Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu 2018

Mae'n bleser gan Uned Datblygiad Dysgu ac Addysgu (UDDA/LTDU) gyhoeddi bydd Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael ei chynnal  Ebrill 12fed 2018 a bod yr alwad am gyfraniadau i'r achlysur bellach ar agor. 

 

Cynhadledd 2018 - Amserlen.pdf

Cynhadledd 2018 - Gweithdy.pdf 

 

Conference Proceedings

Keynote:Resources
​Michelle MorganDatblygumentrau yn effeithiol er mwyn gwella profiadau myfyrwyrPDF
Stories: ​ ​
​Gwasanaethau Myfyrwyr: Michou Burckett St Laurent, Lisa Aske,

Sean Rawlings, Liz Dempsey, Phoebe Grandfield

Trosglwyddoi Brifysgol gyda Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig

 

 

Sean Rawlings

Liz Dempsey

Phoebe Grandfield

​Irene DeeMeithrin cymuned y myfyrwyr
Cheryl Ellis a Myfyrwyr Ysgol Addysg Caerdydd a Pholisi Cymdeithasol: Nic Kinnaird, Jade Staniforth & Rachael JoycePeidiwch anghofio amdana i! Safbwyntiau myfyrwyr ar drosglwyddo o lefel 4 i lefel 5​PDF
​David AldousCefnogi trosglwyddo myfyrwyr drwy adrodd straeonPDF
Pecha Kuchas:​ ​
​Daniel Tiplady & Sue TangneyBle mae’r Gymraeg? Myfyrwyr o addysg cyfrwngCymraeg sy'n astudio yn Saesneg – sut y gall staff gefnogi'r myfyrwyr hynPDF
​Lisa WrightNeidioar y bws…
​Jo HendyCymrawd Addysgu Cenedlaethol Met Caerdydd 2017/18​PDF
Gweithdy:
​Henry DawsonCyfnewid rhithwir, cyrraedd y byd y tu allan o'r ystafell ddosbarthPDF
​Cath DaviesMeithrin ymarferwyr myfyriol’PDF
​Michelle Morgan​Datblygu mentrau yn effeithiol er mwyn gwella profiadau myfyrwyr

​PDF

Handout

Undeb y Myfyrwyr: Ieaun Gardiner & Hannah ReillyMeithrin ymdeimlad o berthyn – cymdeithasau sy'n seiliedig ar gyrsiau
​Jemma Oeppen Hill & Irene DeeTrosglwyddo i Ffasiwn – Straeon am fodiwl rhwng ysgolion a ddyluniwyd i efelychu arferion y diwydiant​PDF
​Francesca Cooper & Helen WhitneyDefnyddio dulliau hyfforddi i diwtora personol
Tîm Rhaglen Technoleg DdeintyddolAlla i ddim dy helpu di os nad wyt ti'n fodlon cwrdd â fi – galluogi myfyrwyr i gael gafael ar staff drwy ddefnyddio technolegau ar-lein
​Martyn WoodwardDechrau gyda 'Pam' – Dull o gyfleu'r cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr’​PDF
​Steve OsborneDatblygu cyflogadwyedd drwy daith y myfyriwr
Tîm Hwyluso GweledolDarlunio cyfnodau pontio myfyrwyr

Thema'r Gynhadledd: Beth sy'n Gweithio? Cefnogi Pontio drwy gydol Cylch Bywyd y Myfyriwr  

Mae pontio positif ac effeithiol drwy gydol cylch bywyd y myfyriwr wedi'i gysylltu â gwell ymgysylltu, dargadwad a llwyddiant. Bydd Cynhadledd Wanwyn 2018 yn ystyried yr hyn sy'n gweithio mewn perthynas ag ymarfer, adnoddau, ymyriadau a strategaethau sydd wedi'u profi i fod yn gymorth effeithiol ac sy'n rhoi grym i ddysgwyr drwy gyfnodau pontio arwyddocaol ar eu taith drwy addysg uwch. Bydd y gynhadledd yn gyfle i arddangos yr arferion gorau tra hefyd yn cynyddu'r gallu o fewn Prifysgol Metropolitan Caerdydd i weithredu newidiadau addysgiadol effeithiol. 

Mae model cylch bywyd myfyriwr Lizzio (2011) yn cynnig fframwaith buddiol i ddeall a wynebu gofynion datblygol gofynion y myfyrwyr wrth iddyn nhw bontio tuag at (darpar fyfyrwyr), i mewn i (myfyrwyr sy'n cychwyn), drwy (myfyrwyr sy'n parhau), mynd i fyny, ac allan (graddedigion) ac yn dychwelyd (cyn fyfyrwyr) i'r brifysgol. (Gweler Ffigwr 1).

Ffigwr 1: Model Cylch Bywyd Myfyriwr Lizzio   [Lizzio's Student Life Cycle model] 

Cyfeiriadaeth: Lizzio, A. (2011). "The student lifecycle: An integrative framework for guiding practice. Brisbane, Awstralia: Prifysgol Griffith. 

Mae'r Uned Datblygiad Dysgu ac Addysgu (LTDU) yn gwahodd cyfraniadau gan staff ar hyd a lled Prifysgol Metropolitan Caerdydd sy'n arddangos arferion ardderchog wrth gynorthwyo myfyrwyr drwy'r cyfnodau pontio allweddol hyn. Dylai'r cyfraniadau fod yn seiliedig ar arferion cyfredol. Gall rhain, er enghraifft, gynnwys y canlynol:

  • Ymyriadau cyn-mynediad: rhai sy'n helpu i wneud penderfyniadau, ymglymu'n gynnar, integreiddio cymdeithasol, datblygu disgwyliadau cywir a chynorthwyo paratoi academaidd i wella'r pontio.
  • Gweithgareddau sefydlu: rhai sy'n datblygu gallu'r myfyriwr i ymglymu a pherthyn, yn annog datblygiad perthynas gefnogol ymhlith cymheiriaid, darparu rhyngweithiad ystyriol gyda staff, (yn cynnwys Tiwtoriaid Personol), rhoi grym i fyfyrwyr, hyrwyddo datblygiad gwybodaeth/sgiliau, hyder a hunaniaeth fel dysgwyr llwyddiannus ac ymglymu myfyrwyr yn weithredol gyda'u dewis o raglen/ o faes pwnc.
  • Dulliau o fynd ati i gynorthwyo myfyrwyr ar Lefel 5 a thu hwnt: er enghraifft, gweithgareddau sy'n ystyried natur gyfnewidiol disgwyliadau'r myfyrwyr, eu huchelgais a'u pryderon wrth iddyn fynd drwy lefelau newydd o astudio. Hefyd, dulliau o ail-sefydlu sy'n helpu myfyrwyr i ymdopi â newidiadau yng nghyflymdra a gofynion astudiaethau academaidd, y defnydd o hunan-asesu i hyrwyddo adfyfyrio ar berfformiad academaidd a'u huchelgais ar gyfer y dyfodol.
  • Gweithgareddau sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer y pontio allan o'r brifysgol: rhai fel cynllunio datblygiad personol, pedagogeg sy'n cefnogi datblygiad sgiliau graddedigion, gwybodaeth, profiad, hyder a gwytnwch (e.e. asesiad dilys, datrys problemau, lleoliadau gwaith, gwirfoddoli) gweithgareddau hunan-fyfyriol neu ddulliau sy'n darparu myfyrwyr i ymdopi â gofynion astudiaethau ar lefel ôl-raddedig.

Prif Siaradwr y Gynhadledd: Michelle Morgan 

Mae Michelle Morgan yn Athro Cyswllt a Deon Cyswllt Profiad Myfyrwyr yng Nghyfadran y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Bournemouth ac mae'n Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Yn flaenorol, roedd hi'n grewr ac yn Brif Ymchwilydd / Arweinydd Prosiect  grant o £2.7 miliwn ar gyfer 11 prifysgol cydweithredol HEFCE yn edrych ar y disgwyliadau a'r agweddau tuag at astudiaeth ôl-raddedig a addysgir (PGT) mewn Astudiaethau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), a chanlyniadau ôl-astudiaeth o'r safbwynt myfyrwyr, prifysgolion a chyflogwyr i gefnogi a chynnal twf PGT yn y DU.  Mae adroddiad y prosiect wedi derbyn canmoliaeth o bob rhan o'r sector, gan gynnwys UKCGE, OFFA, yr Academi Addysg Uwch a'r Cyngor Athrawiaeth Peirianneg.  Cyn hynny, roedd hi'n Gydlynydd Addysgu a Dysgu a Rheolwr Profiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Kingston.

Yn ystod ei gyrfa, mae Michelle wedi bod yn Reolwr Cyfadran, yn Ymchwilydd ac yn Academydd. Mae hi'n disgrifio'i hun fel ymarferydd profiad myfyrwyr sy'n datblygu mentrau yn seiliedig ar ymchwil pragmatig ac ymarferol. Mae Michelle wedi cyhoeddi'n helaeth yn y maes ac o ganlyniad i'w phrofiad mae wedi datblygu model trosglwyddo myfyrwyr ymarferol manwl i helpu i arwain cydweithwyr sydd yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith i wella profiad y myfyrwyr ar draws gweithgareddau academaidd ac anacademaidd.

Yn 2005, cafodd wobr arbennig gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Sussex am Gyflawniad a Rhagoriaeth Eithriadol. Yn 2009, fe'i gwnaed yn Gymrawd Cymdeithas Gweinyddwyr y Brifysgol (AUA) ac mae hi'n Aelod Cyswllt Cenedlaethol ac yn Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.  Fe'i henwebwyd ar gyfer Athro'r Flwyddyn yn 2011 ac yn 2015 derbyniodd wobr Addysgu a Dysgu dan Arweinyddiaeth Myfyrwyr gan Undeb y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Kingston. Cyd-ysgrifennodd a chyflwynodd gyfres radio 5 rhan ar gyfer BBC China yn 2011 ar brofiad y myfyriwr. Mae Michelle wedi cyflwyno dros 80 o bapurau cynadledda cenedlaethol a rhyngwladol (12 prif sgwrs a 25 papur gwahoddedig).   Mae hi wedi cael 12 pennod llyfr wedi'u cyhoeddi ac mae ganddi 5 erthygl newyddion cenedlaethol a rhyngwladol cyhoeddedig a adolygwyd gan gyfoedion sy'n canolbwyntio ar brofiad myfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig. Mae hi'n olygydd a chyfrannwr sylweddol i ddau lyfr sy'n troi o gwmpas ei Model Trawsnewid Profiad Myfyrwyr a gynlluniwyd i helpu cydweithwyr i gefnogi myfyrwyr Israddedig a myfyrwyr PhD. Mae hi wedi datblygu porth am ddim i staff sy'n darparu ystod o wybodaeth a dolenni i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella profiad myfyrwyr mewn addysg uwch www.improvingthestudentexperience.com

 

Darllenwch gyhoeddiad diweddaraf Michelle:

Morgan, M. a Direito, I. (2016) Widening and sustaining postgraduate taught (PGT) STEM study in the UK: a collaborative project. Creating change through understanding expectations and attitudes towards PGT study, experiences and post-study outcomes from the perspective of applicants, students, universities and employers. Ar gael yn:  http://www.postgradexperience.org/project-docs/