor wreiddiol wedi agor fy llygaid i'r deunyddiau yr ydyn ni, fel dylunwyr cynnyrch, yn eu defnyddio a'r opsiynau sydd ar gael i helpu'r amgylchedd." 

Dywedodd Dr Clara Watkins, Cyfarwyddwr Rhaglen Adran Dylunio Cynnyrch y Brifysgol: "Bu hyn yn brofiad gwych i'n myfyrwyr. Mae unigrywiaeth cwmni Parsnipship a'r sialensiau'r briff byw wedi annog y myfyrwyr feddwl tu allan i'r bocs a'r canlyniad o'r herwydd yn brofiad dysgu gwirioneddol gyfoethog i'r myfyrwyr." 

Darllenwch fwy am sut y gwnaeth Neave Thorne, Myfyrwraig BA Dylunio Cynnyrch gyfrannu at y prosiect hwn

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.