Mae Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Chwaraeon Anabledd Cymru wedi lansio'r Brifysgol fel Canolfan Rhagoriaeth ar gyfer Chwaraeon Anabledd Cymru ac fel adnodd hyfforddi fydd yn darparu lefelau gwell fyth ar gyfer gweithgareddau i bobl ag anableddau.
Mae'r cyhoeddiad yn gosod trefn ffurfiol ar y cydweithio dros dair blynedd rhwng Met Caerdydd a Chwaraeon Anabledd Cymru sydd eisoes â hanes o weithio'n glos gyda'i gilydd, gyda llawer o bobl chwaraeon i'r anabl, gan gynnwys Paralympiaid ymhlith cyn fyfyrwyr y Brifysgol.
Bu Nathan Stephens, Geraint Richards, Busra Un a Harrison Walsh yn gyd-aelodau panel gyda'r Dr Joanna Hendy, Cyfarwyddydd Gwella Dysgu Met Caerdydd; Yr Athro Leigh Robinson, Athro Rheolaeth Chwaraeon; Dirprwy Is-Ganghellor (Campws Cyncoed) a Deon yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd yn ogystal â Fiona Reid, Prif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru.
Bu'r panel yn trafod amrediad o faterion cyfredol gan gynnwys sut gall pobl wella eu hiechyd a llesiant drwy ragor o weithgaredd corfforol.
Mae'r cyn fyfyriwr Nathan Stephens yn Gymrawd Anrhydeddus o'r Brifysgol; mae'n Baralympiad (Gaeaf a Haf), yn athletwr Gemau'r Gymanwlad 2018 (Para Godwr Pwysau) a Swyddog Llwybr Perfformiad i Chwaraeon Anabledd Cymru.
Mae Geraint yn Hyfforddwr Tenis Cadair Olwyn ym Met Caerdydd a bu'n hyfforddi sgwadiau'r DU yng Ngemau Paralympaidd Rio de Janeiro ac yn sylfaenydd GJR Performance Solutions
Mae'r fyfyrwraig Ôl-radd Ryngwladol Busra Un yn chwarae tenis Paralympaidd i dim gwlad Twrci a Harrison Walsh yn cystadlu ar daflu'r Ddisgen F44.
Meddai Fiona Reid: "Bu perthynas hynod agos a phositif rhwng Chwaraeon Anabledd Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd erioed, ac mae'r bartneriaeth newydd hon nawr yn caniatáu i ni ddathlu'r gwaith hwn o gydweithredu rydyn ni'n ei gyflawni'n barod; ond mae hefyd yn rhoi cyfle i fwy o dwf ar gyfer athletwyr, cyfranogwyr, myfyrwyr a staff yn y ddau sefydliad. Drwy gydweithio gallwn sicrhau gall athletwyr a chyfranogwyr gael mynediad i'r adnoddau diweddaraf ynghyd â chefnogaeth, ac y bydd myfyrwyr a staff academaidd yn cael profiad wedi ei ffocysu ym maes chwaraeon i'r anabl. Mae'n gydweithrediad cyffrous a rydyn ni'n hynod falch o weithio'n ffurfiol mewn partneriaeth gyda Phrifysgol mor arloesol sy'n cael ei gyrru gan ei gwerthoedd."
Dywedodd y Dr Huw Wiltshire, Deon Cysylltiol: Menter ac Arloesedd Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd: "Mae'r Brifysgol yn hyrwyddo ei gwerthoedd drwy bartneriaethau allweddol a rhai sydd ag ymddiriedaeth ac y mae Chwaraeon Anabledd Cymru'n rhannu'r un egwyddor o hyrwyddo amrywiaeth a bod yn gynhwysol. Cymrawd diweddaraf y Brifysgol ydy Nathan Stephens sy'n hyfforddwr talentog a chyn athletwr ac yn enw mae pawb yn ei gysylltu â chwaraeon Paralympaidd, nid yn unig yng Nghymru, ond drwy'r byd.
"Yr arwyddair Paralympaidd ydy 'Spirit in Motion' sy'n adlewyrchu amcanion y Ganolfan i gynorthwyo'r rhai sy'n cymryd rhan a'r rhai sy'n chyrraedd perfformiad ym maes chwaraeon drwy gefnogaeth ymchwil hyblyg, prosiectau arloesol a dysgu seiliedig ar waith cynhwysol i fyfyrwyr."
Drwy'r Ganolfan, bydd y Brifysgol yn cynorthwyo i yrru nodau Chwaraeon Anabledd Cymru i ddileu'r rhwystrau rhag cymryd rhan, ac i helpu rhagor o bobl i fod yn fwy actif, am ragor o amser.
"Cymrodoriaeth ydy'r anrhydedd uchaf sydd gan y Brifysgol ac y mae Nathan Stephens wedi ei derbyn. Fel Prifysgol, rydyn ni'n hyrwyddo rheoli bod yn gynhwysol ac amrywiaeth ble bynnag y mae modd."
I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.