Home>News>Stonewall yn Enwi Met Caerdydd Fel un or 100 cyflogwr LGBT gynhwysol Gorau ym Mhyrdain

Stonewall yn Enwi Met Caerdydd fel un o'r 100 Cyflogwr LGBT-gynhwysol Gorau ym Mhrydain

​21 Ionawr 2019

 

Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn safle 95ain ar restr cyflogwr cynhwysol blynyddol yr elusen LGBT

Mynegai Stonewall yn derbyn record o 445 o gyflwyniadau

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael ei henwi yn un o'r cyflogwyr mwyaf cynhwysol ym Mhrydain gan elusen cydraddoldeb lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol Stonewall yn ei restr 100 Cyflogwr Gorau ar gyfer 2019. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi’i gosod yn y 95ain safle ar restr eleni, naid enfawr o 185 y flwyddyn ddiwethaf.

Y 100 Gorau eleni oedd y mwyaf erioed gyda 445 o gyflogwyr yn ymgeisio, gan ddangos eu hymrwymiad i gynhwysiad yn y gweithle ar gyfer LGBT.

Fel rhan o'r 100 Gorau, mae Stonewall yn casglu mwy na 92,000 o ymatebion dienw gan weithwyr ar eu profiad o ddiwylliant ac amrywiaeth y gweithle ym Mhrydain. Yn ôl 93% o weithwyr nad ydynt yn LGBT a ymatebodd i'r arolwg, dywedant eu bod yn deall pam fod eu cyflogwr wedi ymrwymo i gydraddoldeb LGBT.

Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: : “Mae cael ein rhoi ar y rhestr 100 Cyflogwr Gorau ar gyfer 2019 yn gyflawniad gwych ac yn dyst i waith pawb sy'n ymwneud â chymuned Met Caerdydd.

"Mae ein rhwydwaith staff LGBT+, yr wyf yn aelod ohono, wedi cynyddu gwelededd staff a myfyrwyr LGBT+ ac wedi hyrwyddo gwerth amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant mewn dull positif trwy gydol y flwyddyn ac er budd pawb.

"Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda staff a myfyrwyr i ddatblygu'r diwylliant cynhwysol hwn, lle derbynnir pob person lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a di-ddeuaidd yn ddieithriad, a bod Met Caerdydd yn dod yn Brifysgol o ddewis cyntaf i fyfyrwyr LGBT+ a staff."

Y llynedd, cyhoeddodd Stonewall ymchwil a ddatgelodd fod mwy na thraean o staff LGBT (35 y cant) wedi cuddio eu bod yn LGBT yn y gwaith ac mae bron i un o bob pump o weithwyr LGBT (18 y cant) wedi bod yn darged sylwadau negyddol gan gydweithwyr oherwydd eu hunaniaeth.

Dywedodd Darren Towers, Cyfarwyddwr Gweithredol Stonewall: “Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd a phawb sydd wedi cyrraedd y rhestr 100 Cyflogwr Gorau eleni yn gwneud gwahaniaeth mawr i weithleoedd, gwasanaethau a chymunedau ledled y DU.

"Mae cyflogwyr cynhwysol LGBT yn chwarae rhan hanfodol wrth newid cymdeithas trwy ddefnyddio eu pŵer a'u dylanwad i warchod a chefnogi pobl LGBT.

"Mae mwy na thraean o staff LGBT (35 y cant) yn dal i guddio eu hunaniaeth yn y gwaith oherwydd ofn gwahaniaethu; sy'n effeithio ar gynhyrchiant, llesiant a mwy ac yn dangos bod gennym lawer i'w wneud o hyd.

"Fodd bynnag, gyda sefydliadau fel Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn dangos ymrwymiad mor gryf i gydraddoldeb LGBT, yr ydym gam yn nes at greu byd lle caiff holl weithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol eu croesawu a'u derbyn yn ddieithriad.”

Detholir 100 Gorau Stonewall o gyflwyniadau i'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, offeryn meincnodi pwerus a ddefnyddir gan gyflogwyr i asesu eu cyflawniadau a chynnydd ar gydraddoldeb LGBT yn y gweithle, yn ogystal â'u gwaith ehangach yn y gymuned ac ar ddarparu gwasanaethau.

Rhaid i bob sefydliad ddangos eu harbenigedd mewn 10 maes polisi ac ymarfer cyflogaeth, gan gynnwys grwpiau rhwydweithio, uwch arweinyddiaeth, caffael a pha mor dda y maent wedi ymgysylltu â chymunedau LGBT.

ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.