Home>News>Taith Tenis Bwrdd ITTF

Met Caerdydd i gynnal Taith Tenis Bwrdd ITTF Cyn-filwyr y Byd, 14-15 Rhagfyr

 

​12 Rhagfyr 2019

Mae Canolfan Athletau Cenedlaethol Dan Do eiconig Prifysgol Metropolitan Caerdydd (NIAC) yn croesawu cam olaf Taith Tenis Bwrdd ITTF Cyn-filwyr y Byd, 2019.

Bydd dau ddiwrnod o gystadlu lle chwaraeir gemau sengl a pharau merched a dynion a'r gorau o bum gêm fydd yr enillwyr.

 Y Cynghorydd Jackie Parry, Dirprwy Arglwydd Faer Caerdydd fydd yn agor y digwyddiad yn NIAC, a fu, ers ymron 20 mlynedd, yn fagwrfa yng Nghaerdydd i nifer o athletwyr Olympaidd, Paralympaidd a sêr chwaraeon cenedlaethol.

Dywedodd Owen Rodgers, Dirprwy Gyfarwyddwr Chwaraeon Met Caerdydd: "Mae Taith Tenis Bwrdd Cyn-filwyr y Byd yn ddigwyddiad gwych ac rydyn ni wrth ein bodd i groesawu'r achlysur yma yn y Ganolfan Athletau Dan Do Cenedlaethol."

"Mae'r lleoliad hwn yn croesawu athletwyr Olympaidd, Paralympaidd, sêr y dyfodol ac amaturiaid bob dydd ac mae'n llwyfan i lwyddiannau gorau byd chwaraeon, boed fach neu fawr." 

I ddarllen y stori yma yn Saesneg cliciwch fan hyn.